Cymbrieg

iaith
(Ailgyfeiriad o Cymbreg)

Cymbrieg neu Cymbreg oedd cangen o Frythoneg yr Hen Ogledd – sef tiriogaethau'r Brythoniaid yn yr ardaloedd sydd bellach yn rhan o dde'r Alban a gogledd Lloegr. Yn nhyb y mwyafrif o ieithegwyr, bu farw'r Gymbreg cyn y 12g neu’r 13g wedi cwymp Teyrnas Ystrad Clud a’i rhannu rhwng yr Alban a Lloegr.

Cymbrieg
Siaredir yn De'r Alban, Cumberland, rhannau Westmorland o Northumberland, Swydd Gaerhirfryn ac efallai Gogledd Swydd Efrog
Difodiant iaith 11g–12g [1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3 xcb
Wylfa Ieithoedd

Mae ei statws ieithyddol yn ddadleuol. "Tafodiaith Frythonig debyg i'r Gymraeg" yw cynnig y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru,[2] er enghraifft. Nid yw’n glir ai fel iaith ar wahân neu fel tafodiaith o'r Frythoneg yn perthyn yn agos i Hen Gymraeg yn unig y dylid ystyried Cymbrieg. Gwahanwyd ardaloedd Brythoneg eu hiaith yr Hen Ogledd oddi wrth deyrnasoedd Brythonaidd Cymru ar ôl brwydr Caer ym 616, er y bu cysylltiadau rhwng teyrnas Gwynedd ac Ystrad Clud ar y môr hyd y Canol Oesoedd. Mae'n anodd profi bod unrhyw wahaniaethau mawr rhwng y Gymraeg a Chymbrieg o'r dystiolaeth enwau lleoedd sy'n edrych mwy neu lai yn rhai Cymraeg.

Yn y 10g yr oedd ymosodiadau'r Llychlynwyr yn ffyrnig iawn a bu'n hallt iawn ar y Saeson yng ngogledd Lloegr a chollasant eu grym ar nifer o ardaloedd a fu gynt o dan eu hawdurdod. Mae'n bosibl bod y Gymbrieg yn dal ar lafar yn yr ardaloedd hyn ond gwelwyd ymestyn nerth teyrnas Ystrad Clud (a oedd yn dal o dan dywysogion Cymbrieg eu henwau) yn y 10g i gynnwys rhannau o Lleuddion yn ogystal ag Ystrad Clud ei hun, glannau deheuol Llyn Llumon, "Swydd Llannerch" (Lanarkshire), "Swydd Dinprys" (Dumfriesshire), "Swydd Pebyll" (Peeblesshire), Swydd Aeron (Ayrshire), Swydd Cumberland - sef ardal Caerliwelydd gan gynnwys Ystrad Iddon (Eden Valley), Ystrad Alun (Allerdale) a rhannau o Swydd Westmorland.[3][4][5]

Dywedir yn draddodiadol bod ffiniau gwreiddiol Esgobaeth Caerliwelydd yn dynodi ffiniau Teyrnas Ystrad Clud yn Lloegr a rhai Esgobaeth Glasgau yn eu dynodi yn yr Alban.

Nid oes testun ysgrifenedig Cymbrieg ar glawr ac mae'r dystiolaeth yn dod o enwau lleoedd, rhai termau cyfreithiol,[6] a rhai geiriau yn nhafodieithoedd Saesneg ardaloedd a fu unwaith yn rhan o'r Hen Ogledd.

Problemau termau golygu

Mae Dauvit Broun yn trafod y broblem o ba dermau i'w defnyddio i ddisgrifio’r bobl a siaradai Cymbrieg[7]. Mae’n ymddangos eu bod yn galw eu hunain yn Gymry - o’r Frythoneg *kon-brogi. Mae’n debyg bod Brythoniaid yr Hen Ogledd a Brythoniaid Cymry yn ystyried eu hunain fel un genedl (er gwahanwyd gan diriogaethau Seisnig).

