Crawshay (teulu)
Bu sawl cenhedlaeth o deulu Crawshay, Cyfarthfa yn ddylanwadol yn hanes ardal Merthyr Tudful ers diwedd y 18fed ganrif. Y penteulu a ymsefydlodd yng Nghymru oedd Richard Crawshay (1739 – 1810). Daeth gyda’i deulu o Swydd Efrog i Gymru, ac roeddent o gefndir amaethyddol yn wreiddiol. I ddechrau, sefydlodd Crawshay fusnes gydag Anthony Bacon, perchennog Gwaith Haearn Plymouth ym Merthyr, cyn mynd ymlaen i sefydlu Gwaith Haearn Cyfarthfa fel gweithfeydd haearn byd enwog erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Bu Richard Crawshay yn bwysig yn y gwaith o sefydlu Camlas Sir Forgannwg rhwng Merthyr a Chaerdydd diwedd y 18g.[1]
Enghraifft o'r canlynol | teulu |
---|---|
Yn cynnwys | Richard Crawshay, William Crawshay II, William Crawshay I, Robert Thompson Crawshay |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Bu ŵyr Richard, William Crawshay II, yn rheoli Gwaith Haearn Cyfarthfa adeg Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful.[2]
Prif aelodau'r teulu oedd:
- Richard Crawshay (1739-1810); brodor o Swydd Efrog a ddaeth yn farsiandwr yn Llundain. Symudodd i Ferthyr, a chafodd brydles Cyfarthfa yn dilyn marwolaeth Anthony Bacon. Ef fu'n gyfrifol am ddatblygu'r gwaith haearn yn sylweddol.
- William Crawshay I (1764 – 1834), mab Richard Crawshay. Ni chymerai ef lawer o ddiddordeb yn y gweithfeydd haearn, a throsglwyddodd reolaeth ar waith Cyfarthfa i'w fab:
- William Crawshay II (1788-1867), a elwid wrth yr enw "Brenin yr Haearn". Roedd hefyd yn rheolwr gwaith haearn Hirwaun, a phrynodd weithfeydd haearn eraill yn Nhrefforest a Fforest y Ddena. Yn 1824, adeiladodd blasty, Castell Cyfarthfa, yr ochr draw i Afon Taf o waith haearn Cyfarthfa. Ymddeolodd i Caversham yn Lloegr yn 1847, a throsglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i'w fab:
- Robert Thompson Crawshay (1817-1879).
Roedd nifer o ddiwydianwyr pwysig eraill â chysylltiadau â'r teulu yma. Roedd Richard Crawshay yn ewythr i Crawshay Bailey a'i frawd Joseph Bailey, ac roedd ei ferch Charlotte yn briod â Benjamin Hall (1778-1817).
Meistri haearn
golyguDaeth Merthyr Tudful yn ganolfan hollbwysig i’r diwydiant haearn oherwydd presenoldeb y deunyddiau crai angenrheidiol yn yr ardal. Roedd ganddi’r haearn crai, cyflenwadau cyfleus o ddŵr, gweithlu gweithgar efo’r sgiliau
angenrheidiol ac oherwydd hynny denodd ddynion busnes oedd â’r arian i fuddsoddi yn y diwydiant newydd. Erbyn diwedd y 18g roedd pedwar o weithfeydd haearn mawr ym Merthyr:
- Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
- Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
- Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
- Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays
Cyfarthfa a dyfodd fwyaf, gan gynhyrchu canran fawr o haearn Prydain, ac yn wir haearn y byd. Daeth William Crawshay II yn un o’r dynion mwyaf cyfoethog a welwyd erioed ym Mhrydain – yn ôl gwerthoedd 2020 byddai ei gyfoeth wedi bod yn werth mwy na £5 biliwn. Roedd angen yr haearn ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol, ac wrth i’r diwydiant ehangu roedd galw cynyddol am lo, ac o ganlyniad felly cafodd llawer o gloddfeydd eu datblygu gan y meistr haearn.[3] Roedd yn ddyn busnes oedd â llygad am fenter, gan ychwanegu Gwaith Haearn Hirwaun a gwaith tunplat ger Pontypridd at ei deyrnas haearn. Yn wir, roedd William Crawshay yn cael ei alw'n Frenin Haearn Merthyr.[1]
O blith meistri haearn yr oes honno, y ddau mwyaf dylanwadol oedd William Crawshay, perchennog Cyfarthfa, a Josiah John Guest, perchennog Dowlais. Gwnaeth y ddau gyfraniad at fywyd ym Merthyr. Adeiladodd teulu Guest lyfrgell, capeli ac ysgolion i’w gweithwyr, ond er eu bod yn byw yng nghyffiniau Merthyr, roedd y cyfoeth a arddangoswyd ganddynt yn amlwg mewn gwrthgyferbyniad â’r gweithwyr. Yn 1825 comisiynodd ac adeiladodd Crawshay gastell iddo’i hun yn edrych dros waith Cyfarthfa. Costiodd bron £30,000, ac roedd y ffordd roedd Castell Cyfarthfa yn tra-arglwyddiaethu dros y dref yn adlewyrchiad arall o’u rheolaeth dros bron bob agwedd ar fywyd ym Merthyr.[3]
Roedd William Crawshay a John Guest wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch y Radicaliaid a oedd yn galw am ddiwygio’r Senedd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ond enynnodd William Crawshay llid y gweithwyr yn 1831 pan gyhoeddodd ei fod am dorri cyflogau gweithwyr haearn Cyfarthfa. Torrwyd cyflogau’r gweithwyr a gwaethygwyd y sefyllfa gan Crawshay pan ddiswyddodd 84 o bwdleriaid. Bu hyn yn ffactor pwysig a arweiniodd at Derfysg Merthyr ym Mehefin 1831.[3]
Pan fu farw William Crawshay II yn 1867 gadawodd wahanol rannau o’i ymerodraeth fusnes i’w blant. Bu ei ferch-yng-nghyfraith, Rose Mary Crawshay (1828-1907), a oedd yn briod â’i fab ieuengaf, Robert Thompson Crawshay, yn amlwg iawn gyda chyfleusterau addysg a mentrau er lles menywod.[1]
Daeth cysylltiad y teulu â Merthyr a’r gweithfeydd haearn i ben pan brynwyd y busnes gan gwmni Guest, Keen a Nettlefolds yn 1902.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 191–192. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
- ↑ 2.0 2.1 "CRAWSHAY family, of Cyfarthfa, Glamorganshire, industrialists | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.