Tîm pêl-droed cenedlaethol Gibraltar
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gibraltar (Saesneg: Gibraltar national football team) yn cynrychioli Gibraltar yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Gibraltar (Saesneg: Gibraltar Football Association, GFA), corff llywodraethol y gamp yn Gibraltar. Mae'r GFA yn aelodau o UEFA ers 2013[3] ond gan nad ydynt yn aelodau o FIFA nid ydynt yn cael cystadlu yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Llysenw(au) | Team 54[1] | |||
---|---|---|---|---|
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | |||
Hyfforddwr | Desi Curry (dros dro) | |||
Capten | Roy Chipolina | |||
Mwyaf o Gapiau | Liam Walker (29) | |||
Prif sgoriwr | Lee Casciaro, Jake Gosling, Liam Walker (2) | |||
Cod FIFA | GIB | |||
Safle FIFA | 206 (15 Mawrth 2018)[2] | |||
Safle FIFA uchaf | 205 (Medi 2016 – Mawrth 2017) | |||
Safle FIFA isaf | 206 (Ebrill 2017 – Mawrth 2018) | |||
Safle Elo | 180 (6 Mawrth 2018) | |||
Safle Elo uchaf | 174 (Mawrth 2011) | |||
Safle Elo isaf | 188 (Gorffennaf 1995) | |||
| ||||
Gêm ryngwladol gynaf | ||||
Gibraltar 0–0 Slofacia (Faro, Portiwgal; 19 Tachwedd 2013) | ||||
Y fuddugoliaeth fwyaf | ||||
Gibraltar 1–0 Malta (Faro, Portugal; 4 Mehefin 2014) Gibraltar 1–0 Latfia (Gibraltar; 25 Mawrth 2018) | ||||
Colled fwyaf | ||||
Gwlad Belg 9–0 Gibraltar (Liège, Gwlad Belg; 31 Awst 2017) |
Hanes
golyguDyddiau Cynnar
golyguRoedd gêm gyntaf tîm pêl-droed (genedlaethol) Gibraltar ym mis Ebrill 1923, yn erbyn clwb Sevilla. Collodd Gibraltar y ddwy gêm gyfeillgar. Llwyddasant i gael gêm gyfartal yn erbyn Real Madrid in 1949.[4][5]
Gemau'r Ynysoedd
golyguCyn ymuno ag UEFA (corff llywodraethol pêl-droed Ewrop) bu Gibraltar yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau, yn fwyaf arbennig yn Gemau'r Ynysoedd (Island Games), er nad yw Gibraltar yn ynys, ond yn benrhyn.
Cymerwyd rhan yng Ngemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf yn 1993 Island Games. Collodd Gibraltar ei gemau i gyda, gan ddim ond sgorio un gôl a gorffen y twrnament yn y safle olaf un.
FIFI "Wild Cup"
golyguYn haf 2006 cymerodd Gibraltar ran yng nghystadleuaeth FIFI Wild Cup lle roedd hi'n 3ydd yn y detholion. Roedd y twrnament yn fersiwn amgen o Gwpan y Byd ar gyfer timau nad sydd wedi eu cydnabod yn swyddogol gan FIFA (corff byd-eant pêl-droed). Dim ond unwaith erioed gynhaliwyd y gystadleuaeth. Cafodd Gibraltar gêm gyfartal yn erbyn Gwerinaieth St Pauli (clwb radical, asgell chwith o ddinas Hamburg yn yr Almaen sy'n chwarae yn y Bundesliga. Aethant ymlaen i guro tîm Tibet 5–0 gan fynd ymlaen i'r gemau cyn-derfynol. Collon nhw'r gêm nesa, 2–0 Tîm pêl-droed gweriniaeth Twrcaidd Gogledd Cyprus. Curodd Gibraltar St Pauli unwaith eto i ennill ei lle fel trydyrdd yn y gystadleuaeth.[6]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Team 54". Gibraltar Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-18. Cyrchwyd 22 Awst 2014.
- ↑ "FIFA Rankings". FIFA.com. FIFA. 18 Ionawr 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-25. Cyrchwyd 18 Ionawr 2018.
- ↑ "Enw newydd yn nheulu Uefa". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Owen, Graham. "Football in Gibraltar-". laliganews.tv. La Liga News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2013. Cyrchwyd 24 Chwefror 2014. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Kenny, Stuart. "From army games to a draw with Real Madrid: A history of Gibraltar football". sports.stv.tv. STV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mawrth 2014. Cyrchwyd 24 Chwefror 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "FIFI Wild Cup 2006". rsssf.com. RSSSF. Cyrchwyd 25 Chwefror 2014.