Lindisfarne
Ynys sanctaidd ger arfordir Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Lindisfarne, hefyd Holy Island (hen enw Cymraeg: Ynys Metcaud neu 'Medgawdd'[1]). Ar wahân i adegau o lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 180 yn 2011. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.
![]() | |
Math |
ynys llanw-a-thrai ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
160 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Northumberland ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
4 km² ![]() |
Gerllaw |
Môr y Gogledd ![]() |
Cyfesurynnau |
55.68°N 1.8025°W ![]() |
Cod OS |
NU129420 ![]() |
Cod post |
TD152SE ![]() |
Rheolir gan |
gwefeistr, English Heritage ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan |
Holy Island ![]() |
Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y 6g gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu Urien Rheged, Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, Gwallawc Marchawc Trin o Elmet a Morgant Bwlch yn gwarchae Eingl Brynaich ar yr ynys, a oedd wedi'u gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.
Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan Sant Aidan o Iwerddon, a yrrwyd o Iona ar gais Oswallt, brenin Northumbria tua 635. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, Cwthbert o Lindisfarne yn abad ac yn esgob yma.
Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd Efengylau Lindisfarne yma. Yn 793 ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.
Gweler hefydGolygu
- Cwthbert, sant o Frynaich (wedyn: Northumbria)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Hanes Cymru gan John Davies' Gwasg Penguin; 1900