Dan Thomas

Digrifwr o Gymro

Digrifwr yw Dan Thomas (ganed yn 1980) sy'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n arbenigo mewn comedi stand-yp ond mae hefyd yn ysgrifennu dramâu ac yn perfformio mewn meysydd eraill.

Dan Thomas
Ganwyd1980 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.danthomascomedy.com/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Dan yn 1980 a magwyd ef yn Abertawe gan fynychu Ysgol Gyfun Gŵyr - mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.[1] Yn ôl ei set llwyfan, magwyd ef mewn teulu cenedlaetholaidd iawn oedd yn cefnogi Cymru annibynnol a mudiadau gweriniaethol. Mae'n gefnogol iawn i'r Gymraeg ac yn perfformio setiau yn yr iaith.[2] Mae hefyd wedi cymryd rhan yn nosweithiau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan fudiad Yes Cymru. Er hyn, dydy ei set ddim yn dueddol o fod yn or-wleidyddol.

Gyrfa golygu

Dechreuodd berfformio comedi stand-yp yn 2005 gan ddod yn gomedïwr llawn amser yn 2010.[3]

Cyrhaeddodd rownd derfynol y Welsh Unsigned Stand Up Awards 2010 a gwobrau cylchgrawn 'Loaded' y LAFTAS 2010. Ef oedd enillydd cyntaf erioed cystadleuaeth Dog Eat Dog Stand Up De Cymru.

Mae wedi perfformio ar draws Prydain mewn lleoliadau bri-uchel megis, y Glee Club, Highlights, The Comedy Store, Komedia ac mewn amryw o ŵyliau comedi gan gynnwy Gŵyl Gomedi Machynlleth a Gŵyl y Green Man.

Yn 2011, dewiswyd Dan i gefnogi Russell Kane ar ei daith Brydeinig gyda sioe enillydd Gwobr Perrier, "Smokescreens and Castles" ac ar daith arall Russell, "Manscaping".

Mae wedi perfformio yn y Gymraeg mewn nosweithiau gyda comedïwyr eraill fel Phil Cooper [4], ar gyfres gomedi Gwerthu Allan ar S4C, ar Radio Cymru ac ym Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[5]

Teledu golygu

  • Deal or No Deal - gweithio fel artist 'twymo'r tŷ' sy'n cael cynulleidfa mewn hwyliau da cyn dechrau ffilmio rhaglen, ar gyfer sawl sioe
  • Houseguest - ar ITV
  • Funny Business ar BBC Wales
  • Gwerthu Allan - cyfres 2 ar S4C [6]

Radio golygu

  • The Rhodri Williams Show - ar BBC Radio Wales
  • What's The Story? - cynhyrchiad BBC Radio Wales/Tidy Productions).
  • Chaos at the Glee Club (Goldrush Productions)
  • The World of Acting (Clare Sturges Productions)

Llwyfan golygu

Mae wedi ysgrifennu drama And The Killer Is... a oedd yn sioe a werthodd bob tocyn yn 2010.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu