Gwleidydd o Loegr o'r Blaid Geidwadol oedd Syr David Anthony Andrew Amess (26 Mawrth 195215 Hydref 2021) a fu'n Aelod Seneddol dros Orllewin Southend o etholiad Mai 1997 hyd at ei lofruddiaeth yn Hydref 2021. Cyn hynny, gwasanaethodd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Basildon o Fehefin 1983 i Ebrill 1997.

David Amess
Portread swyddogol Syr David Amess (2020)
Ganwyd26 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Plaistow Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 2021 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Leigh-on-Sea Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bournemouth
  • St Bonaventure's RC School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PlantKatie Amess Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.davidamess.co.uk/ Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Plaistow, Dwyrain Llundain, i deulu dosbarth-gweithiol, a chafodd ei fagu'n Gatholig Rhufeinig. Mynychodd Ysgol Plant Iau St Antony yn Forest Gate ac Ysgol Ramadeg St Bonaventure yn Newham. Derbyniodd radd mewn economeg a llywodraeth o Goleg Technoleg Bournemouth.[1]

Daeth i Dŷ'r Cyffredin yn y 1980au fel Thatcheriad rhonc. Ymgyrchodd dros les anifeiliaid, ac yn wahanol i nifer o'i gyd-Geidwadwyr fe wrthwynebodd hela llwynogod ac ysgyfarnogod. Cyflwynodd sawl gwelliant deddfwriaethol a mesur preifat, gan gynnwys y Ddeddf Amddiffyn yn erbyn Rhwymo Creulon (1988) a'r Ddeddf Cartrefi Cynnes a Chadwraeth Ynni (2000). Bu'n Ewropsgeptigwr ac yn gefnogwr brwd dros Brexit yn ystod refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Ar 15 Hydref 2021 cafodd Amess ei drywanu sawl gwaith tra'n cynnal cyfarfodydd â'r etholwyr mewn eglwys yn Leigh-on-Sea, ac yno bu farw. Arestiwyd dinesydd Prydeinig, o dras Somaliaidd, ar gyhuddiad o lofruddiaeth, a fe'i cedwir yn y ddalfa dan rymoedd y Ddeddf Terfysgaeth.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Sir David Amess, well-liked, hard-working and robustly Right-wing Conservative MP for Basildon and then Southend West – obituary", The Daily Telegraph (15 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Gareth Davies a Martin Evans, "Sir David Amess dies: Terror police leading probe into MP's fatal stabbing", The Daily Telegraph (15 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Hydref 2021.