David Melding

gwleidydd (1962- )

Gwleidydd Cymreig, ac aelod o'r Blaid Geidwadol yw David Melding (ganed 28 Awst 1962). Bu'n cynrychioli Rhanbarth Canol De Cymru yn Senedd Cymru rhwng 1999 a 2021.

David Melding
CBE
Llun swyddogol o David Melding wedi ei gymryd yn y Senedd yn 2016. Mae'n gwisgo siwt, tei a sbectol.
David Melding, Gorffennaf 2016
Dirprwy Lywydd y Cynulliad
Mewn swydd
11 Mai 2011 – 11 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganRosemary Butler
Dilynwyd ganAnn Jones
Gweinidog Cysgodol dros Ddatblygiad Economaidd
Mewn swydd
11 Gorffennaf 2007 – 16 Mehefin 2008
ArweinyddAndrew R. T. Davies
Rhagflaenwyd ganAlun Ffred Jones
Dilynwyd ganRussell George (swydd newydd)
Aelod o Senedd Cymru
dros Ranbarth Canol De Cymru
Mewn swydd
6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Ysgrifennydd Cysgodol dros Dai, Treftadaeth, Diwylliant a'r Cyfryngau
Mewn swydd
18 Medi 2018 – 17 Gorffennaf 2020
ArweinyddPaul Davies
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Cwnsler Cyffredinol Cysgodol a'r Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant a Chyfathrebu
Mewn swydd
17 Gorffennaf 2020 – 9 Medi 2020
ArweinyddPaul Davies
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Manylion personol
Ganwyd (1962-08-28) 28 Awst 1962 (61 oed)
Castell-nedd
Plaid wleidyddolY Blaid Geidwadol
Alma materPrifysgol Caerdydd
GwaithGwleidydd
Gwefandavidmelding.wales

Yn 2012 sefydlodd y felin drafod Gorwel.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Melding yng Nghastell-nedd, a mynychodd Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd (BSc Econ mewn Gwleidyddiaeth), a Coleg William and Mary, Virginia, UDA (MA mewn Llywodraeth).[1]

Gyrfa Gwleidyddol golygu

Etholwyd Melding i Senedd Cymru yn Rhanbarth Canol De Cymru ym 1999, swydd y mae'n parhau i'w dal.

Mae wedi gwasanaethu ers amser maith fel Cyfarwyddwr Polisi Ceidwadwyr Cymru, gan ysgrifennu maniffestos ar gyfer etholiadau Cynulliad 2003, 2007 a 2011.[2]

Gwasanaethodd fel Dirprwy Lywydd y Senedd rhwng 2011 a 2016.

Dyfarnwyd CBE iddo yn 2017 am ei "wasanaethau i fywyd gwleidyddol a chyhoeddus" yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.[2]

Ym mis Medi 2019 siaradodd Melding yn erbyn safbwynt ei blaid ar Brexit dim bargen, gan nodi nad oedd “eisiau unrhyw ran mewn strategaeth Brexit dim bargen a fyddai’n brifo’r rhai mwyaf agored i niwed."[3]

Fe roddodd y gorau i’w rôl yn y fainc flaen gysgodol ym mis Medi 2020 ar ôl anghytuno gyda’r blaid ynghylch newidiadau i gytundebau Brexit a Mesur y Farchnad Mewnol y DU a gyflwynwyd yn Senedd y DU ar yr un diwrnod. Gwnaeth ei benderfyniad i adael y fainc flaen yn barhaol ar ôl "cam-drafod am beth amser" dros agwedd y blaid tuag at Brexit, gan nodi y bydd yn arwain at dorri'r undeb.[4]

Penderfynodd beidio sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Senedd Cymru, 2021.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canol De Cymru
19992021
Olynydd:
Joel James
Rhagflaenydd:
Rosemary Butler
Dirprwy Lywydd y Cynulliad
20112016
Olynydd:
Ann Jones

Cyfeiriadau golygu

  1. "BBC News AMs profile". BBC. 12 Mai 1998. Cyrchwyd 1 September 1999. Check date values in: |access-date= (help)
  2. 2.0 2.1 "Sam Warburton in New Year Honours". BBC News (yn Saesneg). 2017-12-30. Cyrchwyd 2020-09-15.
  3. "PM has lost all respect for the truth - Drakeford". BBC News (yn Saesneg). 2019-09-05. Cyrchwyd 2020-09-15.
  4. "David Melding yn ymddiswyddo fel Cwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr". Golwg360. 2020-09-09. Cyrchwyd 2020-09-15.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.