Copor bach
Lycaena phlaeas | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
| |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Genws: | Lycaena |
Rhywogaeth: | L. phlaeas |
Enw deuenwol | |
Lycaena phlaeas (Linnaeus, 1761) |
Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Lycaenidae yn urdd y Lepidoptera yw copor bach, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy coprau bach; yr enw Saesneg yw Small Copper, a'r enw gwyddonol yw Lycaena phlaeas.[1][2] Daw'r gair phlaeas o'r Groeg am 'losgi' - yr un gair a roddodd i ni fflam yn y Gymraeg, o bosib.
Tiriogaeth
golyguMae'n löyn byw eitha cyffredin drwy Ewrop, Asia a gogledd America, ac fe'i ceir hefyd yng Ngogledd Affrica ac i'r de hyd at Ethiopia. Mae hefyd i'w gael yng Nghymru a de a chanol Lloegr, ond nid mewn niferoedd mawr. Ar adegau prin, fe'i ceir hefyd yn yr Alban, gogledd Lloegr ac Iwerddon.
Cylch bywyd
golygu- Wy
Dodwyir yr wyau fesul un, fel arfer o dan ddeilen y planhigyn fydd yn fwyd. Planhigion mewn heulwen llawn sydd yn hoff ganddynt. Mae'r wy yn wyn ar ôl ei ddodwy ond yn llwydo yn raddol cyn i'r larfa ddeor. Maent yn cymryd wythnos i bythefnos i ddeor.[1]
- Lindysen (larfa)
Gwyrdd gyda blew gwasgarog a dwy stribedyn pirffor ar eu hyd, rhain yn fwy neu llai amlwg.[2]
- Chwiler (piwpa)
Dinod, bach, ffurf sigár, brown.[3]
- Oedolyn (imago)
Gweler y delweddau.
Dwy genhedlaeth y flwyddyn (data ar gyfer y graff wedi eu casglu o ogledd Cymru)
Ail ehediad y Copor Bach
Dyma löyn y copor bach yn blasu blodau seren y morfa ar y Foryd Bach, Llanwnda (Arfon), hydref 2008. Ni allai’r llun hwn fod wedi ei dynnu ond yn yr hydref. Mae seren y morfa yn ei flodau yn y tymor hwnnw, a dyma’r ddau efo’u gilydd yn yr un llun. (Perthynas agos seren y morfa yw blodyn Mihangel - dyddiad Hên Wyl Mihangel yw’r 10fed o Hydref).
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r copor bach yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.