Dafydd Trystan Davies

Cadeirydd Plaid Cymru ers Hydref 2013 yw Dafydd Trystan Davies (ganed 11 Awst 1974, Aberdâr).[1][2] Safodd dros Blaid Cymru yn etholiad seneddol Cwm Cynon yn 2010 ac yn etholiad y Cynulliad yng Nghwm Cynon yn 2011. Mae'n ymgeisydd ar gyfer etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn etholiad y Cynulliad, 2016 ac yn ymgeisydd ar gyfer Rhestr Canol De Cymru. Mae'n briod gyda Lisa Turnbull sy'n enedigol o Milton Keynes.[3]

Dafydd Trystan Davies
Ganwyd11 Awst 1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata

Yn ei waith o ddydd i ddydd mae'n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ers Medi 2007, a bu'n Brif Weithredwr Plaid Cymru rhwng Medi 2002 a Medi 2007.[4]

Fe'i ganwyd yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf. Cafodd Dafydd, sy’n byw yng Nghaerdydd ei addysg yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Aberystwyth, gan ennill gradd dosbarth cyntaf a Doethuriaeth mewn 'Globaleiddio ac economi Cymru'. Bu hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng Medi 1998 a Medi 2002.

Mae'n gadeirydd menter gymdeithasol Cycle Training Wales, yn gyfarwyddwr TooGoodToWaste, menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, ac yn aelod o fwrdd y corff cludiant cynaliadwy, Sustrans Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Aberdare Online - DAFYDD TRYSTAN DAVIES Plaid candidate Cynon Valley, 5 May 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-11. Cyrchwyd 2021-02-19.
  2. plaid.cymru;[dolen marw] adalwyd 27 Ionawr 2015
  3. walesonline.co.uk; adalwyd 27 Ionawr 2016
  4. linkedin.com;[dolen marw] adalwyd 27 Ionawr 2016


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.