Defnyddiwr:Deri Tomos/pwll tywod
Dr. R Elwyn Hughes
Biocemegydd yn arbenigo mewn fitamin C oedd y Dr R Elwyn Hughes (m. 30 Tachwedd 2015[1]). Magwyd yn Rheadr Gwy, Sir Faesyfed, bu farw ym Mhentyrch, Caerdydd, lle ymgartrefodd. Rhoddodd gwasanaeth hir i faterion gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg[2]. Roedd hefyd yn gymwynaswr i'r Gymraeg yn gyffredinol yn ei ardal a thu hwnt.
Bywgraffiad
golyguGraddiodd Elwyn Hughes o Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt, lle bu'n ysgolor yn y Gwyddorau Naturiol[3]. Bu'n ymchwilydd yn Labordy Ymbortheg Dunn, Caergrawnt. Erbyn 1962[4] roedd yng Ngholeg Technoleg Uwch Cymru (WCAT; a ddaeth, yn 1967 yn rhan o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIST)), lle bu'n Ddarllenydd mewn Biocemeg Maeth tan ei ymddeoliad yn 1989. Cyhoeddodd yn gyson ym maes fitamin C[5] ac, yn ddiweddarach, ar ffibr mewn bwydydd[6]. Cafodd ei ethol yn FIBiol. Am gyfnod bu Elwyn Hughes yn Gyfarwyddwr y Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg am Fwydydd (Llundain) ac yn ymgynghorydd i'r diwydiant bwyd. Fe draddododd Darlith Rhondda-Barnett yng Ngholeg Brenhinol y Ffisegwyr yn 1976[3].
Cyfraniad hanesyddol oedd iddo gyfarwyddo'r thesis PhD gwyddonol trwy'r Gymraeg gyntaf. Y myfyriwr llwyddiannus oedd Rhiannon Williams, sy'n bellach enwog fel gofaint aur[7].
Gyda rhai megis Glyn O. Phillips, Llew Chambers ac Iolo Wyn Williams, bu Elwyn Hughes yn un o brif ddylanwadau'r dadeni'r 1960au mewn Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Cyflwynwyd iddo Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Eryri (2005). Wrth ei gyflwyno ar ran y panel dewis, dywedodd John S Davies[3] mai ar sail "arloesedd mewn llyfryddiaeth ac erthyglau yn ymwneud a Bywydeg a Maetheg yn y Gymraeg" a "cyflwyno'r meysydd hyn yn awdurdodol ar y cyfryngau ac i'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol" yr oedd y gydnabyddiaeth hon. Bu'n is-olygydd a chyfrannwr cyson i'r Gwyddonydd(ymunodd a'i bwrdd golygyddol ar gyfer rhifyn Medi 1965), ac yna i Delta, am ddeng mlynedd ar hugain. A John S Davies ymlaen i bwysleisio mai nad bychan oedd ei gyfraniad, oherwydd yma roedd "meithrinfa geirfa safonol i'r meysydd biolegol". Bu Elwyn Hughes yn Gadeirydd Pwyllgor Termau Technegol Bwrdd y Gwybodau Celtaidd. Erys, hefyd, atgofion ei gyfraniadau pwyllog ar derminoleg i gynadleddau blynyddol y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.
Yr ei erthygl deyrnged i Elwyn Hughes yn Y Gwyddonydd (1989) cyfeiria Iolo Wyn Williams at "ugain a mwy o erthyglau safonol [i'r Gwyddonydd], dwsinau o adolygiadau a llawer o'r rheiny yn erthyglau ynddynt eu hunain, nodiadau rheolaidd o'r Athrofa [UWIC] a nifer o bos croeseiriau, heb sôn am waith golygu, addasu, cyfieithu di-ben-draw a dienw. Cyfrannodd yn rheolaidd i gynadleddau'r Gymdeithas Wyddonol gan lunio iddi adroddiad pwysig ar Swyddi Gwyddonol yng Nghymru[2]".
Cyn ymddeol, dechreuodd Elwyn Hughes ymddiddori a chyhoeddi ym maes hanes gwyddoniaeth[8] a hanes gwyddoniaeth cefn gwlad[9]. Ar ôl ymddeol ymroddodd yn llwyr i faterion hyn gan ddarlithio, darlledu ac ysgrifennu'n helaeth arnynt. Wrth baratoi ei gyfrol ar Darwin[10] (1981) yng nghyfres Y Meddwl Modern, daeth ar draws hanes y naturiaethwr Alfred Russel Wallace, a anwyd ym Mrynbuga yn 1823. O'r herwydd, treuliodd amser maith yn ymchwilio i'w fywyd. Ffrwyth hyn oedd cyfrol gynhwysfawr, Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1997. Mae ymdriniaeth Elwyn Hughes a chysylltiadau Wallace a Chymru yn y gyfrol hon yn arbennig o werthfawr. Fe'i hysgogwyd yn rhannol gan mai yn ardal magwraeth Elwyn Hughes y bu Wallace am gyfnod dylanwadol iawn ar ddechrau ei yrfa. Bu gryn alw ar Elwyn Hughes i son am Wallace ar y cyfryngau dros y blynyddoedd (ee Darwin, Y Cymro a'r Cynllwyn[11]). Ond 'roedd ymchwil Elwyn Hughes yn ymestyn ymhell tu hwnt i'r un gwyddonydd yma, a hir bu ei ymweliadau a'r Llyfrgell Brydeinig a llyfrgelloedd eraill. Amlygwyd ei gariad at y Gymraeg (mewn Gwyddoniaeth) yn y gyfrol Nid am un Harddwch Iaith (1991) am ryddiaith Gwyddoniaeth yn y 19eg. Yn 2003 cyhoedded Dysgl Bren, Dysgl Arian. Nodiadau ar Hanes Bwydydd yng Nghymru. Yn hwn ceir ymdriniaeth o'r pwnc sydd nid yn unig o ddiddordeb cyffredinol ond yn ffynhonnell gwybodaeth ymchwil i hanes a bioleg ymbortheg. Bu'n cyfrannwr cyson at weithgareddau Cymdeithas Bob Owen, a'i gyfnodolyn Y Casglwr, a hefyd i'r Faner Newydd (lle mae teyrngedau iddo gan Emyr Llywelyn a Glyn O. Phillips[12]).
