Grŵp eiriolaeth dros Manaweg, iaith frodorol Ynys Manaw ac elusen yw Pobble ("Pobl; Cymuned; Gwerin"). Mae'n gweithio i hyrwyddo'r iaith Fanaweg fel "ased cymunedol" ar yr Ynys.[1][2] Mae Pobble hefyd wedi dyfarnu Aundyr Brian Stowell ("Gwobr Brian Stowell") ers 2019.[3]

Pobble
Enghraifft o'r canlynolcarfan bwyso Edit this on Wikidata
 
Baner Ynys Manaw

Lansiwyd y mudiad yn 2013 yn sgil tŵf mewn diddordeb yn yr iaith. Nodwyd Adrian Cain, Swyddog Datblygu'r Iaith Fanaweg yn Sefydliad Etifeddiaeth Manaw (Manx Heritage Foundation), "bwysigrwydd parhau i ehangu tŵf Manaweg a sicrhau bod pobl yn deall ei phwysigrwydd i ddiwylliant, economi a hunaniaeth Ynys Manaw. Bydd ‘Pobble’ yn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud â’r mudiad iaith yn parhau i ledaenu’r neges ac adeiladu ar y llwyddiannau a gafwyd eisoes."[4]

Gweithgareddau

golygu

Lansiwyd Pobble yn mhrifddinas Ynys Manaw, Douglas ym mis Medi 2013 gyda'r nod o hybu'r defnydd o'r iaith Fanaweg fel iaith gymunedol ar Ynys Manaw.[4] Mae'r grŵp hefyd yn anelu at gynyddu nifer y plant sy'n derbyn addysg iaith Fanaweg ddwyieithog trwy ddarparu cefnogaeth i Mooinjer veggey a Bunscoill Ghaelgagh.[2]

Mae Pobble wedi trefnu digwyddiadau cymunedol lle mae Manaweg yn gallu cael ei siarad mewn sefyllfa achlysurol fel Gaeltaght Pop-Up, sy'n amrywiad ar y Pop-up Gaeltacht sy'n boblogaidd yn Iwerddon.[5]

Yn 2019 cyhoeddodd Pobble system bydi sy'n paru dysgwyr iaith Manaweg â siaradwyr mwy profiadol.[6][7]

Maent yn hyrwyddo gwersi ac adnoddau dysgu'r iaith Fanaweg gan gynnwys adnoddau ar dudalen Youtube, Learn Manx.[8]

Aundyr Brian Stowell

golygu

Yn 2019 crëwyd Aundyr Brian Stowell ("Gwobr Brian Stowell") er cof am gyfraniad Brian Stowell i'r iaith Fanaweg. Fe’i dyfernir am unrhyw ddarn o waith creadigol a gynhyrchir yn Manaweg:" gallai cofnod fod yn gerdd, yn stori, yn ddrama, yn ffilm, yn recordiad sain, neu’n ddarn gweledol neu gerddorol gyda thestun Manaweg, neu, er enghraifft, yn erthygl am yr iaith Manaweg a hanes, cyfieithiad, ap digidol , realiti estynedig, neu wasanaeth gwefan."[3]

Mae'r gystadleuaeth yn dyfarnu £300 am y wobr gyntaf, £200 am yr ail, a £100 am y drydedd. Cyhoeddwyd enillydd y wobr gyntaf Aundyr Brian Stowell yng ngŵyl iaith Manaweg Cooish.[9][10]

Enillwyr Aundyr Brian Stowell
Blwyddyn Gwobr 1ad 2il Wobr 3ydd Wobr
2019 Jo Callister[9] Jo Callister Felicity Wood
2020 Vicky Webb[11]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "About Us". Pobble. Cyrchwyd 17 August 2020.
  2. 2.0 2.1 "Pobble Prospectus". Pobble. 2013. Cyrchwyd 17 August 2020.
  3. 3.0 3.1 "Aundyr Brian Stowell 2019". Pobble. 19 May 2019. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  4. 4.0 4.1 Kneale, Alastair (6 Hydref 2013). "Launch of 'Pobble' Builds on Successful Growth in Manx Gaelic Language". Transceltic. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  5. "Successful Gaeltaght in the North". Pobble. 6 April 2019. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  6. "New Pobble website and Buddy system". Learn Manx. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  7. "Learn". Pobble. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  8. "Learn Manx". Learn Manx. Cyrchwyd 4 Ebrill 2022.
  9. 9.0 9.1 "Pobble: Winner Aundyr Brian Stowell announced". Learn Manx. Cyrchwyd 17 Awst 2020.
  10. "Join the Cooish for a coloayrtys and a cabban dy hey". IOM Today. 17 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 17 Awst 2020.[dolen farw]
  11. "Londeyr award presented to illustrator Vicky Webb". Learn Manx. Cyrchwyd 5 January 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Manaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato