Courtney Love
Cantores Americanaidd o dras Gymreig a Gwyddelig yw Courtney Love (ganwyd 9 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gitarydd, cyfansoddwr caneuon, actores ac awdur.
Courtney Love | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw |
Courtney Michelle Love, Courtney Love Cobain, Courtney Michelle Cobain, Love Michelle Harrison, Courtney Michelle Menely, Coco Rodriguez ![]() |
Llais |
Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014.ogg, Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014 (with reference to her own Wikipedia).ogg ![]() |
Ganwyd |
9 Gorffennaf 1964 ![]() San Francisco ![]() |
Man preswyl |
Los Angeles ![]() |
Label recordio |
Sympathy for the Record Industry ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
gitarydd, canwr, actor, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr, bardd, cerddor, actor ffilm, ysgrifennwr, cynhyrchydd recordiau, model, artist recordio ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth roc, roc amgen, grunge ![]() |
Math o lais |
contralto ![]() |
Tad |
Hank Harrison ![]() |
Mam |
Linda Carroll ![]() |
Priod |
Kurt Cobain ![]() |
Plant |
Frances Bean Cobain ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed Courtney Michelle Harrison yn San Francisco ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Taleithiol Portland a Choleg y Drindod, Dulyn. Priododd Kurt Cobain ac mae Frances Bean Cobain yn blentyn iddi. [1][2][3][4]
Roedd yn ffigwr amlwg yn sîn pync a grunge y 1990au, ac mae ei gyrfa wedi rhychwantu pedwar degawd. Cododd Love i amlygrwydd fel prif leisydd y band roc amgen Hole, a ffurfiodd ym 1989. Tynnodd sylw'r cyhoedd i'w pherfformiadau byw penchwiban, heb ei ffrwyno a'i geiriau llawn gwrthdaro, ynghyd â'i bywyd personol hynod gyhoeddus yn dilyn ei phriodas â Kurt Cobain, blaenwr y band 'Nirvana'.
MagwraethGolygu
Fe'i ganed yn 'Ysbyty Coffa Saint Francis' yn San Francisco, California, yn blentyn cyntaf i'r seicotherapydd Linda Carroll (g. Risi) a Hank Harrison, cyhoeddwr a rheolwr ffordd y band Grateful Dead.[5][6][7] Tad bedydd Love yw basydd a sylfaenydd y Grateful Dead, Phil Lesh.[8][9] Datgelwyd yn ddiweddarach bod ei mam, a gafodd ei mabwysiadu adeg ei geni a'i magu gan deulu Eidalaidd-Catholig amlwg yn San Francisco, yn ferch fiolegol y nofelydd Paula Fox.[10][11][12] Roedd hen-nain mamol Love, sef Elsie Fox, yn sgriptiwr-sgrin.[13] Yn ôl Love, cafodd ei henwi ar ôl Courtney Farrell, prif gymeriad y nofel Chocolates for Breakfast gan Pamela Moore. Mae hi o dras Almaeneg, Ciwbaidd, Cymreig, Gwyddelig a Saesnig.[14][15]
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Treuliodd Love ei phlentyndod yn ardal Haight-Ashbury yn San Francisco tan ysgariad ei rhieni yn 1969, a sbardunwyd gan honiadau ei mam fod ei thad wedi bwydo Courtney gydag LSD pan oedd yn fabi. Er iddo wadu'r honiad, dyfarnwyd mai ei mam yn unig ddylid ei magu.[16][17][18]
Cafodd Love blentyndod teithiol iawn, oherwydd swydd ei thad, ond fe’i magwyd yn bennaf yn Portland, Oregon, ac yn ei harddegau bu’n chwarae mewn cyfres o fandiau byrhoedlog. Treuliodd flwyddyn yn byw yn Nulyn a Lerpwl cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau lle cafodd ei chastio yn rhai o ffilmiau Alex Cox Sid and Nancy (1986) a Straight to Hell (1987).
“ | There were hairy, wangly-ass hippies running around [our house] naked [doing] Gestalt therapy. My mom was also adamant about a gender-free household: no dresses, no patent leather shoes, no canopy beds, nothing. (Dyfyniad gan Love am ei harddegau) | ” |
Yn bedair ar ddeg oed, fe’i harestiwyd am ddwyn siop crys-T o Woolworths, [30] ac fe’i hanfonwyd i Hillcrest Correctional Facility, yn Salem, Oregon.[19]
Mynychodd Love ysgol Montessori yn Eugene, lle cafodd drafferthion yn academaidd a chael trafferth gwneud ffrindiau. Cwblhaodd ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Oregon.[20][21] Yn 1983, cymerodd swyddi byrhoedlog yn gweithio fel dawnsiwr erotig yn Japan ac yn ddiweddarach yn Taiwan, ond cafodd ei alltudio ar ôl i'r llywodraeth gau'r clwb.
Disgyddiaeth ddetholGolygu
- Pretty on the Inside (1991)
- Live Through This (1994)
- Celebrity Skin (1998)
- Nobody's Daughter (2010)
- America's Sweetheart (2004)
LlyfryddiaethGolygu
- Levy, Stu; Love, Courtney (2004). Princess Ai: Destitution. 1. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-669-9.
- Levy, Stu; Love, Courtney (2005). Princess Ai: Lumination. 2. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-670-5.
- Levy, Stu; Love, Courtney (2006). Princess Ai: Evolution. 3. Tokyopop [Japan: Shinshokan]. ISBN 978-1-59182-671-2.
- Love, Courtney (2006). Dirty Blonde: The Diaries of Courtney Love. Faber & Faber. ISBN 978-0-86547-959-3.
AnrhydeddauGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13533150m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13533150m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.bbc.co.uk/music/artists/31d2041c-985d-48f7-b6e2-2a70cdf14853.
- ↑ Man geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
- ↑ Carroll 2005, t. 144.
- ↑ Behind the Music 2010, event occurs at 4:30.
- ↑ Hunter & Segalstad 2009, t. 197.
- ↑ Buckley & Edroso 2003, t. 499.
- ↑ Rocco & Rocco 1999, t. 224.
- ↑ Carroll 2005, tt. 19–21.
- ↑ Freeman, Nate (April 16, 2013). "Courtney Loveless: Family Tree Remains Mystery as Feud with Grandma Sizzles". The New York Observer. New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 16, 2015.
- ↑ Garratt, Sheryl (April 1, 2010). "Courtney Love: damage limitation". The Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 18, 2015.
- ↑ Entertainment Weekly Staff (22 Mawrth 2002). "Love is a Battlefield". Entertainment Weekly. New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Matheson, Whitney (26 Mehefin 2013). "I love this book: 'Chocolates for Breakfast'". USA Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Interview with Courtney Love". Conversations from the Edge with Carrie Fisher. 3 MAwrth 2002. Oxygen.
- ↑ Jung 2010, tt. 188–189.
- ↑ Ladd-Taylor & Umanski 1998, t. 327.
- ↑ Selvin, Joel (11 Mai 1995). "Courtney and Dad – No Love Lost / He downplays estrangement, she won't see him". San Francisco Chronicle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2015.
- ↑ Iley, Chrissy (22 Hydref 2006). "Courting disaster". The Times. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2007. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Courtney Love". E! True Hollywood Story. Season 8. Episode 2. 5 Hydref 2003. E!.
- ↑ Love 2006, tt. 29–31.