Das Kapital
Traethawd estynedig yn yr Almaeneg ar economeg wleidyddol gan Karl Marx, wedi'i golygu yn rhannol gan ei gymrawd Friedrich Engels, yw Das Kapital ("Cyfalaf"). Mae'r llyfr, a ystyrir yn destun sylfaenol Marcsiaeth, yn cynnig dadansoddiad beirniadol o'r sustem cyfalafiaeth, yn enwedig yn ei goblygiadau economaidd ymarferol, a hefyd, i raddau, o ddamcaniaethau cysylltiedig eraill. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf (o dair) yn 1867.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Golygydd | Friedrich Engels |
Awdur | Karl Marx |
Gwlad | yr Almaen |
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1867 |
Dechrau/Sefydlu | 1844 |
Genre | traethawd |
Prif bwnc | Cyfalafiaeth, Economeg wleidyddol, social philosophy, damcaniaeth mewn economeg |
Yn cynnwys | Capital, Volume I, Capital, Volume II, Capital, Volume III |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gyrrir cyfalafiaeth, yn ôl Marx, trwy ymddieithrio llafur y dosbarth gweithiol ac elwa arno. Daw'r elw i ddwylo'r cyfalafwyr o'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad y cynnyrch a'r pris a geir amdano ar y farchnad, sef yr elw dros ben. Ond er bod llyfr Marx yn ymhel a chyflwr cymdeithasol y gweithwyr, nid yw'n draethawd moesegol ond yn hytrach mae'n ymgais i ddadansoddi ac esbonio deddfau mewnol y sustem, ei gwreiddiau hanesyddol a'i dyfodol. Ceisia Marx ddatgelu y ffordd mae cyfalaf yn cael ei grynhoi, twf gweithio am gyflog, trawnewidiad y gweithle mewn canlyniad i hynny, crynhoad cyfalal, cystadleuaeth, y sustem bancio a chredyd, tueddiad y cyfradd elw i ddisgyn, rhenti tir, a sawl peth arall.