Yn 1983 anrhydeddwyd Elwyn Hughes ag Urdd Derwydd yn Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad at Wyddoniaeth a'r Iaith Gymraeg.
Anfynych y gwelwyd cyfeiriad at yr "R" yn enw Elwyn Hughes, ac yn fwy aml fel "R.E.H." mae son amdano ar glawr. Ond bu'r "R" (am Richard) yn bwysig i'w ymwahanu o sawl Elwyn Hughes arall yn ei oes.
Roedd yn briod a Ceri a bu iddynt ferch Nia a mab Rhodri[1].
Llyfryddiaeth
golyguDarwin (1981) Gwasg Gee ISBN 9780000671424
Nid am un Harddwch Iaith - Rhyddiaith Gwyddoniaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1991) Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9780708310434
Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol (1997) Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9780708313978
Dysgl Bren, Dysgl Arian. Nodiadau ar Hanes Bwydydd yng Nghymru (2003) Dinas, Tal y Bont ISBN: 9780862436605
Y Casglwr (detholiad)
golyguLewis Weston Dillwyn a'r Gymraeg, Y Casglwr 61 (1997), 20
Cymraeg Y Sais ~ Dyfaliad R.Elwyn Hughes (2008)[13]
John Jones, Syr John, a'r Lleuad (2008)[14]
Y Gwyddonydd ac eraill (detholiad)
golyguCanrif o Wyddoniaeth. Trafodion y Gymdeithas Wyddonol, Rhif 8 (1985)
Alwminiwm mewn bwydydd. Y Gwyddonydd - Cyf. 27, Rhif 1 Haf 1989 [15]
Golwg newydd ar ffibr lluniaethol. Y Gwyddonydd - Cyf. 27, Rhif 1 Haf 1989[16]
.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 http://www.bmdsonline.co.uk/south-wales-echo/obituary/hughes-elwyn/44388227?s_source=tmwa_dic_cec
- ↑ 2.0 2.1 Portreadau o wyddonwyr o Gymru : R. Elwyn Hughes. Y Gwyddonydd 27, (1 Haf 1989) 23. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1408245/llgc-id:1408315/get650
- ↑ 3.0 3.1 3.2 http://www.tafelai.com/blw2005/tafod200.pdf
- ↑ (Saesneg) Evans, J. R.; Hughes, R. E. (1963) The growth-maintaining activity of ascorbic acid. British Journal of Nutrition 17, (1) 251-255 http://journals.cambridge.org/download.php?file=%2FBJN%2FBJN17_01%2FS0007114563000283a.pdf&code=84d2c517a335c574a8274c4fdfabca59
- ↑ (Saesneg) Hughes, R.E. (1983) 50 years ago - from ignose to hexuronic acid to vitamin-C. Trends in biochemical sciences 8, (4) 146-147 http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/0968000483902414
- ↑ (Saesneg) Hughes, R.E. (1986) A new look at dietary fiber. Human nutrition - Clinical nutrition 40C, (1) 81-86
- ↑ http://www.rhiannon.co.uk/?___store=cy&___from_store=en
- ↑ (Saesneg) Hughes, R.E. (1989) Alfred Russel Wallace; some notes on the Welsh connection. British Journal for the History of Science. 22, (4) 401-418 http://www.jstor.org/stable/4026917?seq=1#page_scan_tab_contents
- ↑ (Saesneg) Hughes, R.E. (1990) The rise and fall of the antiscorbutics - some notes on the traditional cures for land scurvy Medical history 34, (1) 52-64
- ↑ https://llyfrgell.porth.ac.uk/media/y-meddwl-modern-darwin-r-elwyn-hughes
- ↑ http://www.telesgop.co.uk/cy/tv-production/darwin-the-welshman-and-the-conspiracy/
- ↑ Y Faner Newydd, Gwanwyn (2016)
- ↑ http://www.casglwr.org/yrarchif/3cymraegysais.php
- ↑ http://www.casglwr.org/yrarchif/28john.php
- ↑ http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1408245/llgc-id:1408382/get650
- ↑ http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1408245/llgc-id:1408297/get650