Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch

Cystadleuaeth pêl-droed a gynhelir yn ystod yr haf yw Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch. Cynhelir y gemau rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf ar nosweithiau Llun a Iau rhwng timau o bentrefi a phlwyfi Nyffryn Clwyd. Sefydlwyd y gynghrair ym 1927 er mwyn "caniatáu i amaethwyr, oedd yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, gael y cyfle i chwarae'r gêm brydferth".[1] Rhaid i bob chwaraewr fod yn byw o fewn y plwyf i gynrychioli ei dîm.

Cynghrair Pêl-droed Haf Llandyrnog a'r Cylch

Yn 2017 roedd 12 tîm yn cystadlu yn y gynghrair. Yn haf 2007 enillodd Clawddnewydd y gynghrair am y tro cyntaf erioed yn eu hanes.[2]

Mae'r timau hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth Tarian ar ddiwedd y tymor.

Timau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni golygu