Cog
Cog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cuculiformes |
Teulu: | Cuculidae |
Genws: | Cuculus |
Rhywogaeth: | C. canorus |
Enw deuenwol | |
Cuculus canorus (Linnaeus, 1758) |
Aderyn sy'n aelod o Urdd y Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus). Enw'r teulu yw Cuculidae (teulu'r cogau).[1][2]
Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.
Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.
Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.
Llên
golygu- Wrth glywed y gog yn canu Eira Mawr 17 Mai 1935, canodd y bardd Ioan Brothen[3] ar ôl cyfnod o eira hwyr.
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Cenaist ti heb ddychryn;
- Methodd iâ ac eira gwyn
- Niweidio dy ddau nodyn
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Ffordd o ddweud....heb ddweud!
- Llwydcoed Notes. BY MARCELLO. Jim declares that he heard the cuckoo late on Saturday night [18 Mawrth 1916]. On the previous Saturday night he had seen two milestones close together on Hirwain Road[4]
Statws y boblogaeth
golyguCymru
golyguY 19eg ganrif
golyguY gog yn gyffredin ymhoban yn ôl Forrest[5]
Yr 20ed ganrif
golyguCeir cogau o'r cynefinoedd uchaf i lawr i'r twyni tywod arfordirol er iddynt weld trai sylweddol ers y 1950au, oherwydd newidiadau yn y drefn amaethyddol sydd wedi effeithio yn uniongyrchol ar y cogau ond hefyd ar yr adar lletyol sydd yn eu cynnal. Roedd difrifoldeb y trai yng Nghymru yn ôl Lovegrove ac eraill yn anodd i'w asesu oherwydd diffyg data penodol[6].
Yr 21ain ganrif
golyguYn ystod cyfnod unigryw Cofid-19 yng ngwanwyn 2020 pan gafodd mwyafrif poblogaeth Cymru (a'r byd i gyd o ran hynny) eu caethiwo yn eu cartrefi o ail hanner mis Mawrth ymlaen, penderfynwyd cynnal ar Cymuned Llên Natur (Facebook) arolwg i statws y gog yng Nghymru trwy fanteisio ar yr amodau arbennig hyn. A beth oedd yr amodau?:- a) pawb yn gaeth i'w cartrefi a'i gerddi am amser hir (felly samplo cyson), b) arolygon o dywydd braf (cysoder amodau) a wireddwyd, c) y mwyafrif yn gyfarwydd â chân y gog, ac ch) poblogrwydd nodi'r 'cwcw gyntaf' a'r llên gwerin yn gysylltiedig â hynny. Prif fantais y sefyllfa hon oedd y cyfle gafwyd i bobl nodi faint o gogau y clywson nhw dros gyfnod penodol (gan gynnwys 'dim cogau')[7]. Dengys y canlyniadau ar y map yn gryno, bod y gog yn dal ei thir yn dda yn yr ucheldir rhwng, er enghraifft, Dolgellau a'r Bala ac ar grugdir Uwch Gwyrfai, Arfon, ond mae ei absenoldeb ym Môn, a gwastadeddau Arfon a Llŷn yn drawiadiol, gyda sefyllfa wan yn cael ei awgrymu ar sail llai o ddata yn y de orllewin ac yng Nghlwyd. Ymarferiad Gwyddoniaeth y Dinesydd (Citizen Science[2]) oedd hwn. Efallai mai arwyddocad fwyaf yr ymarferiad yw dangos potensial y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig i amlygu patrymau naturiol.
Ffenoleg
golyguEr fod poblogaeth y gog yng Nghymru wedi dirywio'n arw dros y ugain mlynedd diwethaf nid oes tystiolaeth (fel a geir yn achos rhai mewnfudwyr eraill o'r deheuau megis y gwybedog brith) bod ei ffenoleg wedi newid dros y tair canrif y mae data ar gael. Dyma graff yn dangos faint o ddyddiau ar ôl 1af Ebrill y clywyd y gog gyntaf mewn 19 o wahanol flynyddoedd ers 1788. Dengys y llinell wastad trwy’r cofnodion cysondeb rhyfeddol yn y dyddiad y mae'r gog yn ein cyrraedd ym Mhrydain.[8]
Roedd Thomas Bewick o Northumberland, a luniodd ysgythriad enwog o'r gog [3], yn arlunio ddechrau’r 19eg ganrif ac yn gwybod, diolch iddo lythyru gyda’r naturiaethwyr mawr o Gymro Thomas Pennant a’r Sais Gilbert White, bod adar yn mudo. Meddai Thomas Bewick: The Cuckoo visits us in spring, the well known cry of the male is commonly heard about the middle of April, and ceases at the end of June: its stay is short, the old birds quitting this country early in July (fe ddaliodd White at yr hen goel mai gaeafu trwy ymgladdu mewn mwd a wnaent).
Rhai rhywogaethau yn yr un teulu
golyguRhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cwcal Bernstein | Centropus bernsteini | |
Cwcal Senegal | Centropus senegalensis | |
Cwcal Sri Lanka | Centropus chlororhynchos | |
Cwcal Swlawesi | Centropus celebensis | |
Cwcal Swnda | Centropus nigrorufus | |
Cwcal Ynys Biak | Centropus chalybeus | |
Cwcal aelwyn | Centropus superciliosus | |
Cwcal bach | Centropus bengalensis | |
Cwcal cyffredin | Centropus sinensis | |
Cwcal ffesantaidd | Centropus phasianinus | |
Cwcal goliath | Centropus goliath | |
Cwcal pen llwydfelyn | Centropus milo | |
Cwcal y Philipinau | Centropus viridis |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ericson, P.G.P. et al. (2006) Diversification of Neoaves: integration of molecular sequence data and fossils Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback. Biology Letters, 2(4):543–547
- ↑ Hackett, S.J. (2008). "A Phylogenomic Study of Birds Reveals Their Evolutionary History". Science 320 (5884): 1763–1768. doi:10.1126/science.1157704. PMID 18583609.
- ↑ Llinell neu Ddwy (cyfrol deyrnged Ioan Brothen 1942)
- ↑ Aberdare Leader 25 Mawrth 1916
- ↑ Forrest, H.E.(1907) The Fauna of North Wales (Llundain, Witherby)
- ↑ Lovegrove ac eraill (1994) Birds in Wales (Poyser)
- ↑ [1](yn y wasg tan Gorffennaf 2020)
- ↑ Seiliedig ar ddata Tywyddiadur Llên Natur