Dandasana

asana eistedd, mewn ioga

Asana, neu siap y corff mewn ymarferion ioga yw Dandasana (Sanskrit दण्डासन; IAST: Daṇḍāsana) neu'r Ffon[1]. Fe'i dosberthir i'r grwp o asanas a elwiryn asana eistedd mewn ioga modern fel ymarfer corff.

Dandasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd, asanas ymlaciol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad a tharddiad golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit दण्ड daṇḍa sy'n golygu "ffon",[2] ac आसन āsana sy'n golygu "osgo" neu siap y corff.[3]

Nid yw'r ystum hwn i'w gael yn y testunau ioga hatha canoloesol.[4] Mae Sritattvanidhi o'r 19g yn defnyddio'r enw Dandasana ar gyfer ystum gwahanol, lle caiff y corff ei ddal yn syth, wedi'i gynnal gan gortyn neu elastig cryf.[4] Mae'r ysgolhaig ioga Norman Sjoman yn nodi, fodd bynnag, bod yr ymarferion gymnasteg Vyayama Indiaidd traddodiadol yn cynnwys set o symudiadau o'r enw "dands", tebyg i Gyfarchiad i'r Haul (Surya Namaskar) ac i'r vinyāsas a ddefnyddir mewn ioga modern.[4]

 
Maneka Sanjay Gandhi yn cymryd rhan mewn rhaglen (Ioga i fenywod beichiog), ar achlysur 4ydd Diwrnod Rhyngwladol Ioga 2018, yn New Delhi ar 21 Mehefin 2018.

Disgrifiad golygu

Mae'r asana eistedd hwn yn dechrau gyda'r coesau wedi'u hymestyn ymlaen. Dylai cledrau neu flaenau'r bysedd (os na fydd y cledrau'n cyrraedd) gael eu gorffwys ar y ddaear o boptu'r corff. Dylai'r corff uchaf fod yn ymestyn i fyny trwy goryn y pen, a dylai'r cefn fod yn hollol berpendicwlar i'r llawr (fel pe bai'n eistedd yn erbyn wal). Os nad yw hyn yn bosibl, gellir gosod blocyn ioga o dan y pen ôl. Dylai'r coesau fod yn gwasgu'n erbyn ei gilydd, a dylai bodia' traed fod yn pwyntio i mewn i'r corff. Efallai y bydd hyd yn oed yn bosibl creu gofod rhwng y sodlau a'r ddaear trwy dynhau cyhyrau'r coesau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Staff Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. "Dandasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2011. Cyrchwyd 11 April 2011.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. 4.0 4.1 4.2 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 44, 50, 78, 98–99. ISBN 81-7017-389-2.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu