David Griffiths (cenhadwr)

cenhadwr

Cenhadwr Cristnogol o Langadog, Sir Gaerfyrddin, a fu'n gweithio ar ynys Madagasgar oedd David Griffiths (20 Rhagfyr 179221 Mawrth 1863).[1] Cyfieithodd y Beibl a llyfrau eraill i'r iaith Falagaseg. Beibl Malagaseg 1835 oedd un o'r Beiblau cyntaf i'w hargraffu mewn iaith Affricanaidd.

David Griffiths
Ganwyd20 Rhagfyr 1792 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1863 Edit this on Wikidata
Machynlleth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, cyfieithydd y Beibl, cenhadwr Edit this on Wikidata
PlantEbenezer Griffiths Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd David Griffiths ar 20 Rhagfyr 1792 ym nhyddyn Cwmhirbryd a magwyd ef gerllaw yn Nglanmeilwch, Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Ef oedd mab William Griffith David a'i briod Elizabeth. Daeth yn aelod o Eglwys Annibynnol Jerusalem yng Ngwynfe yn 1810, a chyn hir dechreuodd bregethu. Roedd yn cynnal ysgol ei hun yng Nghwmaman yn 1811-12; aeth yn fyfyriwr yn Neuaddlwyd yn 1812, yna Wrecsam yn 1814, ac ymlaen i'r Coleg Cenhadol yn Gosport yn 1817-18.[2]

Madagasgar

golygu

Priododd Mary Griffiths yn Mai 1820. Ym mis Mehefin yr un flwyddyn anfonwyd ef i Fadagasgar gan Gymdeithas Genhadol Llundain, i ymuno a'r Parch. David Jones, a oedd wedi teithio ddwy flynedd ynghynt. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yng Ngwynfe ar 27 Gorffennaf a hwyliodd gyda'i briod o Lundain ar 25 Hydref a chyrraedd Maurisiws ar 23 Ionawr 1821,[3] ac ymlaen i Fadagasgar yn fuan wedyn. Roedd David Jones ac yntau yn pregethu ddwywaith bob dydd Sul ac yn sefydlu ysgolion dydd a nos, gyda Mary yn dysgu'r merched. Erbyn 1824, roedd 300 o fyfyrwyr yn mynychu'r ysgolion yn y brifddinas Antananarive ac roedd 32 o ysgolion mewn rhannau eraill o'r wlad, a byddai'n ymweld a phob un yn wythnosol. Oherwydd y model o hyfforddi hyfforddwyr, roedd nifer o'r disgyblion yn gallu cynorthwyo gyda'r dysgu erbyn 1825.[4] Lluniodd Griffiths a Jones wyddor llythrennau Rhufeinig ar gyfer y Falagaseg a cyrhaeddodd gwasg  yn 1827 i'w galluogi i argraffu catecism, llyfr emynau, a rhai gwerslyfrau mewn Malagaseg. Bryd hynny hefyd y dechreuwyd argraffu Efengyl Luc.

Yn 1828 bu farw'r brenin Radama I o Fadagascar, a fu'n gyfaill i'r cenhadon o Gymru, ac yntau ond yn 36 oed.[5] Bu cyfnod o ddryswch, gan darfu ar waith y genhadaeth. Er hynny, agorwyd ysgolion nos i'r disbarthiadau cymdeithasol isaf yn 1830, a parhau wnaeth y gwaith gyda llwyddiant. Cyhoeddwyd y Testament Newydd yn y Falagaseg yn 1831, ynghyd â rhan fawr o'r Hen Destament - y Beibl cyntaf i'w gyhoeddi mewn iaith Affricanaidd. Ond yn yr un flwyddyn, fe wynebodd y genhadaeth nifer o anawsterau newydd. Er fod Brenhines Madagasgar, Ranavalona I, yn gefnogol i'r gwaith, roedd nifer o'i chynghorwyr yn wrthwynebus iddo, a chafodd y cenhadon eu gorchymyn i adael yr ynys. Diddymwyd y gorchymyn hwn yn y pen draw, a pharhawyd y gwaith cenhadol rhwng 1832 a 1835. 

Yn 1835, fodd bynnag, penderfynodd y cenhadon adael o ganlyniad i erledigaeth wrth-Gristnogol ffyrnig. Traddododd Griffiths ei bregeth olaf yn y capel ar 22 Chwefror a gadawodd yr ynys ym Medi 1835, a chyrraedd ynysoedd Prydain yn Chwefror 1836. Ar ddiwedd y ddwy flynedd, debryniodd neges gan Ranavalona yn rhoi gwybod iddo y gallai ddychwelyd fel masnachwr ond ddim fel cenhadwr. Gwnaeth hynny ym mis Mai 1838. Parhau wnaeth yr erledigaeth trwy'r ynys, ac erlynwyd Griffiths dan gyhuddiad ei fod wedi cynorthwyo rhai o Gristnogion yr ynys i adael y wlad. Dedfrydwyd ef i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd wedi hynny i ddirwy. Cyhoeddwyd cyfrol Griffiths, Persecuted Christians of Madagascar, yn Llundain yn 1841.

Dychweliad i Gymru

golygu
 
David Griffiths, tua diwedd y 1850au

Dychwelodd i Gymru yn 1842 a mynd yn weinidog ar yr Eglwys Annibynnol yn y Gelli, Sir Frycheiniog, ac yno ysgrifennodd ei gyfrol Hanes Madagascar. Tra oedd yn y Gelli, sefydlodd eglwys Annibynnol newydd dros y ffin yn Kington, Swydd Henffordd. O gwmpas 1850, bu rhai gobeithion y byddai'r genhadaeth ym Madagasgar yn cael ei hadnewyddu, pan ofynnodd Cymdeithas Genhadol Llundain i Griffiths a Joseph John Freeman, yr unig genhadon a oedd dal yn fyw, i adolygu'r cyfieithiad Malagaseg o'r Beibl. Bu farw J. J. Freeman yn fuan wedyn, ac felly syrthiodd yr holl waith ar ysgwyddau David Griffiths. Treuliodd tua phum mlynedd ar yr adolygiad hwnnw ac, yn 1854, ysgrifennodd lyfr gramadeg i'r Falagaseg. Ysgrifennodd rai holwyddoregau, llyfr emynau, a thua naw neu ddeg o draethodau gwreiddiol. Adolygodd nifer o weithiau a oedd eisoes wedi'u cyfieithu, yn cynnwys 'Taith y Pererin', y 'Beibl Cyflawn' a geiriaduron. Symudodd i Fachynlleth yn 1858, ac yno bu'n paratoi llyfr gramadeg a gweithiau eraill mewn Malagaseg yn barod i'w cyhoeddi.  Saesneg: History of Madagascar

Marwolaeth

golygu

Bu farw 21 Mawrth 1863 ym Machynlleth, ac yno y claddwyd ef. Symudwyd carreg fedd David a Mary, ei briod, o Fachynlleth i Neuaddlwyd yng Ngheredigion yn 1818, ac fe'i dadorchuddiwyd fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant glaniad y cenhadon cyntaf o Gymru ym Madagasgar. 

Bu farw Mary Griffiths yn Abertawe ar 15 Gorffennaf 1883, yn 93 oed. Cafodd David a hithau wyth o blant. Priododd un o'u merched, Margaret Jane (1830-73), y cenhadwr a chyfieithydd Griffith John 1831-1912. Bu'r ddau gweithio gyda'i gilydd yn Hankow (Wuhan) yn Tsieina hyd at ei marwolaeth yn Singapôr ar 24 Mawrth 1873 wrth i'r ddau ddychwelyd i Tsieina ar ol dychwelyd adref i adfer eu hiechyd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anderson, Gerald (1999). Biographical Dictionary of Christian Missions. Grand Rapids, Michigan: William B. Eerdmans Publishing Company. t. 263. ISBN 0-8028-4680-7. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2012.
  2. Tywysydd y Plant Cyf. XXV rhif. 4 - Ebrill 1895 tudalen 108. "Y PARCH. D GRIFFITHS
  3. Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. I rhif. 1 - Ionawr 1822 tudalen 28. "Mauritius"
  4. Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. IV rhif. 8 - Awst 1825 tudalen 252. "Madagasgar"
  5. Lleuad yr oes sef, amgeueddfa fisol o wybodaeth mewn crefydd, moes, athroniaeth, a hanes Cyf. III Rhif. 5 - Mai 1829. Tudalen 317 "Claddedigaeth Brenin Madagasgar"