Arwystli Uwch Coed
Cwmwd yn ne-orllewin Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli Uwch Coed (neu Arwystli Uwchcoed). Gyda'i gymydog i'r dwyrain, Arwystli Is Coed, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arwystli.
Math | cwmwd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Arwystli ![]() |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Arwystli Is Coed ![]() |
Cyfesurynnau | 51.993°N 3.232°W ![]() |
![]() | |
Gorweddai'r cwmwd yn y bryniau isel i'r gorllewin o'r goedwig drwchus a orweddai yng nghanol cantref Arwystli yn yr Oesoedd Canol. Ffiniai â chwmwd Arwystli Is Coed i'r dwyrain, Cwmwd Deuddwr a Gwerthrynion i'r de yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, rhan o gymydau Mefenydd, Creuddyn a chwmwd Perfedd (Ceredigion) i'r gorllewin, a chantref Cyfeiliog i'r gogledd.
Cwmwd mynyddig oedd Uwch Coed, gyda bryniau Elenydd yn ei ddominyddu. Roedd yn rhan o Deyrnas Powys a daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn ar ddiwedd y 12g. Y prif ganolfannau oedd Talgarth a Llandinam.
Mwynheai Owain Glyndŵr gefnogaeth gref yn yr ardal, a fu'n gadarnle pwysig iddo yn ei wrthryfel. Ymladdwyd un o frwydrau mawr y gwrthryfel hwnnw ar lethrau Pumlumon yn 1402, pan guriwyd llu Seisnig ym Mrwydr Hyddgen.
Heddiw mae'r diriogaeth yn gorwedd yn sir Powys.