Mae crawniad (lluosog crawniadau) yn gasgliad poenus o bws (Saesneg : pus) sy'n cael ei achosi, gan amlaf, gan haint bacteriol. Gall crawniad datblygu unrhyw le yn y corff[1].

Crawniad
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathsuppuration, general symptom Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achos crawniad golygu

Pan fo bacteria'n mynd i mewn i'r corff mae'r system imiwnedd yn anfon celloedd gwaed gwyn i ymladd yr haint. Wrth i'r celloedd gwaed gwyn ymosod ar y bacteria gall rhywfaint o feinwe cyfagos marw gan greu twll sydd wedyn yn llenwi â phws i ffurfio crawniad. Mae'r pws yn cynnwys cymysgedd o feinwe marw, celloedd gwaed gwyn a bacteria

Crawniad allanol golygu

Mae crawniad allanol yn aml yn ymddangos fel lwmp wedi ei chwyddo, wedi'i llenwi â phws o dan wyneb y croen[2]. Efallai y bydd symptomau eraill o haint hefyd, megis twymyn (tymheredd uchel) a fferdod. Mae symptomau eraill crawniadau allanol yn cynnwys chwyddo llyfn o dan y croen a all deimlo'n galed, poen a thynerwch yn yr ardal sy'n cael ei effeithio, cynhesrwydd a chochni yn yr ardal sy'n cael ei effeithio; presenoldeb gweladwy o bws gwyn neu felyn o dan y croen yn yr ardal sy'n cael ei effeithio .

Mae cornwyd a phendduyn yn enghreifftiau cyffredin o grawniadau allanol.

Triniaeth golygu

Fel arfer bydd crawniadau bach ar y croen yn sychu'n naturiol a diflannu heb driniaeth. Gall defnyddio gwres ar ffurf cywasgiad cynnes, fel gwlanen gynnes, helpu i leihau chwyddo a chyflymu iachâd

Ar gyfer crawniadau croen mwy neu barhaus, gall meddyg ragnodi cwrs o wrthfiotigau i glirio'r haint a'i atal rhag lledaenu.Weithiau, yn enwedig gyda heintiau rheolaidd, bydd angen triniaeth i lanhau'r corff o facteria sydd wedi ymgartrefu yno. Gwneir hyn trwy olchi'r holl facteria oddi ar y corff gan ddefnyddio sebon antiseptig ar y croen a hufen gwrthfiotig ar gyfer y tu mewn i'r trwyn.

Os na fydd gwrthfiotigau yn unig yn ddigon i glirio crawniadau croen bydd angen draenio'r pws i glirio'r haint. Os na chaiff crawniad ei ddraenio, gall barhau i dyfu a llenwi â phws hyd iddo fyrstio, a all fod yn boenus iawn ac achosi'r haint i ledaenu neu ail ddychwelyd. Fel arfer bydd draenio yn digwydd o dan anesthetig lleol bydd yn gwneud yr ardal o gwmpas y crawniad yn ddideimlad. Bydd y meddyg yn gwneud toriad yn y crawniad i alluogi i'r pws dianc ac yna'n glanhau'r clwyf gyda dŵr hallt er mwyn ei ddiheintio.[3]

Crawniad mewnol golygu

Gall crawniad ffurfio tu mewn i'r corff hefyd, o ddigwydd mae'n fwy anodd i wneud diagnosis gan na fydd y crawniad yng ngweladwy. Mae symptomau o grawniad mewnol yn cynnwys

  • Poen yn yr ardal sydd wedi ei effeithio
  • Twymyn
  • Teimlo'n gyffredinol sâl.
  • Chwysu yn ormodol
  • Chwydu neu deimlo'n gyfoglyd
  • Fferdod
  • Poen neu chwyddo yn yr abdomen (bol)
  • Colli archwaeth a cholli pwysau
  • Blinder
  • Dolur rhydd neu rwymedd

Gall symptomau crawniad mewnol amrywio yn ddibynnol ar ble yn union yn y corff y mae'n datblygu. Er enghraifft, gall crawniad yr iau achosi'r clefyd melyn, tra gall crawniad ger yr ysgyfaint achosi peswch neu anawsterau anadl.

Mae crawniad mewnol yn aml yn datblygu fel cymhlethdod o gyflwr arall, gan gynnwys haint mewn mannau eraill yn y corff.

Triniaeth golygu

Fel arfer, bydd angen draenio'r pws o grawniad mewnol, naill ai trwy ddefnyddio nodwydd wedi ei fewnosodwyd trwy'r croen neu drwy lawfeddygaeth. Bydd y dull a ddefnyddir yn dibynnu ar faint y crawniad a lle mae yn y corff. Fel arfer bydd gwrthfiotigau yn cael eu rhoi ar yr un pryd, i helpu i ladd yr haint a'i atal rhag lledaenu. Gellir rhoi'r rhain fel tabledi neu'n fewnwythiennol. Os yw'r crawniad yn fychan gall llawfeddyg ei ddraenio trwy ddefnyddio nodwydd fân. Bydd yn wneud toriad bach yn y croen dros y crawniad ac yna'n rhoi tiwb plastig tenau o'r enw cathetr draenio ynddo. Gall y llawfeddyg ddefnyddio sganiau uwchsain neu sganiau tomograffeg cyfrifiadurol (CT) i helpu i arwain y nodwydd i'r lle iawn. Gan ddibynnu ar leoliad yr aflwydd, gellir gwneud hyn gan ddefnyddio anesthetig lleol neu gyffredinol. Bydd y cathetr yn caniatáu i'r pws ddraenio i mewn i fag, ac efallai y bydd yn rhaid ei adael yn ei le am hyd at wythnos. Gellir cynnal y llawdriniaeth hon fel gweithdrefn achos dydd, sy'n golygu y bydd y claf yn gallu mynd adref yr un diwrnod, er y bydd angen i rai pobl aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau.

Os yw'r crawniad mewnol yn rhy fawr i'w ddraenio â nodwydd, os nad oes modd cyrraedd y safle a nodwydd neu os fu ymgais cynt i'w ddraenio â nodwydd yn aflwyddiannus bydd angen llawdriniaeth

Bydd y math o lawdriniaeth a ddefnyddir yn dibynnu ar y math o grawniad mewnol sydd gan y claf a'i leoliad yn y corff. Yn gyffredinol, mae'n golygu gwneud toriad yn y croen bydd yn caniatáu i'r pws gael ei olchi allan.

Mathau o grawniad golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "NHS Direct Wales - Abcess". 07/12/2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-25. Cyrchwyd 18 Ionawr 2018. Check date values in: |date= (help)
  2. "The Free Dictionary Medical Dictionary - Abscess". Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.
  3. "Boots WebMD Medical Reference". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-19. Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!