Yng Ngaeleg, eu henwau yw Breatnaich neu Cuimrich. I’r Llychlynwyr Brettar oeddynt. Rhufeineiddiwyd y term Saesneg Welsh fel Wallenses a'r term Cymraeg Cymry yn Cumbrenses. Cyfeiriwyd at Gymry Cymru a Chymry yr Hen Ogledd hefyd gan y ddau enw. Yn Sgoteg Wallis/Wellis oedd Cymry yr Hen Ogledd a Chymry Cymru.

Ond cwyd dryswch o'u galw'n Welsh heddiw. Nid yw trigolion ardal Glasgau yn Welsh yn ystyr modern, cyffredin y gair. Nid ydynt chwaith yn Cumbrians sydd heddiw yn dynodi brodorion swydd Cumbria yn Lloegr. Byddai esgobion Glasgau yn defnyddio’r term Cumbrenses a hefyd Wallenses yn eu dogfenni o’r Oesoedd Canol. Yma disgrifir Cumbria fel y canlyn:

In Cumbria itaque: : regione quadam inter Angliam et Scotiam sita - Yn Cumbria: :ardal sydd rhwng Lloegr a'r Alban[8].

Yn Vita S. Kentigern (Cyndeyrn Garthwys, nawdd sant Glasgau) ceir hyn:

Pan glywai brenin Rhydderch Hael a’i bobl fod Cynderyn wedi cyrraedd o Wallia i Cambria (sef Ystrad Clud) o alltudaeth, daeth brenin a phobl allan dan lawenydd i’w gyfarch[9]

Mae’n bur debyg bod y broblem gyda gwahaniaethu rhwng Cymry Cymru a Chymry’r Hen Ogledd yn un fodern wleidyddol. Ar sail iaith a’u syniad eu hunain o bwy oeddynt un bobl oeddynt - roedd pobl Gwent, Gwynedd ac Ystrad Clud i gyd yn Gymry, er nad oeddynt o dan un brenin.

Dyddiad ei darfod golygu

Nid yw’n bosibl rhoi dyddiad dibynadwy ar gyfer marwolaeth Cymbrieg. Fodd bynnag, mae ffeithiau ar gael sydd yn rhoi awgrymiadau. Yng nghanol y 11g mae arglwyddi sydd ag enwau sy’n ymddangos yn Gymbrieg. Er enghraifft mae Dunegal (Dyfnwal) arglwydd Strathnith (Ystrad Nidd, neu Nithsdale)[10], Moryn (Morien) arglwydd Cardew (Caerddu) a Cumdivock (Cwm Dyfog) ger Caerliwelydd ac Eilifr (Eliffer), arglwydd Penrith (Penrhudd)[11].

Mae pentref ger Caerliwelydd o’r enw Cumwhitton, gynt Cumquinton. Mae’n ymddangos ei fod yn cynnwys enw Normanaidd Quinton[12]. Ni fu Normaniaid yn y cyffiniau cyn 1069. Hefyd ni chodwyd y castell ym mhentref Castle Carrock (Castell Caerog) tan 1160-1170 ac y mae’r gair castell yn tarddu o’r Ffrangeg. Rhoddwyd tir Barmulloch ger Glasgau i’r eglwys gan frenin Mael Choluim IV rhwng 1153-1165. Barmulloch (Badermonoc gynt) yw'r Gymbrieg *bod ir monoch (bod y mynach). Sefydlwyd yr abaty yn Lanercost (Llannerch Awst) ger Caerliwelydd (ym 1170 gan fynaich Awstinaidd. Ai cyd-ddigwyddiad yn unig yw enwi'r llannerch ar ôl Awst (nad yw yn enw cyffredin)?

Ym mrwydr Northallerton in 1138, nodir Wallenses Ystrad Clud fel grwp ethnig ar wahân. Gan fod ei diwylliant materol yn debyg iawn i’w cymdogion Gaeleg a Seisnig, anodd gweld pa beth ond iaith y gellir eu dynodi fel poblogaeth wahanol.

