Daniel Lloyd (perfformiwr)

actor, canwr a chyfarwyddwr Cymreig o Rosllannerchrugog. Prif leisydd Daniel Lloyd a Mr Pinc

Mae Daniel Lloyd yn actor ac yn berfformiwr sy'n adnabyddus am sawl rhan actio ac fel cyfansoddwr a phrif leisydd y grŵp pop Cymraeg, Daniel Lloyd a Mr Pinc.

Daniel Lloyd
Ganwyd26 Gorffennaf 1982 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir a phersonol golygu

Magwyd Daniel yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam a'i hyfforddi yn Ysgol Ddrama East 15.[1] Mae bellach yn byw yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, gyda'i wraig Elen, sy'n therapydd lleferydd[2] Cyhoeddodd iddo ddyweddio ag Elen yn ystod gwyliau i Rufain ar 7 Chwefror 2010.[3] Cyhoeddodd mewn cyfweliad â Lisa Gwilym ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru ar 23 Chwefror 2011 ei fod ef ac Elen wedi priodi. Mae ganddynt ddau blentyn.

Rhannau actio golygu

Teledu a ffilm golygu

  • Brassic ar gyfer SKY
  • Rownd a Rownd, opera sebon i bobl ifanc, fel y cymeriad Aled
  • Dau Dŷ a Ni, Mici yn Tipyn o Stad; Dafydd Meirion yn A470

Llwyfan golygu

  • The Commitments gan Roddy Doyle yn The Palace Theatre yn y West End. Chwarae'r brif ran, Deco, ar sawl achlysur a chwarae pum rôl i gyd
  • Tom - The Tom Jones Musical - rhan Mickey Gee [4]
  • As You Like It yn Llwydlo a chastell Staford
  • Some Like It Hotter - taith Brydeinig
  • Mods and Rox (The New Wolsey Theatre)
  • Deffro’r Gwanwyn/Spring Awakening
  • New Musical (Theatr Genedlaethol Cymru/Elen Bowman)

Bu'n chwarae sawl rhan gyda Clwyd Theatr Cymru: Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming Of The Shrew, Animal Farm, Yesterday, The Suicide, Tales From Small Nations, A Midsummer Night’s Dream a 15 rôl mewn pantos roc a rôl olynol yn cynnwys Sleeping Beauty, Aladdin, Robin Hood & The Babes in The Wood, Cinderella, Jack and the Beanstalk, Beauty & The Beast. Bu iddo hefyd ymddangos fel Blondel/Will Scarlet in Robin Hood and the Babes in the Wood.[5]

Cyfarwyddo golygu

Mae Daniel Lloyd hefyd wedi cyfarwyddo cynhyrchiadau gan cynnwys: The White Feather, Arandora Star, The Butterfly Hunter, Far From The Madding Crowd, Toxic Whispers a Cloudbusting, It’ll All Be Over By Christmas a dau pantomeim llawn sêr Shane Williams ar gyfer S4C.

Cerddoriaeth golygu

Mae hefyd yn brif ganwr y band Daniel Lloyd a Mr Pinc sydd wedi rhyddhau sawl record ac wedi teithio’n helaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae gyrfa gerddoriaeth Daniel wedi ei weld yn rhyddhau dau albwm, Goleuadau Llundain (2005) gyda Mr Pinc, a gyrhaeddodd rif 4 yn Siart Cerddoriaeth Gymraeg Radio Cymru, a Tro Ar Fyd (2009) fel artist unigol, a gyrhaeddodd rif 3 yn yr un rhestr.[6]

Mae Dan yn gitarydd/canwr-gyfansoddwr/aml-offerynnwr proffesiynol ac wedi cael llwyddiant gyda'i albwm stiwdio unigol cyntaf Tro Ar Fyd. Mae'n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio gan cynnwys: Wedi 3, Ar Gamera, Yr Ystafell Fyw, Trac, Gofod, Bro, Gŵyl Y Faenol, Pws, Wedi 7, Noson Lawen, Nodyn, Uned 5, Bandit, Heno. Gwnaeth hefyd ail-weithio anthem bêl-droed adnabyddus C.P.D. Wrecsam o'r 1980au, "I mewn i’r Gol!".

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Daniel Lloyd". Gwefan Theatr Na nÓg. Cyrchwyd 29 Awst 2022.
  2. "News – Latest news, pictures, video – North Wales Live". Dailypost.co.uk. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2020.
  3. "UNED5 - y Rhaglen - Wythnos Ddiwethaf". www.uned5.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 17 Ionawr 2022.
  4. "Cast & Crew | Theatr na nÓg". Theatr-nanog.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2020.
  5. "Event Details - Clwyd Theatr Cymru". www.clwyd-theatr-cymru.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 17 Ionawr 2022.
  6. "Oxjam hopes to raise cash with Wenglish". Wrexhammusic.co.uk. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2020.