Cracer (bwyd)

math o fisged sawrus nid melys

Mae'r cracer neu pretzel yn fisged sych hallt, tenau a chreisionllyd sy'n deillio o waffer ar gyfer morwyr. Mwynheir yn aml fel ategolyn i bryd bwyd, fel byr-bryd neu i fynd gyda digestîff wedi pryd bwyd.

Cracer
MathCrwst, dry biscuits, cookie, finger food Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Yn cynnwysblawd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Craceri - detholiad nodweddiadol

Cynhwysion golygu

Cynhwysion nodweddiadol craceri yw blawd gwenith cyflawn, a all hefyd ymgorffori reis, brag haidd, asiant codi (bicarbonad neu furum cemegol), halen. Gellir ychwanegu perlysiau, hadau, neu gaws,i'r toes neu taenu ar y top cyn pobi.[1]

Caiff brand Americanaidd 'Ritz Crackers' sy'n boblogaidd ym Mhrydain eu gwahardd mewn rhai gwledydd megis Awstria, Denmarc, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Norwy, a'r Swistir gan bod yn cynnwys olew hadau cotwm wedi hydrogeneiddio sy'n fath o fraster traws (transfat) a ystyrir yn niweidiol.[2]

Hanes golygu

 
Un cracker Cheez-It

Yn 1792 gwnaeth Theodore Pearson, o Newburyport, Massachusetts, fara tebyg i gracer gyda dim ond blawd a dŵr, a alwodd yn fara peilot ("pilot bread"). Roedd yn boblogaidd ar unwaith gyda morwyr gan bod i'r bwydach fywyd hir, a daeth hefyd yn adnabyddus fel "hardtack" neu fisged (‘nautical cookie’).[3] Pearson's oedd y becws cyntaf i gracwyr yn yr Unol Daleithiau, gan eu cynhyrchu am fwy na chanrif.[4] Gwnaed 'CrownPilot Crackers' gyda'r un rysáit a'u gwerthu yn New England tan ddechrau 2008, gan gael eu defnyddio mewn ryseitiau traddodiadol ar gyfer cawl cregyn bylchog (clam chouder).

Daeth llwyddiant cracwyr ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan ym 1801 cychwynnodd yr Americanwr, Josiah Bent, fusnes becws yn Milton, Massachusetts, gan werthu "bisgedi dŵr" neu gracwyr i bobl gyffredin ac nid morwyr yn unig. Ei pwynt gwerthu oedd na fyddant yn dirywio yn ystod mordeithiau hir y môr o borthladdoedd Boston.[5]

Yn ddiweddarach, ym 1810, dechreuodd y Nabisco (National Biscuits Company) gynhyrchu cracer ar raddfa fawr. Defnyddiwyd y cracwyr gwreiddiol hefyd ar gyfer milwyr yn ystod Rhyfel Cartref America.

Gall cracker hefyd gael ei alw'n 'water biscuit' yn Saesneg Prydain.[6]

Nodweddion golygu

Yn Saesneg yr UDA defnyddir yr enw "cracker" yn aml iawn ar gyfer bisgedi sawrus gwastad, ar wahân i "cwcis", a all fod yn debyg i gracwyr o ran ymddangosiad a gwead, ond sydd â blas melys. Weithiau mae gan gracwyr gaws a sbeisys neu hyd yn oed gyw iâr fel cynhwysion.

Gelwir tyllau mewn craceri yn dyllau docio. Mae'r tyllau'n cael eu creu yn y toes gydag offeryn arbennig, y dociwr rholer, i atal ffurfio pocedi aer yn y cracer wrth goginio.[7]

Prydau wedi'u paratoi gyda chraceri golygu

Gweinir cracer, yn aml gyda chaws neu olewydd gydag aperitîff wedi pryd bwyd.

Mae'r ffug pastai afal, pwdin Americanaidd nodweddiadol, wedi'i wneud o gracwyr Ritz neu debyg. Mae craceri wystrys nodweddiadol New England fel arfer yn cael eu gweini fel cyfeiliant i gawl wystrys.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Manley, D. (2011). Manley's Technology of Biscuits, Crackers and Cookies. Woodhead Publishing Series in Food Science, Technology and Nutrition. Elsevier Science. ISBN 978-0-85709-364-6. Cyrchwyd October 8, 2017.
  2. Here's Why Ritz Crackers Are Banned In Other Countries
  3. Gooii. "Hardtack (Ships Biscuits) recipe - Cookit!". cookit.e2bn.org. Cyrchwyd 2018-11-07.
  4. Edmund Lester Pearson, gol. (1940). National Encyclopaedia of American Biography. 28. Efrog Newydd: James T. White and Company. t. 289.
  5. "G H Bent Co". https://web.archive.org/web/20061205021806. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2006. External link in |website= (help)
  6. "Water biscuit definition and meaning | Collins English Dictionary". www.collinsdictionary.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-11-07.
  7. Fabrizio Diolaiuti (2014). Alla scoperta del cibo. Sperling & Kupfer editori. ISBN 88-200-9152-6.