Mae Wallace yn gyfenw Sgotaidd. Mae’n golygu Cymro ac mae’r ansoddair wallis yn cael ei ddefnyddio yn gyffredinol i ddynodi Brythoniaid Ystrad Clud. Nid oedd cyfenwau yn yr Alban yn cael eu hetifeddu cyn 1200 ymhlith y bonheddwyr ac nid yn rheolaidd tan ar ôl 1400. Lladdodd William Wallace siryf Lanark ym 1297. Hyd yn oed os etifeddodd ei gyfenw oddi wrth ei dad, mae’n debyg bod y teulu yn siarad Cymbrieg neu Gymraeg o fewn cof er mwyn cael eu henwi felly. Hynny, neu bob teulu Wallace wedi mewnfudo o Gymru yn y Canol Oesoedd.

Mae hefyd arwyddion hanesyddol i fodolaeth Cymry Ystrad Clud fel grŵp ar wahân yn y Canol Oesoedd. Cyn ei goroni yn frenin yr Alban, teitl Dafydd I yr Alban oedd Tywysog y Cymry (Lladin: Cumbrorum). Pan gyhoeddai Wiliam I (Brenin yr Alban) ei ddogfenni, nodai y Cymry fel poblogaeth o fewn ei wlad (yn ogystal â Saeson, Ffrancod a Gwyddyl). Nid yw hyn yn dangos bod y Cumbrenses yn dal i siarad Cymbrieg wrth gwrs[7].

Mae dogfenni o Abaty Lanercost sy'n dyddio o hwyr yn y 12g yn methu dangos enwau personol Cymbrieg. Uchelwyr yw’r rhain wrth gwrs, ond mae'n awgrymu nad oedd Cymry yn dal yn berchnogion tir.[13]. Gan fod Seisnigeiddio’r uchelwyr wedi digwydd ym mhob man cyn bod y werin yn newid iaith, mae’n bosibl bod pobl gyffredin yr ardal yn dal i siarad Cymbrieg. Tua 1200 mae rhestr o ddynion o dref Peebles (Pebyll). Yn eu plith mae enwau Cymbrieg fel Gospatrick (gwas Padrig), Gosmungo (gwas ‘’Mungo’’ neu Cyndeyrn Sant), Guososwald a Goscubrycht (gwas Cybricht neu Cuthbert). Nid yw’n arferol I roi gwas o flaen enw sant i ddangos dyn sy’n dilyn y sant hwnnw yn Gymraeg Cymru. Mae’n arferiad o fewn Gaeleg fodd bynnag. Hefyd daw dau sant – Oswallt a Cybricht o Northumbria) sy’n felly yn dangos dylanwadau ar Gymbrieg nas ceir ar Gymraeg.

Ym 1263 mae rheithwyr yn Peebles, mewn achos am dorri maw ar gam, ag enwau sydd yn bennaf yn Ffrangeg neu Saesneg[14], ond mae enwau Gauri Pluchan (Gwri?), Cokin Smith (Cochyn?) a Richard Gladhoc (Rhisiart Gwladog?). Nid yw'r enwau yn amlwg yn Saesneg neu Aeleg ond yn hytrach maent yn edrych yn Gymbrieg.

Yn siartr Priordy Wetherall ger Caerliwlydd mae mynach o’r enw Robert Minnock sy’n dyst i wyth siartr o gwmpas 1260[15]. Mae ei enw yn cael ei sillafu fel Minnoc~Minot~Mynoc ac mae’n atyniadol i weld y gair Cymraeg mynach– cofier mai llysenw disgrifiol ac nid cyfenw priodol sydd yma ar y dyddiad hwn. Nid oes eraill o’r tystion gydag enwau Cymbrieg.

Ar sêl frenhinol yr Alexander III o’r Alban, a oedd yn frenin rhwng 1241-1286, oedd y geiriau ‘’Rex Scotorum et Brittanniarum’’ sef Brenin y Sgotiaid a'r Brythoniaid. Ym 1305 gwaharddodd Edward I Lloegr gyfreithiau Sgotiaid a'r Brets - sef y Brythoniaid yn yr Alban.[16]

Mae’n debygol felly bod Cymbrieg yn goroesi tan ganol y 12g fel iaith bro ac efallai tan yr 13eg ganrif ar dafodau’r siaradwyr olaf. Mae rhai ardaloedd gyda chlystyrau dwys enwau lleoedd Cymbrieg; er enghraifft ardal Lanercost i’r dwyrain o Gaerliwelydd ac ardal o gwmpas Torquhan (Trewen) i’r de o Gaeredin. Os oes olion enwau Cymbrieg o fewn yr enwau yn y rhestr o 1262 o Peebles, gellir dychmygu Cymbrieg yn marw rhwng 1250 a 1300.

