Tywyn, Conwy

tref yn Conwy

Tref glan môr yng nghymuned Tywyn a Bae Cinmel ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Tywyn[1][2] (hefyd Towyn).

Tywyn
Mathcyrchfan lan môr, tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBae Cinmel a Thywyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.302°N 3.54°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW05001429 Edit this on Wikidata
Cod OSSH974794 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae'n sefyll ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru rhwng Abergele a Pensarn i'r gorllewin a Bae Cinmel a'r Rhyl i'r dwyrain. Rhed yr A549 trwy'r pentref ac mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd trwyddo i'r gogledd ond does dim gorsaf yno.

Datblygodd Tywyn fel canolfan gwyliau glan môr wrth i boblogrwydd Y Rhyl a'r cyffiniau gynyddu fel cyrchfan twristaidd. Ceir sawl maes carafanau rhwng y pentref a'r traeth, sy'n dywodlyd a braf. Mae nifer o dai a byngalos ar dir gwastad y pentref sydd islaw lefel y môr ar lanw uchel. Gorlifiodd y môr dros y morglawdd rhai blynyddoedd yn ôl gan effeithio ar gannoedd o dai.

Tywyn

Hynafiaethau golygu

I'r de o Dywyn ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Bywyd Gwyllt golygu

Mae llawer wedi ei golli o'r ardal, fel ymhobman, dros yr 20g. Soniodd y dyddiadurwr John (neu Lorrimer) Thomas o Tywyn, unwaith iddo wylio pâr o frych y coed yn codi nyth ac iddo aros nes iddynt ddodwy un wy, wedyn un arall...nes cyrraedd y pump arferol, cyn iddo ddwyn y cwbl ar gyfer ei gasgliad heb feddwl ddwywaith. Yn 1928 ymfalchiodd fod y number of eggs in my collection is 2208 (roedd arferion felly fawr o gymorth mae'n siwr). Yn Foryd Road, Tywyn, cofnododd fras yr yd, gwybedog mannog, a pibyddion y dorlan. Nid oes bras yr ŷd yn unman yng Nghymru bellach, a go brin y bu’r ddau arall ar gyfyl Foryd Road, Tywyn ers degawdau. Dipyn o sgôr i lecyn sydd erbyn hyn wedi colli llawer iawn o'i swyn ar sawl cyfrif[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. gweler yr hen lun o Foryd Road, Tywyn, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 24
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.