Math o gwmwl yw stratus.

Cwmwl Stratus (Stratus-Opacus-Uniformis)

Mae'n haen isel sydd, pan yn cyffwrdd â'r ddaear, yn ffurfio 'niwl'. Ceir llu o enwau a disgrifiadau lleol ar wahanol fathau o niwl:

Enwau a disgrifiadau lleol golygu

Yn ardal Ffestiniog gelwid niwl yn 'gyfaill y gweithiwr' gan rai am y gellid dianc adre'n gynnar o'r gwaith heb i neb sylwi. Mae i niwloedd y pedwar tymor eu cymeriad eu hunnain:

Dyam dywediadau eraill:

  • Niwl ar y Rhinog, hin ddrycinog (Meirionnydd)
  • Niwl ar yr Aran, glaw yn bur fuan (y Bala)
  • Niwl ar ben y Trawle, glaw cyn y bore (Tregaron)

Weithiau, ar fore braf o haf bydd niwl trwchus o'r môr yn gorchuddio'r arfordir, gan ymestyn tua milltir i'r tir. 'Niwl tes' yw'r enw arno yn Llŷn; 'niwl y glannau' yng Ngheredigion a 'niwlen wres' yn y de. Ond ceir cyfeiriadau llawer llai parchus ato hefyd yn Aberystwyth a threfi glannau môr eraill pan fydd twristiaid yno yn diodde ei gysgod a hithau yn haul tanbaid ychydig i'r tir. Mewn rhai mannau bydd niwl tes o'r glannau yn cael ei wthio i fyny cwm cul nes ei fod yn llifo drwy'r bwlch i'r ochr arall, lle y bydd yn diflannu'n gyflym. Enghraifft adnabyddus o hyn yw niwl o Nant Gwrtheyrn yn llifo'n rhimyn main gwyn dros y bwlch uwchben Llithfaen. Dywedir amdano bod 'Robin Nant yn smocio' ac mae'n arwydd o dywydd braf.

Gall niwl ffurfio dros y tir hefyd, sef 'niwl dyffryn' all fod yn fath o niwl tes neu darth yn ffurfio dros lyn neu afon yn yr haf, neu o ganlyniad i aer oer yn cronni yng ngwaelod dyffryn yn y gaeaf.

Mynydd yn glir a niwl yn y glyn

Tywydd ffein a geir 'r ôl hyn. (Cwm Tawe)

Mae'r niwl glas sy' rhwng y bryniau

'N dangos na ddaw glaw am ddyddiau. (Buellt).

Yn ardal Buellt gelwir y niwl hwn yn 'nudden las' [1]

Ffurf arall i'r cwmwl Stratus yw capiau ar y mynyddoedd. Gall y rhain ffurfio pan fydd awyr laith yn codi dros fryn neu fynydd ac am fod yr aer yn oeri wrth godi bydd yr anwedd dŵr ynddo yn troi'n niwl neu gwmwl. Mae'n un o'r arwyddion tywydd mwyaf adnabyddus a cheir ugeiniau o fersiynnau ohono. Un rhigwm sy'n cyfleu'r ystyr cyffredinol yw:

Os oes coel ar bennau'r moelydd

Buan daw yn chwerw dywydd.

Ceir llawer o rigymau a dywediadau yn cyfeirio at foelydd a mynyddoedd penodol:[2]

Pan fo'r Eifl yn gwisgo'i chap

Does fawr o hap am dywydd. (Arfon ac Eifionydd)

Yng Ngwynedd, yn lle'r Eifl yn y rhigwm hwn, gellir ffeirio'r Garn (Garn Fadrun), y Moelwyn, yr Aran, y Foel (yn ardal Waunfawr) a llawer mwy:

Os bydd cap ar ben Moel Hebog

Mae hi'n siwr o law cynddeiriog. (Llanfrothen)

Pan mae'r Frenni yn gwisgo cap

Fe ddaw yn law chwap. (Penfro)

Pan fyddo Mynydd Caera'

A'i gap yn cuddio'i gopa

O niwlyn tew, – am hynny taw Mae ynddi wlaw mi brofa.[3]

Pa welir pen Moelgeilia

Yn gwisgo clog y bora,

Odid fawr cyn canol dydd

Bydd ar ei grudd hi ddagra.[4]

Ac mewn cywair mwy modern:

  • Mast teledu Blaen-plwyf â'i ben mewn cwmwl – arwydd glaw (Llanfarian). Dywedir yr un peth am fastiau teledu eraill hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Papurau Evan Jones, Ty'n Pant, Llanwrtyd, Amgueddfa Werin Cymru
  2. Hen Benillion (1940), TH Parry-Williams
  3. Cyfres Llên Gwerin Morgannwg, gan Cadrawd yn Cyfaill yr Aelwyd (1881 - 94)
  4. Tribannau Morgannwg (1976), Tegwyn Jones
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).