Ceillgwd

(Ailgyfeiriad o Cwd)

Y ceillgwd (ar lafar cwd(yn); yn iaith y feddygaeth sgrotwm) yw'r bag sy'n dal y ceilliau mewn rhai mamaliaid gwryw. Fe'i gwneir o groen a chyhyrau ac fe'i darganfyddir rhwng y pidyn a'r anws. Fe'i cwmpesir yn aml mewn cedor[1].

Ceillgwd
Enghraifft o'r canlynolsex-specific solitary organism subdivision type, dosbarth o endidau anatomegol, organ, gendered anatomical structure Edit this on Wikidata
Mathsubdivision of urogenital part of male perineum, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem atgenhedlu gwrywaidd Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLabioscrotal swelling Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdartos, Scrotal septum, tunica albuginea of testis, cremasteric fascia, External spermatic fascia, cremaster muscle, internal spermatic fascia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Swyddogaeth golygu

Mae'r ceillgwd yn rheoleiddio tymheredd y ceilliau ac yn eu cadw ar 35 gradd Celsius (95 gradd Fahrenheit), hy dwy radd islaw tymheredd y corff o 37 gradd Celsius (98.6 gradd Fahrenheit). Mae tymheredd uwch yn effeithio ar sbermatogenesis. Mae'r rheoli tymheredd yn cael ei gyflawni gan gyhyrau llyfn y sgrotwm yn symud y ceilliau naill ai'n agosach at neu yn ymhellach i ffwrdd o'r abdomen yn dibynnu ar y tymheredd amgylchynol. Mae hyn yn cael ei gyflawni gan y cyhyrau cremaster yn yr abdomen a'r dartos fascia (meinwe cyhyrol o dan y croen).

Gall cael y ceillgwd a'r ceilliau y tu allan i geudod yr abdomen ddarparu manteision ychwanegol. Nid yw pwysedd yr abdomen yn effeithio ar y ceillgwd allanol. Gall hyn atal gwagio'r ceilliau cyn aeddfedu'r sberm yn ddigonol ar gyfer ffrwythloni. Mantais arall yw ei fod yn diogelu'r ceilliau rhag ysgytiadau a chywasgu sy'n gysylltiedig â ffordd fywiog o fyw. Mae gan anifeiliaid sy'n symud ar gyflymder cyson - fel eliffantod, morfilod a gwahaddod - ceilliau mewnol a dim ceillgwd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Encyclopædia Britannica Scrotum adalwyd 29 Ionawr 2018


  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.