Defnyddiwr:Huw P/Christoph Schlingensief

Huw P/Christoph Schlingensief
Schlingensief in October 2009
Ganwyd(1960-10-24)24 Hydref 1960
Oberhausen, West Germany
Bu farw21 Awst 2010(2010-08-21) (49 oed)
Berlin, Germany

Cyfarwyddwr theatr, artist perfformio a gwneuthurwr ffilmiau o'r Almaen oedd Christoph Maria Schlingensief ( 24 Hydref 1960 - 21 Awst 2010 ) [1] [2] .

Roedd Schlingensief yn arlunydd bryfoclyd meddylgar gan greu nifer o ddarnau theatr a ffilmiau dadleuol.

Gan ddechrau fel gwneuthurwr ffilmiau tanddaearol annibynnol, llwyfannodd Schlingensief gynyrchiadau ar gyfer theatrau a gwyliau yn ddiweddarach, yn aml gyda dadleuon cyhoeddus.

Yn y blynyddoedd olaf cyn ei farwolaeth, llwyfannodd Parsifal Wagner yng Ngŵyl Bayreuth a gweithiodd mewn sawl tŷ opera.

Mae gwaith Schlingensief wedi’u cymharu gyda nifer eang o wneuthurwyr ffilm, o Jean-Luc Godard, Derek Jarman a Luis Buñuel i Russ Meyer. Ymhlith ei ddylanwadau roedd Joseph Beuys a'i syniad o gerflunio cymdeithasol, a'r artistiaid Allan Kaprow a Dieter Roth .

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Schlingensief yn 1960 yn Oberhausen. Roedd ei dad yn fferyllydd a'i fam yn nyrs . Yn blentyn, cymrodd rhan mewn gwasanaethau eglwys fel bachgen allor ac eisoes yn gwneud ffilmiau byr gyda chamera llaw a threfnu digwyddiadau celf yn seler tŷ ei rieni.

Methodd ddwywaith â chael mynediad i Brifysgol Teledu a Ffilm Munich. O 1981 ymlaen dechreaodd astudio iaith a llenyddiaeth Almaeneg, athroniaeth a hanes celf ym Mhrifysgol Munich, cyn rhoi'r gorau iddi ym 1983 i weithio fel cynorthwyydd i'r gwneuthurwr ffilmiau arbrofol Werner Nekes . [3] Ar ôl gweithio fel athro yng ngholegau celf yn Offenbach am Main a Düsseldorf, daeth yn rheolwr cynhyrchu ar gyfres deledu pbobolgaidd. [4]

Ffilm a theledu

golygu
 
Schlingensief yn nerbyniad Berlinale 2009, gyda'i bartner Aino Laberenz (dde), Alice Waters a Gaston Kaboré

Cafodd ffilm gyntaf Schlingensief, y swreal, abswrd arbrofol Tunguska – Die Kisten sind da! (1984) dderbyniad da gan feirniaid.

Dylanwadwyd yn ddwfn ar Schlingensief gan ffilmau Almaeneg y 60au a 70au fel Rainer Werner Fassbinder. Daeth llawer o aelodau o’i gwmni stoc o actorion fel Udo Kier, Margit Carstensen, Irm Hermann neu Volker Spengler yn selogion yn ffilmiau Schlingensief.

Cydweithoidd gyda'r awdur, athronydd, academydd a chyfarwyddwr ffilm Alexander Kluge.

Daeth Schlingensief i'r amlwg gyda’i “Drioleg yr Almaen” sy'n delio gyda thri throbwynt yn hanes yr Almaen yn yr 20fed ganrif: mae'r ffilm gyntaf Hundert Jahre Adolf Hitler ("Can Mlynedd o Adolf Hitler", 1989) am oriau olaf Adolf Hitler, yr ail The German Chainsaw Massacre (1990), am grŵp o ddwyrain yr Almaen sy’n croesi’r ffin i ymweld â Gorllewin yr Almaen ac yn cael eu lladd gan deulu seicopathig o Orllewin yr Almaen gyda llifiau cadwyn, ac mae trydydd Terror 2000 (1992) yn canolbwyntio ar drais senoffobig ar ôl ailuno'r wlad.

Un o weithiau mwyaf profoclyd oedd y gyfres teledu Please Love Austria (teitau eraill: Foreigners out! Schlingensiefs Container ). Darlledwyd o contianer lori ar sgwâr yn nghanol dinas Fienna yn fuan ar ôl i llwyddiant Jörg Haider a'i blaid asgell-dde a oedd wedi yn etholiad Awstria gan sefyll ar blatffom o bolisiau yn erbyn tramorwyr a mewnfudwyr. Gan gopi steil y gyfres hynod o boblogiadd Big Brother, roedd y gwylwyr yn gallu gweld bywydau dwsin neu fwy o geiswyr lloches go iawn tu mewn y contianer a pleidleisio ar ba un oedd i'w daflu o'r wlad.

