Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

(Ailgyfeiriad o DUP)

Plaid wleidyddol fwyaf Gogledd Iwerddon yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (neu DUP; Saesneg: Democratic Unionist Party), sy'n blaid Unoliaethol. Ei arweinydd cyfredol yw Edwin Poots. Sefydlwyd y blaid gan Ian Paisley yn 1971 wedi iddo enillodd sedd seneddol Gogledd Antrim yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970.

Democratic Unionist Party
ArweinyddEdwin Poots
CadeiryddMaurice Morrow
SefydlyddIan Paisley
Dirprwy ArweinyddNigel Dodds
Sefydlwyd30 Medi 1971
Rhagflaenwyd ganProtestant Unionist Party
Pencadlys91 Dundela Avenue
Belfast, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon
Rhestr o idiolegauCenedlaetholdeb Brydeinig[1]
Unoliaethrwydd Prydeinig (British unionism)
Sbectrwm gwleidyddolCanol-chwith[2] i'r Asgell-dde[3]
Cysylltiadau EwropeaiddDim
Grŵp yn Senedd EwropNon-Inscrits
LliwCoch, glas a gwyn
Tŷ'r Cyffredin
10 / 18
Tŷ'r Arglwyddi
4 / 784
Senedd Ewrop
1 / 3
Cynulliad GI
27 / 90
Llywodraeth Leol
131 / 462
Gwefan
mydup.com/

Prif amcan y blaid unoliaethol hon yw cadw talaith Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig a gwrthwynebu'r symudiadau at gydweithredu a rhannu grym â Gweriniaeth Iwerddon.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 enillodd y DUP 10 sedd (a Sinn Féin 7); gan i Theresa May fethu a chyrraedd mwyafrif llawn, unodd Ceidwadwyr y DU gyda'r DUP i ffurfio partneriaeth answyddogol, mewn senedd grog. O ran polisiau cymdeithasol, mae'r DUP hefyd yn geidwadol. Mae hefyd wedi ymgyrchu:

  • yn erbyn erthylu
  • yn erbyn priodas un-rhyw
  • yn erbyn 'gweithredoedd hoyw'
  • dros adael yr Undeb Ewropeaidd
  • yn erbyn Cytundeb Belffast, 1998
  • creodd adran filwol o'r enw'r Third Force ar ddiwedd y 1970au ac a esblygodd yn Ulster Resistance yn 1986

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Unionist bid to be UK 'kingmakers' unsettles some in Northern Ireland". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-12. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2015.
  2. "Who are the DUP? What you need to know about the Democratic Unionist Party" Archifwyd 2017-06-09 yn y Peiriant Wayback, gan Tom Burnett. The Sentinel. 9 Mehefin 2017. Adalwyd 9 Mehefin 2017.
  3. Cowell-Meyers, Kimberly. "Democratic Unionist Party (DUP), Encyclopædia Britannica
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.