Math o gwmwl yw Cirro-stratus.

Cirro-Stratus
Enghraifft o'r canlynolgenera cwmwl Edit this on Wikidata
MathCirrus, Stratus, cymylau uchel Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cloudatlas.wmo.int/cirrostratus-cs.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
cwmwl cirro-stratus a'r lleuad yn y pellter

Disgrifiad a dywediadau golygu

Nid yw'r Cirro-stratus yn fwy na haen uchel o niwl tenau a di-ffurf sydd, oni bai am roi rhyw arlliw llwydwyn i lesni'r awyr, bron yn anweledig. Ond am fod hwn yn un o gymylau uchaf yr awyr bydd y gronynnau dŵr ynddo wedi rhewi yn risialau mân. O ganlyniad caiff goleuni'r haul ei hollti gan y crisialau i greu enfys a welir yn gylch o amgylch yr haul, yn enwedig pan fo'n lled isel yn yr awyr – rhyw ddwyawr cyn y machlud neu wedi'r wawr.

Gwelir yr un math o gylch o gwmpas y lleuad llawn yn ogystal er mai cylch gwyn a welir bryd hynny am nad yw adlewyrchiad y lleuad yn ddigon cryf i ffurfio lliwiau. Bydd y 'cylch pell' hwn i'w weld gryn bellter o'r haul neu'r lleuad, ar ongl o 22° neu led llaw agored â'r bawd a'r bysedd ar led. Mae'n wahanol i'r llewyrch lliwiau'r enfys a welir yn cyffwrdd â wyneb y lleuad yn arbennig ac a elwir yn gylch agos. Achosir y cylch agos hwn gan lwch yn uchel yn yr awyr ac mae, fel arfer, yn arwydd o dywydd braf. I wahaniaethu rhwng y ddau fath o gylch, y pell a'r agos, dywedir:

Cylch ymhell, glaw yn agos

Cylch yn agos, glaw ymhell. Cyffredin, de a gogledd Dywedir: 'Rhod ymhell...' yn y rhigwm hwn yn Ardudwy, a 'Cwmpas pell...' yng Ngheredigion.

Mae hwn yn arwydd eitha sicr – dros 90% cywir [1] – bod ffrynt gref, storm fel arfer, ar ei ffordd. Ceir ambell ddywediad sy'n cyfeirio at y cylch pell o amgylch y lleuad: Cylch am y lleuad Cawodydd cyn goleuad. (Edern)

Weithiau, yn hytrach na chylch crwn cyflawn am yr haul, gwelir pytiau bychain o enfys ar yr un lefel a'r haul ar bellter o 22° oddi wrtho. Gelwir y rhain yn 'gaseg ddrycin' (Llanbedrog); 'ci drycin' (Gwynedd a Môn).

Cumulonimbus golygu

Gelwir y cymylau mawr rhwysgfawr hyn sydd fel blodfresych tal bolddu yn 'gymylau terfysg'. Maent yn ffurfio pan fydd corff o aer yn cael ei gynhesu gan ddaear gynnes fel a geir ar dywydd poeth yn yr haf. Bydd hynny yn peri i gerrynt o aer ddechrau dringo a chreu cylchdro o awyr sy'n codi'n uchel i'r entrychion gan ffufio cymylau mawrion uchel Cumulonimbus. Yn rhannau uchaf y cymylau hyn bydd y defnynnau glaw yn rhewi'n genllysg a bydd y rheini, yn eu tro, yn taro yn erbyn ei gilydd gan greu tensiwn trydanol rhwng gwaelod a phen y cwmwl. Bydd hynny, weithiau, yn ddigon i greu storm o fellt a tharanau. Ceir amryw o enwau lleol ar gymylau tal gwynion Cumulonimbus sy'n dueddol o ddod â glawogydd trymion ac yn aml fellt a tharanau yn ogystal. Enwau eraill arnynt yw cymylau t'ranau (cyffredin yn y gogledd); cymylau tyrfe (Cwm Tawe) a cymylau trawste (Dyffryn Teifi). Yng Ngwynedd a Môn fe'u cyffelybir â byddigion neu esgobion rhwysgfawr:

Ym Môn, ffurf wreiddiol iawn ar y dywediad hwn am gymylau terfysg yw: Mae Esgobion Bangor wedi bod yn yfad eto – fe ddown nhw i biso am ein penna' ni cyn bo hir'. Yr 'hen bersoniaid' oedd enw y dramodydd Wil Sam Jones, Rhos-lan arnyn nhw.

Gweler hefyd golygu

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Red Sky at Night, Shepherd's Delight? (1981), Paul Marriot
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).