Curig
Sant o Gymru oedd Curig (fl. c. 550?), a flodeuai yn oes Maelgwn Gwynedd. Fe'i cysylltir â sawl lle yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru a Brycheiniog. Fe'i gelwir weithiau Curig Lwyd (h.y. 'sanctaidd') a Curig Farchog. Delir ei ddydd gŵyl ar 16 Mehefin.
Curig | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Cymru |
Bu farw | Landerne |
Man preswyl | Teyrnas Brycheiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 550 |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 15 Mehefin, 16 Mehefin |
Traddodiadau
golyguDywedir fod Curig yn rhyfelwr yng ngwasaneth Maelgwn Gwynedd a droes at grefydd. Digiodd hynny Faelgwn a cheisiodd rwystro'r sant, ond parodd Curig i Faelgwn a'i wŷr fynd yn dall a bu rhaid i dri o feibion Maelgwn roi tir i Gurig. Sefydlodd glas ar y tir hwnnw, ar safle pentref Llangurig (gogledd Powys) heddiw. Tan ddiwedd yr 16g roedd bagl neu groes Curig i'w gweld yn eglwys Sant Harmon, 6 milltir o Langurig dros y bryniau. Ceir disgrifiad o'r groes gan Gerallt Gymro yn ei Hanes y Daith Trwy Gymru (1188): 'yn eglwys Sant Garmon ceir y fagl a enwir Bagl Sant Curig, yr hon a ymestyn ychydig yn ei brig, ar y naill achr a'r llall, ar wedd croes, ac a orchuddir amgylch ogylch ag aur ac arian.' Arferid gwella cleifion â hi.
Yn ôl un traddodiad cysegrwyd Curig gan Sant Paul Aurelian a threuliodd gyfnod yn astudio wrth draed Tudwal yn Llanilltud Fawr.
Cysylltir Curig â Chapel Curig yn Eryri yn ogystal. Mae lleoedd eraill a gysylltir â'r sant yn cynnwys plwyf Llandegai, Brycheiniog, lle ceir Ffynnon Gurig.
Ymddengys ei fod wedi mudo i Lydaw ar ddiwedd ei oes a cheir sawl eglwys yno sy'n dwyn ei enw. Dywedir y bu farw yn Landerneau a chael ei gladdu yn Locquirec.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ffynonellau
golygu- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t. 16.