Cronfa Llandegfedd

cronfa yng Nghymru

Cronfa ddŵr yn ne-ddwyrain Cymru yw Cronfa Llandegfedd. Fe'i lleolir 13 km i'r gogledd o ddinas Casnewydd rhwng pentrefi Pant-teg a Llandegfedd ger y ffin sirol rhwng Torfaen a Sir Fynwy, gyda'r rhan fwyaf o'r llyn 434 acer yn gorwedd yn Sir Fynwy. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cronfa Llandegfedd
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.692903°N 2.976767°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Cafodd y gronfa ei hagor yn 1965. Ceir pysgota yn y llyn ac mae'n boblogaidd hefyd ar gyfer hwylio cychod.

Cadwraeth golygu

Mae Cronfa Llandegfedd wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1971 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 240.84 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu