Cwfl-lys byseddog
Cwfl-lys byseddog Colura calyptrifolia | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Colura |
Rhywogaeth: | C. calyptrifolia |
Enw deuenwol | |
Colura calyptrifolia |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cwfl-lys byseddog (enw gwyddonol: Colura calyptrifolia; enw Saesneg: fingered cowlwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng ngorllewin Cymru (o'r de i'r gogledd), yr Alban, Iwerddon a Chernyw ac yma ac acw yn Lloegr.
Disgrifiad
golyguMae'r Cwfl-lys byseddog yn ffurfio clytiau melyn-wyrdd golau o ddeiliach, gyda phob deilen yn ddim ond ychydig o filimetrau ar draws. Mae gan y ddeilen big hir, sy'n unigryw i'r rhywogaeth hon (C. calyptrifolia). Nid yw'r coesynnau bach yn hawdd i'w canfod, ac nid yw'r strwythur dail cymhleth yn hawdd ei ddeall yn y maes, heb chwyddwydr. Hyd y dail yw hyd at 1.5 mm, ac maent yn 0.5 mm o led.[1]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk' adalwyd 29 mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.