Crychddail eddiog
Crychddail eddiog Fossombronia fimbriata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Fossombroniales |
Teulu: | Fossombroniaceae |
Genws: | Fossombronia |
Rhywogaeth: | F. fimbriata |
Enw deuenwol | |
Fossombronia fimbriata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Crychddail eddiog (enw gwyddonol: Fossombronia fimbriata; enw Saesneg: fragile frillwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn rhyw dri lle yng Nghymru, ac felly hefyd yn Iwerddon; fe'i ceir hefyd mewn un lle yn Lloegr a tua dwsin o lefydd yn yr Alban.
Disgrifiad
golyguMae'r dail yn wyrdd i felyn-wyrdd sy'n rhoi golwg unigryw ar y planhigion yma. Mae'n tyfu ar ochr ffyrdd neu lwybrau graeanog ar bridd llaith ar ymyl nentydd a llynnoedd ac ar dir wedi'i sathru gan wartheg lle mae traciau da byw yn cwrdd â nentydd ar dir pori ar yr ucheldir.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.