Sant a mynach o'r Eglwys Northumbriaidd neu'r Eglwys Geltaidd oedd Cwthbert neu Gwthbert o Lindisfarne (tua 634 – 20 Mawrth 687). Roedd yn esgob ac yn feudwy a gysylltir gyda mynachlogydd Maolros (ystyr: 'moel' a 'rhos'; Gaeleg: Maol-Rois; Melrose yn Saesneg) a Lindisfarne (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud) yn yr hen deyrnas a ellir heddiw ei galw'n Deyrnas Northumbria yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ac a ffurfiwyd allan o'r hen deyrnas Geltaidd Brynaich tua 634.

Cwthbert
neu o bosib 'Cynbryd'
Cuthbert
Ffenestr liw yn Eglwys Crist, Dulyn, yn darlunio Sant Cwthbert.
Esgob
Ganwydc. 634
Dunbar, Teyrnas Northumbria (yr Alban)
Bu farw20 Mawrth 687
Ynysoedd Farne, Teyrnas Northumbria (bellach yn Lloegr)
Mawrygwyd ynYr Eglwys Gatholig;
Anglicaniaeth;
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Prif gysegrEglwys Gadeiriol Durham, Swydd Durham
Gwyliau20 Mawrth (yr Eglwys yn Lloegr); 4 Medi (yr Eglwys yng Nghymru); 31 Awst (Eglwys Episgobaidd (UDA))
Symbol/auEsgob yn gafael mewn pen gyda choron arno; weithiau ceir anifeiliaid, yn enwedig adar yr arfordir.
NawddsantNorthumbria
Paentiad o'r 12g yn Eglwys Gadeiriol Durham.

Daeth yn un o seintiau pwysicaf Gogledd Lloegr - wedi iddo farw, gyda chwlt o ddilynwyr wedi eu canoli o amgylch ei feddrod yn Eglwys Gadeiriol Durham. Ef yw nawddsant Gogledd Lloegr a chynhelir ei ddiwrnod gŵyl ar 20 Mawrth a 4 Medi.

Mae'n debygol iddo gael ei eni a'i fagu'n agos at Abaty Moelros, un o chwaer abatai Lindisfarne, sydd heddiw wedi'i leoli yng Ngororau'r Alban. Dywedir iddo gael troedigaeth yn 651 a dod yn fynach wedi iddo weld rhith o ysbryd Sant Aidan yn dringo i'r nefoedd ar yr union noson ac y bu Aidan, a sefydlodd Lindisfarne, farw. Rhoddwyd iddo swydd yn Abaty Ripon bron ar unwaith, ond gwnaed Wilfrid yn ben arni ychydig wedyn a dychwelodd Cwthbert gydag Eata o Hexham i Foelros.[1] Tua 662 fe'i wnaed yn brior yn Lindisfarne ac yn 684 dyrchafwyd ef yn esgob. Ond, unwaith eto, byr ydoedd yno a dychwelodd i Foelros wedi cwta dwy flynedd. Dychwelodd gan ei fod yn credu ei fod am farw, er nad oedd ond yn ei 50au.[2]

Dywedir iddo droi'n feudwy eto ar ddiwedd ei oes, gan encilio i fan ger Holburn a elwir hyd heddiw yn Ogof Cwthbert, ac oddi yno aeth i ynysoedd mewnol Ynysoedd Farne (dwy filltir o Bamburgh), gan fyw o'r llaw i'r genau. Dywedir iddo, yn 676, greu deddfau a oedd yn gwarchod anifeiliaid yr ynys, gan gynnwys yr hwyaden. Bu farw yn 687.

Mae'n bosib fod Cwthbert yn gyfyrder i Aldfrith of Northumbria yn ôl llawysgrifau Gwyddelig.[3][4] Cafod y weledigaeth am farwolaeth Sant Aidan pan oedd yn fachgen ifanc yn bugeilio'i ddefaid, a myn rhai nad oedd o deulu ariannog. Dywedir mewn man arall iddo gael ei fabwysiadu, sy'n awgrymu efallai fod ei rieni'n dilyn traddodiad yr oes (i bobl cefnog) sef talu i rieni faethu eu plant.

Fe'i ganed ddeng mlynedd wedi i Edwin, brenin Northumbria (Edwin Gawr) gael troedigaeth i Gristnogaeth. Roedd traddodiadau Celtaidd yr 'Eglwys Fore' felly'n fyw iawn, fel y gwelir yn arferiad Cwthbert o fynd yn alltud i fanau anghysbell, yr "alltudiaeth dros Grist" - arferiad y seintiau Celtaidd.[5][6]

  Báetán mac Muirchertaig
    |
    |___________________________________________________________
    |                   |           |            |             |
    |                   |           |            |             |
    Colmán Rímid        Máel Umai   Forannán     Fergus        Ailill.
    |                               |            |             |
    |                               |            |             |_____________________________
    ?                         Hui Forannáin   Cenél Forgusa    |                          |
    |                                                          |                          |
    |                                                          Cenn Fáelad mac Aillila    Sabina
    Fín   =    Oswiu o Northumbria                                                       |
          |                                                                               |
          |                                                                   Cwthbert o Lindisfarne
          Oswiu
        = ?
          |
          |__________________________________________
          |                         |      |        |
          |                         |      |        |
          Osred I o Northumbria    Offa    Osric?   Osana?

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Battiscombe, 120–125; Farmer, 57
  2. Battiscombe, 125–141; Farmer, 60
  3. 'Was St.Cuthbert an Irishman' Google Books
  4. Celt.dias.ie Archifwyd 2009-04-24 yn y Peiriant Wayback. Aldfrith of Northumbria and the Irish genealogies. Ireland, C. A., in Celtica 22 (1991).
  5. Corning, tud. 18.
  6. Koch, p. 432–434.