Agor y brif ddewislen

Cantref Gwarthaf

un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol.
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwarthaf)

Roedd cantref Gwarthaf yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn rhan o dde-ddwyrain Sir Benfro a gorllewin Sir Gaerfyrddin heddiw.

Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan Bae Caerfyrddin. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi Penfro a Daugleddau, i'r gogledd ag Uwch Nyfer yng nghantref Cemais a chantref Emlyn, ac i'r dwyrain â chwmwd Gwidigada yn y Cantref Mawr a chwmwd Cydweli yng nghantref Eginog.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth cwmwd, sef :

Roedd canolfannau pwysicaf Gwarthaf yn cynnwys Arberth, safle un o lysoedd pwysicaf Dyfed y cyfeirir ato yn y Pedair Cainc, a Chaerfyrddin, fu'n ganolfan bwysig ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yno hefyd ceir llys brenhinol hynafol yr Hendy-gwyn ar Daf, a oedd yn ogystal yn lleoliad clas cynnar ac yn ddiweddarach yn ganolfan i'r Sistersiaid yng Nghymru.

Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir Llan Deulyddog yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd Meidrym, eglwys gysylltiedig â chwlt Dewi Sant.

CyfeiriadauGolygu

  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)

Gweler hefydGolygu