Cwmni theatr Gymraeg oedd Cwmni Whare Teg a sefydlwyd gan yr actorion Dafydd Hywel, Christine Pritchard, Islwyn Morris a Glyn Jones yng Nghaerdydd ym 1984.[1] Yn fuan wedi llwyddiant y sioe cyntaf, symudodd y Cwmni o Gaerdydd i Blas Dinefwr, Llandeilo.[2] Llwyfannwyd nifer o ddramâu gan awduron o Gymru fel T James Jones a Manon Rhys (Pwy Bia'r Gân?), Meic Povey (Gwaed Oer) a Gwenlyn Parry (Panto). Bu'r cwmni hefyd yn allweddol o ran llwyfannu pantomeimiau dros gyfnod y Nadolig i blant Cymru. Daeth y cwmni i ben ynghanol y 1990au yn sgil colledion ariannol. Chwaer gwmni iddi yw Cwmni Mega.[1]

Cwmni Whare Teg
Enghraifft o'r canlynolcwmni theatr
Dyddiad cynharaf1984
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
SylfaenyddDafydd Hywel, Christine Pritchard, Islwyn Morris a Glyn Jones

Cyfarwyddwr artistig

golygu
 
Poster 1991 Cwmni Whare Teg

Cefndir byr

golygu

"Breuddwyd bersonol ar hyd yr amser o'dd creu cwmni a fydde'n Ilwyfannu pantomeim blynyddol i ddifyrru a diddanu plant Cymru", dywed yr actor Dafydd Hywel yn ei hunangofiant, "...a gyda chymorth Islwyn Morris, Glyn Jones a Christine Pritchard ffurfiwyd Cwmni Whare Teg yn 1984. Yn anffodus methwyd ag argyhoeddi Cyngor y Celfyddydau ynglŷn â'n bwriadau a bu'n rhaid palu mlan am sbel heb gymorth ariannol. Yn sgil y diffyg grant fe benderfynodd Islwyn, Glyn a Christine ymddiswyddo, odd yn golygu fod yr holl gyfrifoldebe'n disgyn ar fy ysgwydde i ac o dan yr amgylchiade, don i ddim yn 'u beio nhw."[1]

Llwyfannwyd nifer o ddramâu gan gynnwys sioeau i blant i fel Jiw Jiw! Jeifin Jenkins! (1989) gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones.

"Credaf yn gryf erbyn hyn y dylai cwmni theatr megis Cwmni Whare Teg gael ei wreiddiau yn ddwfn yn Nyfed", meddai Dafydd Hywel, yn Rhaglen y cwmni o'r cynhyrchiad Gwaed Oed ym 1992. "Fe benderfynon [...] os oedd y Cwmni i fod yn llwyddiant, y dylem ymghynghori a chysylltu â pobl lleol i raddau helaethach nag sy'n arferol o fewn theatrâu Cymraeg", ychwanegodd. Sefydlodd y cwmni nifer o gyrsiau actio a dawnsio, cyngherddau roc awyr agored a nosweithiau joio, yn ogystal â'r darpariaeth o gynyrchiadau theatr.[2]

"...a ninnau wedi perfformio drama Williams Pantycelyn yng Nghaerdydd tua 1993 ac yn paratoi ar gyfer taith o gwmpas Cymru derbynies y newyddion syfrdanol fod Cwmni Whare Teg ddege o filoedd o bunne mewn dyled [...] Fe ddylsen i fod wedi bod mwy hands-on a dechre westiynu rhai penderfyniade busnes. Er enghraifft, pam llogi stafell enfawr yng Nghastell Dinefwr a ninne ond yn dri ar y staff? Shwd alle'r colledion fod mor ddifrifol a nine'n llenwi neuadde a theatrau? [...] Felly dath y cwmni i ben yn y fan ar lle".[1]

Aeth Dafydd Hywel yn ei flaen i sefydlu Cwmni Mega.

Rhai cynyrchiadau

golygu

1980au

golygu
 
Rhaglen Gwaed Oer

1990au

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Hywel, Dafydd (2012). Hunangofiant Alff Garnant. Gomer.
  2. 2.0 2.1 Rhaglen Gwaed Oer. 1992.
  3. Rhaglen y pantomeim Rwj Raj. 1984/85.
  4. "maes-e.com • Dangos pwnc - Blodeuwedd - Y Panto". maes-e.com. Cyrchwyd 2024-09-06.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.