Rhifau golygu

Cedwir olion o'r Gymbreg yn y rhifau sydd wedi goroesi ar lafar yn yr ardal ac a ddefnyddiwyd yn bennaf gan fugeiliaid.

* Keswick Westmorland Eskdale Millom High Furness Wasdale Teesdale Swaledale Wensleydale Swydd Ayr
1 yan yan yaena aina yan yan yan yahn yan yinty  
2 tyan tyan taena peina taen taen tean tayhn tean tinty  
3 tethera tetherie teddera para tedderte tudder tetherma tether tither tetheri  
4 methera peddera meddera pedera medderte anudder metherma mether mither metheri  
5 pimp gip pimp pimp pimp nimph pip mimp(h) pip bamf  
6 sethera teezie hofa ithy haata - lezar hith-her teaser leetera  
7 lethera mithy lofa mithy slaata - azar lith-her leaser seetera  
8 hovera katra seckera owera lowera - catrah anver catra over  
9 dovera hornie leckera lowera dowa - horna danver horna dover  
10 dick dick dec dig dick - dick dic dick dik  
15 bumfit bumfit bumfit bumfit mimph - bumfit mimphit bumper -  
20 giggot - - - - - - - Jiggit -  

Cyfeiriadau golygu

  1. Nicolaisen, W. F. H. Scottish Place Names t. 131
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd), erthygl ar 'Yr Hen Ogledd'.
  3. Barrow, G. W. S. (1994) ‘The Scots and the North of England’ yn E. King (gol.) The Anarchy of King Stephen’s Reign. Rhydychen. t. 236
  4. Kirby, D. P. (1962) ‘Strathclyde and Cumbria: A Survey of Historical Development Until 1092’ yn Trans. CWAAS. 62, pp. 77-94
  5. Wilson, P. A. (1966) ‘On the Use of the Terms “Strathclyde” and “Cumbria” yn Trans. CWAAS. 66. pp. 67-92
  6. Jackson, K.H. (1958) Language and History in Early Britain, Caeredin: Edinburgh University Press
  7. 7.0 7.1 Broun, Dauvit (2004): ‘The Welsh identity of the kingdom of Strathclyde, ca 900-ca 1200’, Innes Review 55, pp 111-80.
  8. Innes, Cosmo Nelson, (ed). (1843), Registrum Episcopatus Glasguensis; Munimenta Ecclesie Metropolitane Glasguensis a Sede Restaurata Seculo Incunte Xii Ad Reformatam Religionem, i, Edinburgh: The Bannatyne Club
  9. (1989) Two Celtic Saints: the lives of Ninian and Kentigern Lanbedr Pont Steffan: Llanerch Enterprises, tud. 91
  10. Oram, R.(2000): The Lordship of Galloway, Edinburgh: John Donald
  11. Phythian-Adams, Charles (1996): Land of the Cumbrians, Aldershot: Scolar Press
  12. Armstrong, A. M., Mawer, A., Stenton, F. M. and Dickens, B. (1952) The Place-Names of Cumberland. Cambridge: Cambridge University Press.
  13. Todd, J. M. (ed.) (1991) The Lanercost Cartulary, Carlisle: CWAAS
  14. Chambers, W. (1864) A History of Peebleshire, Edinburgh: W & M Chambers
  15. Prescott, J. E. (ed.) (1897) Register of Wetheral Priory, Carlisle: CWAAS
  16. Barrow, G. W. S. (2005) Robert Bruce & the Community of the Realm of Scotland, Edinburgh: Edinburgh University Press

Dolenni allanol golygu

  • [1] Archifwyd 2009-06-08 yn y Peiriant Wayback. The Dragons Voice - Dyfodol y Gymbrieg
  • [2] Blog Cymbrieg - trafodaeth a hanes
  • [3] Wordpress: Cumbric Revival
  • [4] Gramadeg
  • [5] Cumbric.org - yr iaith a'i hanes