Cymdeithas Bêl-droed Gibraltar

cymdeiths bêl-droed Gibraltar

Y Gibraltar Football Association neu'r talfyriad GFA yw corff llywodraethol pêl-droed clwb a thîm genedlaethol Gibraltar ac Uwch Gynghrair Gibraltar.

Cymdeithas Bêl-droed Gibraltar
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd1895
PencadlysVictoria Stadium, Gibraltar
Aelod cywllt o FIFA13 May 2016
Aelod cywllt o UEFA24 May 2013
LlywyddMichael Llamas, QC

Ffurfiwyd y GFA yn wreiddiol fel y Gibraltar Civilian Football Association yn 1895. Gydag hynny, mae'n un o'r ffederasiynau pêl-droed hynaf yn y byd.

Daeth yn aelod dros dro o UEFA (UEFA) ar 1 Hydref 2012, yn dilyn penderfyniad gan y Llys Cyflafareddu Chwaraeon (Court of Arbitration for Sport) a gynhaliwyd ym mis Awst 2011. Penderfynwyd ar ei dderbyn fel aelod llawn ym mis Mai 2013 [1]. Cystadlodd y timau futsal dan 19 a dan 17 cenedlaethol Gibraltar mewn gemau o dan nawdd UEFA yn nhymor 2013-14.

Ar 24 Mai 2013, derbyniwyd Gibraltar fel 54edd cenedl aelod UEFA,[1] Ar 13 Mai 2016, derbyniwyd Gibraltar yn aelod rhif 211 o'r FIFA ynghyd â Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo.[2]

 
Tîm Gibraltar FC, yn cystadlu yn y Merchants Cup, 1895

Mae perthynas cynnar Gibraltar a'i datblygiad strwythurol cynnar, yn gysylltiedig gyda'r ffaith bod Gibraltar yn drefedigaeth Brydeinig a phorthladd hynod bwysig i Llynges a Llynges Fasnachol Prydain a gwleidydd eraill. O ganlyniad, daeth trigolion Gibraltar i gyswllt gyda thueddiadau newydd a phoblogaidd o Brydain, gan gynnwys pêl-droed, yn gymharol gynnar o'i cymharu â rhannau eraill o Ewrop.

Ffurfiwyd y GFA i ddwyn ynghyd y nifer cynyddol o glybiau yn Gibraltar. Yr unig gystadleuaeth bêl-droed yn Gibraltar oedd y Merchant's Cup.

Yn 1901, trefnodd y GFA i dîm yn cynrychioli Gibraltar, gystadlu yn erbyn timau milwrol Prydain a oedd wedi eu lleoli ar y drefedigaeth Brydeinig. Parhaodd i chwarae dros y degawdau, a'i pherfformiad gorau yn gêm gyfartal yn erbyn Real Madrid yn 1949.

Ym 1907, sefydlodd y GFA gynghrair pêl-droed er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth cwpan.

Ymgyrch Statws ryngwladol

golygu
 
Blwch Postio y Royal Gibraltar Post Office wedi ei baentio fel cit bêl-droed y GFA i ddathlu cydnabyddiaeth UEFA ar 24 Mai 2013

Dechreuodd y GFA ymgyrchu dros statws ryngwladol gan UEFA a FIFA a bu'n frwydr hir oherwydd nad yw Gibraltar yn wlad annibynnol wedi ei chydnabod gan y Cenhedloedd Unedig a cafwyd gwrthwynebiad chwyrn o du Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen sy'n gweld Gibraltar fel rhan o'i thiriogaeth hanesyddol a gollwyd yn sgil Cytundeb Utrecht yn 1714.

Cafodd cais y GFA i ddod yn aelod o FIFA ei ffeilio ym 1997. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cadarnhaodd FIFA agoriad y weithdrefn ac anfonodd y cais GFA at y cydffederasiwn cyfandirol priodol, UEFA, oherwydd yn ôl statudau FIFA, cyfrifoldeb y cydffederasiynau yw rhoi statws aelodaeth i ymgeiswyr. Yn 2000, cynhaliodd cyd-ddirprwyaeth UEFA a FIFA arolygiad ar gyfleusterau a seilwaith y GFA. Roedd FA Sbaen yn gwrthwynebu cais y GFA yn gryf.[3]

Cyfwynwyd cais arall yn 2006 ond ar 26 Ionawr 2007 yng Nghyngres UEFA a gynhaliwyd yn Düsseldorf (Yr Almaen), gwrthodwyd cais Gibraltar i ddod yn aelod llawn o UEFA, gyda 45 o bleidleisiau yn erbyn, 3 o blaid (sef Cymru, Lloegr a'r Alban), a 4 heb benderfynu.[4] Priodolodd llywydd y Ffederasiwn Ángel María Villar wrthwynebiad Sbaen i hawliad Sbaen dros Gibraltar.[5] Honnodd hefyd ei fod yn fater gwleidyddol a chyfeiriodd at Gytundeb Utrecht o 1713.[6] Er gwybodaeth, dyma'r un Cytundeb a roddodd Catalwnia ym meddiant Sbaen yn dilyn methiant Gwrthryfel y Medelwyr (Segadors), dros annibyniaeth Catalwnia.

Ar 21 Mawrth 2012 trafodwyd y cais am aelodaeth UEFA lawn gan Gibraltar eto,. Ar ôl y bleidlais yng nghynhadledd UEFA a gynhaliwyd yn Llundain ar 24 Mai 2013, derbyniwyd Gibraltar fel aelod llawn o UEFA. Cynhaliwyd pleidlais, canfuwyd bod mwyafrif clir wedi pleidleisio i dderbyn Gibraltar i UEFA. Dau gymdeithas genedlaethol; Pleidleisiodd Belarus a Sbaen yn erbyn y cynnig.[7]

On 13 May 2016, Gibraltar was accepted as a member of FIFA with a vote of 172 to 12 in favour. Gibraltar became FIFA's 211th member immediately after the Football Federation of Kosovo was voted member 210.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.bbc.co.uk/sport/football/22657481
  2. https://www.lequipe.fr/Football/Actualites/Le-kosovo-et-gibraltar-admis-comme-membres/673467
  3. Paradinas, Juan Jose (20 Awst 2000). "El apoyo del Gobierno y de los partidos". El País (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2015.
  4. "UEFA admits Montenegro, rejects Gibraltar". Reuters. 27 Ionawr 2007.[dolen farw]
  5. Sparre, Kirsten (8 Medi 2006). "Gibraltar to become member of UEFA despite Spanish resistance". playthegame.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Hydref 2007. Cyrchwyd 22 Medi 2008. This happened after pressure from Spain which still claims sovereignty over Gibraltar after it was ceded to Britain under the 1713 Treaty of Utrecht. It refuses to recognise Gibraltar and there is an edict from the Consejo Superior de Deportes to all sports federations in Spain that they should block any membership application from organisations in Gibraltar. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Gibraltar's bid fails 'through political pressure from Spain'". Panorama. 26 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 22 Medi 2008. Villar said that "it is a political issue and since 1713 we have not found a political solution to this situation, because it is so difficult to resolve."
  7. Lafuente, Javier (24 Mai 2013). "Gibraltar mete gol a España (Gibraltar scores a goal against Spain)". El País (yn Spanish). Cyrchwyd 25 Mai 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "Fifa: Kosovo and Gibraltar become members of world governing body". BBC Sport (yn Saesneg). 13 Mai 2016. Cyrchwyd 19 Ionawr 2018.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.