Drama fer Gymraeg ar gyfer y llwyfan o waith y dramodydd Wil Sam Jones yw Dalar Deg. Daeth y ddrama ymysg y tair orau yng nghystadleuaeth y ddrama fer yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962 ac fe'i llwyfannwyd hi yn ystod wythnos yr Ŵyl. Cyhoeddwyd hi am y tro cyntaf gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar argymhelliad y beirniad, Emyr Humphreys, ynghyd â dwy ddrama arall orau'r gystadleuaeth.[1]

Dalar Deg
Enghraifft o'r canlynoldrama lwyfan Gymraeg
Dyddiad cynharaf1962
AwdurW.S. Jones [Wil Sam]
CyhoeddwrJ D Lewis, Llandysul
IaithCymraeg
Mathdrama lwyfan
Dyddiad y perff. 1af1962 Neuadd y Farchnad, Llanelli

Disgrifiad

golygu

Digwydd y ddrama yng 'Nghegin Ffarm' y Dalar Deg, sy'n eiddo i'r ffermwr Robat Jones, a elwir yn 'Mistar'. Mae ef a'i wâs [Dafydd] o dair mlynedd, yn trafod arian ar gychwyn y ddrama, a phryderon mam y gwâs o'r diffyg trefn sydd ar y fferm. Awgrymir bod angen "howsgipar" [morwyn] ar y Mistar. Galwa y "gwerthwr wŷau" Davies, sy'n cytuno i helpu'r Mistar i chwilio am gymorth benywaidd iddo. Mae'n crybwyll ei fod yn adnabod "dynes ganol oed gall" sydd wedi "arfar efo gwaith ffarm". Ei henw yw Lusa Parri.

Fe gychwyn yr ail 'olygfa gyda mwy o lanast na'r 'olygfa gyntaf, er bod Lusa Parri yn amlwg wedi cyrraedd, ac yn segura tra'n "gwrando ar y gramoffon". Mae'n amlwg bod Lusa Parri yn ddiog ac yn dda-i-ddim, gan bod yn rhaid i'r Mistar barhau i wneud popeth ei hun. Geilw Davies unwaith eto, ac mae'r Mistar yn dweud fod yn rhaid i Lusa Parri fynd. Mae Davies yn addo cael merch arall "ifanc" iddo o'r enw Olwen, ond mae'r ddau yn poeni sut i gael gwared o Lusa. Tra'n mynd ar neges i'r dref, ar gefn ei fotor beic, gyda Lusa Parri yn gwmni, mae'r gwâs yn cael damwain, ac mae Lusa yn cael ei lladd.

Erbyn y drydedd olygfa, "mae'r gegin wedi ei thacluso" ac mae'n amlwg fod Olwen wedi cael trefn ar y fferm a'r ddau ŵr sy'n byw yno. Y dasg o hyn ymlaen fydd cadw Olwen ar y fferm, ond mae gan y Gwâs a'r Meistr gynlluniau carwriaethol wahanol ar ei chyfer!. Ond y Gwâs sy'n ennill y dydd, ond yn cael sioc pellach fod Olwen eisioes yn feichiog, ac mai Davies yw wŷau yw'r tad.

Cymeriadau

golygu
  • Mistar
  • Gwas
  • Davies
  • Lusa Parri
  • Olwen

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Fel nodwyd uchod, llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf fel rhan o ddathliadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1962, a hynny yn Neuadd y Farchnad, Llanelli ar yr 8 Awst 1962 gan Gwmni Drama Llanystumdwy. Cynhyrchydd [cyfarwyddwr] Elis Gwyn Jones; llwyfannydd a goleuwr Ifan Gwyn Jones [mab Elis Gwyn]; cast:[1]

2000au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Llwyndyrus yn 2005, gan fynd â'r ddrama ar daith unigryw i'r Wladfa. Bu i Cwmni Da greu rhaglen arbennig o'r gyfres Y Sioe Gelf ar gyfer S4C yn olrhain hanes y cwmni â'r daith. Cyfarwyddwr Gwilym Griffith; cast:

  • Mistar
  • Gwas - Iwan Williams
  • Davies
  • Lusa Parri - Catrin Dafydd
  • Olwen

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Tair Drama Fer. Gwasg Lewis, Llandysul. 1962.