David Richards (Dafydd Ionawr)
Bardd Cymreig oedd David Richards, enw barddol Dafydd Ionawr (22 Ionawr 1751 – 12 Mai 1827), a aned ger Tywyn, yn yr hen Sir Feirionydd (de Gwynedd), Cymru.
David Richards | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Dafydd Ionawr ![]() |
Ganwyd | 22 Ionawr 1751 ![]() Tywyn ![]() |
Bu farw | 12 Mai 1827 ![]() |
Man preswyl | Gwynedd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, athro ![]() |
Bywyd golygu
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Edward Richard yn Ystradmeurig, Ceredigion. Astudiodd yn Rhydychen am beth amser, ar annogaeth Ieuan Brydydd Hir. Bu'n cadw ysgol mewn sawl man cyn ymsefydlu yn Nolgellau.
Gwaith llenyddol golygu
Roedd yn fardd o duedd cwbl wahanol i feirdd serch y 18g fel Rhys Jones o'r Blaenau. Yn ogystal nid oedd yn eisteddfodwr. Roedd yn ddyn o anian dawel, dwys a difrifol, a gwrthwynebai'n gryf rhai o syniadau radicalaidd Cymry Llundain, yn arbennig y Gwyneddigion. Roedd yn gynghaneddwr da. Canai bron yn gyfangwbl ar bynciau ysgrythurol. Ei brif waith yw "Cywydd y Drindod" (1793), cerdd hir iawn ar natur y Drindod; ond er fod rhannau o'r gerdd yn cynnwys delweddau diddorol mae ei ffaeleddau'n amlwg. Serch hynny roedd yn gerdd arloesol yn y Gymraeg.
Llyfryddiaeth golygu
Cyhoeddodd y gweithiau a ganlyn yn ystod ei oes:
- Y Mil-Blynyddau (1799)
- Gwaith Prydyddawl (1803)
- Joseph, Llywodraethwr yr Aipht (1809)
- Barddoniaeth Gristianogawl (1815)
- Cywydd y Dilyw (1821)
Golygodd Nicander gasgliad o waith y bardd yn 1851.
Cyfeiriadau golygu
* David Richards (Dafydd Ionawr) yn Y Bywgraffiadur Cymreig