David Lloyd (gwleidydd)
Gwleidydd, meddyg teulu Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw'r Dr David Rees Lloyd a adnabyddir hefyd fel Dai Lloyd (ganed 2 Rhagfyr 1956). Cynrychiolodd Ranbarth Gorllewin De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011. Dychwelodd i'r Cynulliad ar restr yr un rhanbarth (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) yn dilyn Etholiad 2016. Yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 sefodd yn anllwyddiannu fel ymgeisydd dros etholaeth Gorllewin Abertawe (etholaeth Senedd Cymru) heb roi ei enw ar y rhestr rhanbarthol.
Dr David Lloyd | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru for Ranbarth Gorllewin De Cymru | |
Mewn swydd 6 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Altaf Hussain |
Dilynwyd gan | Sioned Williams |
Mewn swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd |
Dilynwyd gan | Byron Davies |
Manylion personol | |
Ganwyd | David Rees Lloyd 2 Rhagfyr 1956 Tywyn, Gwynedd |
Cenedl | Welsh |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | Catherine Lloyd |
Plant | 3 |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
Gwaith | Meddyg teulu |
Proffesiwn | Meddyg teulu |
Roedd Dr Lloyd yn Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Ddiwylliant a Seilwaith yn ogystal â bod yn Gadair Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad a chadair Is-Bwyllgor Iechyd, Gofal a Chwaraeon y Cynulliad. Roedd hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar yr Iaith Gymraeg.[1] Diben y gŵp hwn yw trafod a thynnu sylw at faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg, cydweithio a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw faterion sy'n sicrhau tegwch iddi, a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw faterion a all effeithio arni.
Yn y gorffennol, mae wedi siarad dros chwarelwyr y gwaith glo y bu'n eu trin yn ei waith fel meddyg, gan ymladd am gymorth ariannol i'r rhai hynny sy'n dioddef oherwydd effaith y llwch ayb. Mae'n bregethwr lleyg yn ei oriau hamdden ac mae ganddo dri mab.[2]
Addysg
golyguMynychodd Ysgol Uwchradd Tywyn cyn mynychu Prifysgol Meddygol Cymru, Caerdydd, gan raddio MB BCh yn 1980, MRCGP yn 1989 a Dip. Ther (1995). Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus, FRCGP, gan Goleg Brenhinol y Ffisegwyr yn 2001. Mae'n feddyg teulu yn Fforestfach ers 1984.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Altaf Hussain |
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru 2016 – 2021 |
Olynydd: Sioned Williams |
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gorllewin De Cymru 1999 – 2011 |
Olynydd: Byron Davies |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ senedd.cynulliad.cymru; adalwyd 9 Gorffennaf 2019.
- ↑ news.bbc.co.uk; adalwyd 9 Gorffennaf 2019.