Daearyddiaeth Affrica
Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddi arwynebedd o c. 30,360,288 km²; (11,722,173 mi sg), gan gynnwys yr ynysoedd.
Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (mae Camlas Suez yn gorwedd rhyngddynt), sydd 130 km (80 milltir) o led. (Yn nhermau gwleidyddol, ystyrir penrhyn Sinai yn yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd.)
O'r pwynt mwyaf gogleddol, sef Cap Blanc (Ra’s al Abyad) yn Tiwnisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Penrhyn Vert yn Senegal, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir).
Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km²; (3,760,000 mi sg) yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn.