Cynon
Sant o Gymro oedd Cynon (fl. 6g). Yn ôl un ffynhonnell roedd yn un o feibion Brychan, sefydlydd traddodiadol Brycheiniog.[1]
Cynon | |
---|---|
Ganwyd | Teyrnas Brycheiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 9 Tachwedd |
Tad | Brychan |
- Erthygl am y sant yw hon. Am yr arwr o'r Hen Ogledd gweler Cynon fab Clydno Eiddin.
Traddodiadau
golyguCeir peth cymysgedd yn y traddodiadau amdano ac mae'n bosibl iddo gael ei gymysgu weithiau â Cynon, mab Clydno Eiddin o'r Hen Ogledd. Ceir cyfeiriadau hefyd at un Cynon Fanaw neu Cynon o Fanaw, a ymsefydlodd ar Ynys Manaw. Ond gan fod y sant hwnnw yn rhannu'r un wylmabsant (9 Tachwedd), ac yn fab i Frychan, mae'n debygol mai'r un gŵr ydyw.[1]
Cysylltir Cynon â sawl lle yng ngorllewin a de Cymru. Dywedir ei fod wedi astudio yn Llancarfan a Llanilltud Fawr dan y sant Cadfan; yn ôl un traddodiad daeth o Lydaw gyda Chadfan i sefydlu clas ar Ynys Enlli. Ceir eglwysi sy'n gysegredig iddo yn Nhregynon (Maldwyn) a Chapel Cynon (Ceredigion). Ger Llanbister ym Maesyfed roedd Croes Cynon (enw plasdy bellach) a Chraig Cynon wrth ffrwd o'r enw Nant Cynon.[1]