Nofel gyfoes gan Gareth Miles yw Cuddwas a gyhoeddwyd yn 2015 gan Y Lolfa yn Nhal-y-Bont.[1]

Cuddwas
AwdurGareth Miles
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi29/10/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784612054
GenreFfuglen

Mae'n nofel gyfoes am Gymro sy'n gweithio i'r Gwasanaethau Cudd ac yn ymdreiddio i fudiadau gwleidyddol yng Ngwlad y Basg ac yng Nghymru.

Adolygiad gan Llinos Griffin ar wefan Gwales

golygu

Aiff y nofel hon â’r darllenydd y tu ôl i waliau byd y cuddwas Elwyn Lloyd-Williams wrth iddo geisio mynd at wraidd erchylltra gangsters y Costa del Crime ac yna derfysgwyr Gwlad y Basg. Ond wrth blymio i ddyfnderoedd y cylchoedd hyn, mae'r awdur wedi creu darlun eang o fywyd un gŵr, neu’n hytrach fywydau un gŵr, yn yr achos hwn.

Mae cwestiynau'n codi. Mae cymhlethdodau ym mhobman. Yn y nofel hon, nid dim ond stori un dyn sydd yma, ond yn hytrach ddarlun ar ôl darlun o gymhlethdodau diwylliannol a hynny o’r dechrau un wrth i ni ddod i adnabod Elwyn a’r Cymry Cymraeg sydd yn deulu iddo. Dydi Cymru ddim yn ddigon i Elwyn, ond mae ei famwlad yn y cefndir wrth iddo ‘fagu hyder y Saeson’, llwyddo yn ei yrfa yn y Met a dod yn ysbïwr ar y cyfandir. Mae ei berthynas â'i deulu yn dioddef – boed hynny gyda'i wraig neu ei rieni. Oes modd dod o hyd i ryddid personol yn y fath fyd? Mae rhyw lun o dawelwch yng Nghymru, ond ydi ei waith gyda throseddwyr ffiaidd a ‘ffanatigiaid sosiopathig’ Sbaen yn rhywbeth y mae modd dianc rhagddo?


Gweler hefyd

golygu

Dolen allanol

golygu

https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784613198/cuddwas-(elyfr)

Cyfeiriadau

golygu