Pop-up Gaeltacht
Mae'r Pop-Up Gaeltacht (Gwyddeleg: Tob-Ghaeltacht) yn gyfarfod a digwyddiad anffurfiol o siaradwyr Gwyddeleg o alluoedd amrywiol (yn aml mewn bar tafarn) lle gallant gwrdd a siarad mewn awyrgylch hwyliog. Yn Nulyn gall cynulliadau o'r fath gynnwys hyd at 300 o bobl, ac mae digwyddiadau tebyg wedi'u cynnal dramor.[1]
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2017 |
Sylfaenydd | Osgur Ó Ciardha, Peadar Ó Caomhánaigh |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r enw yn chwarae ar y cysyniad o'r Gaeltacht - bro Wyddeleg ei hiaith a pop-up sef, digwyddiad dros-dro a therm a ddefnyddir mewn cyd-destun eraill cyfoes fel 'pop-up bar' neu 'pop-up restautant'.[2]
Sefydlu
golyguArloeswyr y Pop-Up Gaeltacht oedd Osgur Ó Ciardha a Peadar Ó Caomhánaigh, ymgyrchwyr iaith a sefydlodd yr un gyntaf yn Nulyn yn 2017.[3] Y nod oedd darparu gofod lle gallai siaradwyr Gwyddeleg sgwrsio'n rhydd heb deimlo rheidrwydd i newid i'r Saesneg er budd unrhyw un nad oedd yn siarad Gwyddeleg oedd yn bresennol.[4]
Mewn astudiaeth o'r ffenomen mae Stiofán Seoighe wedi dadlau bod yn rhaid i brosiect o'r fath gael ei weld yng nghyd-destun dilysu hunaniaeth siaradwyr anhraddodiadol iaith leiafrifol, a bod hon yn broses barhaus.[4]
Cyd-destun a Llwyddiant
golyguAmcangyfrifwyd bod tua 200,000 o siaradwyr Gwyddeleg dyddiol ac wythnosol yn Iwerddon, gogledd a de, sy’n “nuachainteoirí” – h.y. nid siaradwyr brodorol traddodiadol. O'r rhain, mae bron i 15,000 yn byw yn Nulyn, sef bron i 20% o'r siaradwyr dyddiol yn genedlaethol.[4] Roedd yn fwriad gan sylfaenwyr y Pop-Up Gaeltacht i hyd yn oed y rhai llai hyderus o'r siaradwyr hynny gael man cyhoeddus lle gallent sgwrsio'n gyfforddus.[1]
Mae'r mynychwyr, yn ôl Osgur Ó Ciardha, mae'r digwyddiad yn cynnwys "hen ac ifanc, dysgwyr a phawb rhwng hynny, a dwi'n golygu pawb". Maent mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cymdeithasol lle "nad oes angen newid i'r Saesneg, a lle ceir sgyrsiau nid am y Wyddeleg, ond yn y y Wyddeleg."[5]
Yn ôl Ciardha ysbrydolwyd ef a Peadar Ó Caomhánaigh i sefydlu'r Pop-up Gaeltacht oherwydd yr "y cylch negatif o newyddion sy'n amgylchynu'r iaith" a'r teimlad bod siarad y Wyddeleg yn aml yn cael ei weld fel "rhyw fath o act berfformiadol" gyda chefnogaeth grant. "Mae'n hawdd iawn diystyru pobl na allwch weld, neu, yn achos y Wyddeleg, gallwch ddim clywed ... Roeddem am brofi bod siaradwyr trefol Gwyddeleg yn bodoli ac roeddem am roi 'Bat Signal' [cyfeiriad at symbol yr ystlum a theflir i'r nen gan Batman i nodi ei bresenoldeb i bawb] i'r Gaels ar wasgar i ymgynnull."[5] Nododd Ó Ciardha hefyd bod bodolaeth y Pop-up Gaeltacht yno i fod yn ychwanegiad i ffurf a lleoliadau eraill, tiriogaethol lle siaredir Gwyddeleg.
Ceir hefyd Pop-up Gaeltach na nÓg (ifanc) gan rieni sydd â phlant a methu mynychu digwyddiadau mewn awrgylch tafarn.[5]
Tramor
golyguMae'r Pop-Up Gaeltacht wedi dod o hyd i rywfaint o boblogrwydd yn America ac mewn mannau eraill. Yn 2019 cynhaliwyd un yn Efrog Newydd,[1] ac mae eraill wedi'u cynnal yn La Jolla, Los Angeles a Washington DC[6] Mae eraill eto wedi'u cynnal yn Awstralia, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Canada a Bolifia.[1] Mae'r cychwynwyr wedi amcangyfrif bod dros 150 wedi'u cynnal ledled y byd.
Mae'r cysyniad hefyd wedi lledaenu ieithoedd lleiafrifol eraill. Yn 2019 ar Ynys Manaw, cynhaliwyd ‘Pop-up Gaeltaghts’ Manaweg fel rhan o ŵyl Cooish,[7] gŵyl sy’n hybu’r iaith Fanaweg, a gan Pobble, sefydliad ac elusen eiriolaeth iaith Manaweg.[8]
Sylw yng Nghymu
golyguCafwyd cyflwyniad gan Dr Osian Elias o Brifysgol Abertawe mewn cynhadledd ar thema Iaith a Busnes gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar natur a llwyddiant y Pop-up Gaeltacht ar 24 Mehefin 2022.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Sorcha, Pollak (25 Medi 2017). "Move over Ring and Dingle: the pop-up Gaeltacht is here". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Awst 2020.
- ↑ "Pop-Up Restaurants: Everything You Need to Know" (yn Saesneg). Connect Smart. Cyrchwyd 23 Mawrth 2022.
- ↑ Egan, Caroline (11 August 2019). "How Pop-Up Gaeltacht is Reviving Irish in Pubs". Foot For Thought. Cyrchwyd 1 August 2020.[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Seoighe, Stiofán (30 Tachwedd 2018). "‘Is libhse an chathair’ — Pop Up Gaeltacht agus nuachainteoirí na Gaeilge". Comhar. https://comhartaighde.ie/eagrain/4/seoighe/.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Pop-Up Gaeltacht: A One Night Stand Osgur Ó Ciardha" (yn Saesneg). TEDxBallyroanLibrary. 16 Tachwedd 2018.
- ↑ "Want to learn Irish? These events taking place across the US can help you start". Irish Central (yn Saesneg). 29 Awst 2019. Cyrchwyd 1 Awst 2020.
- ↑ "Cooish 2019". Learn Manx (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Awst 2020.
- ↑ "Successful Gaeltaght in the North". Pobble (yn Saesneg). 6 Ebrill 2019. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
- ↑ "Cynhadledd Iaith a Busnes". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 23 Mehefin 2022.
Dolenni allanol
golygu- Cyflwyniad 'Pop-Up Gaeltacht: A One Night Stand Osgur Ó Ciardha ar TEDxBallyroan
- Tudalen op up Gaeltacht ar Facebook
- @popupgael ar Twitter
- Pop-up Gaeltacht Archifwyd 2021-08-04 yn y Peiriant Wayback ar wefan Conradh na Gaeilge