Cwm, Sir Ddinbych

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref bychan, heb fod fawr mwy nag amlwd, yn rhan isaf Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yw'r Cwm ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'r Cwm yn blwyf eglwysig hynafol hefyd (cyfeiriad grid SJ066774). Mae'n rhan o gymuned Tremeirchion, Cwm a'r Waun.

Cwm
Eglwys Cwm 542959.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.28524°N 3.40505°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000148 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ066773 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Saif y pentreflan ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd tua milltir a hanner i'r de o bentref Diserth, tair milltir i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Fel mae ei enw yn awgrymu, mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan ar lethrau gorllewinol Bryniau Clwyd. Mae lôn yn rhedeg trwy'r cwm drosodd i gyfeiriad Treffynnon.

Eglwys Mael a Sulien, Cwm

Pentref gwledig bychan gwasgaredig yw Cwm. Mae rhan isaf y pentref yn glwstwr o dai ar y ffordd sy'n cysylltu Diserth a Rhuallt i'r de. Mae'r eglwys hynafol yn gysegredig i'r Seintiau Mael a Sulien. Ceir carnedd (tumulus) gynhanesyddol ar y bryn i'r de a bryngaer fechan ar y bryn i'r gogledd.

Credir mai yn nhrefgordd ganoloesol Hiraddug, yn y plwyf y ganed a magwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth Cwm, Sir Ddinbych (pob oed) (378)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm, Sir Ddinbych) (99)
  
27.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm, Sir Ddinbych) (248)
  
65.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cwm, Sir Ddinbych) (43)
  
30.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.