Yn fuan daeth Schlingensief yn ffigwr o gryn enwogrwydd a drwg-enwog yn yr Almaen, diolch i nifer o brosiectau teledu poblogaidd. Wedi'i darlledu yn 1997, roedd Talk 2000 yn sioe siarad gyda gwesteion enwog gyda Schlingensief weithiau'n torri ar draws cyfweliadau i drafod ei broblemau personol ei hun. [5]

Yn U3000 (2000) ffilmwyd cyfweliadau ‘sioe siarad’ anhrefnus mewn trên U-Bahn Berlin.

Yn Freakstars 3000 (2003), parodi chwe rhan ar ffurf American Idol, gyda dau ddwsin o bobl o gartref byw â chymorth i bobl ag anabledd meddwl yn cystadlu. [5]

Ym 1997, cynhaliodd Schlingesief weithred gelf yn arddangosfa documenta X yn Kassel.Yn ystod y perfformiad, arestiwyd Schlingensief am gario placard gyda'r geiriau "Lladd Helmut Kohl !" .

Yn 2006 gwrthodwyd ei arddangosfa The Last Hour, gyda'i waith metel troellog o ddamwaih gar, lluniau o dwnnel hir a lluniau paparazzi o'r Dywysoges Diana, gan Ffair Gelf Frieze yn Regent's Park yn Llundain ac roedd rhiad arddangos mewn oriel anhysbys yn Bethnal Green . [6] Yn ddiweddarach ymunodd ag oriel Hauser & Wirth . Yn 2007, cynhaliodd arddangosfa o waith Schlingensief ym Munich; cyflwynodd African Twin Towers a ffilmiau byrion sydd wedi’u saethu tra yn cyfarwyddo The Flying Dutchman yn y Teatro Amazonas ym Manaus, Brasil. [7]

Theatr

golygu
 
Schlingensief yn siarad ym mherfformiad Deutschlandsuche 99 o flaen y Volksbühne, 1999

Yn y 1990au, cyfarwyddodd Schlingensief gyfres o gynyrchiadau anhrefnus, dychanol yn theatr Volksbühne yn Berlin.

Cyfarwyddodd hefyd fersiwn o Hamlet, gydag is-deitl, This is your Family, Nazi~Line, gyda chyn-aelodau o grwpiau Neo Natsïaidd ac yna eu castio fel actorion i chwarae cymeriadau yn y ddrama ar y llwyfan fel ffordd o ailintegreiddio'r cyn-aelodau. Neo-Natsïaid gyda gweithlu cyffredin y theatr.

Yn Passion Impossible, Wake Up Call for Germany 1997 neu Chance 2000, Pleidleisiwch drosoch eich Hun ffurfiodd Schlingensief y Blaid Cyfle Olaf lle gallai unrhyw un ddod yn ymgeisydd ei hun yn y cyfnod cyn etholiad ffederal 1998 yn yr Almaen . [5]

Yr un flwyddyn gwnaeth brosiect perfformio ar gyfer Gŵyl Awstria o'r enw Chance 2000 for Graz : adeiladwyd wyth piler yn sgwâr canolog Marienplatz, lle gwahoddwyd pobl ddigartref i eistedd arnynt, a'r cytundeb oedd bod yr un a eistedd yno hiraf allai ennill 7,000 swllt, a phob dydd yr artist taflu 20,000 swllt ar bobl oedd yn mynd heibio. [8] Amharwyd ar y prosiect gyda chymorth plaid asgell dde Awstria, a gasglodd 10,000 o lofnodion yn ei erbyn.

Pentref Opera Affrica

golygu

Yn 2004, llwyfannodd Parsifal Wagner ar gyfer Gŵyl Bayreuth. [9] Roedd clipiau ffilm a gwisgoedd yn canolbwyntio'r weithred ar y gwrthdaro rhwng Cristnogaeth ac Islam.

Un o brioseictau olaf ei fywyd oedd i ciesio adeiladu tŷ opera yn Burkina Faso. [10]

Roedd y prosiect, a dderbyniodd arian gan lywodraeth yr Almaen, [11] hefyd i gynnwys ysgol theatr a ffilm, ac ysbyty. [3] Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2010, ger Ouagadougou, Bu farw Schlingensief o ganser un fuan wedyn ac fe'i parhawyd yn ddiweddarach o dan arweiniad gwraig Schlingensief a chynorthwyydd hir-amser Aino Laberenz. [4] Yn 2012.

Marwolaeth

golygu

Ar ôl dysgu bod ganddo ganser yr ysgyfaint yn gynnar yn 2008, [11] ysgrifennodd Schlingensief am ei salwch ac yn 2009 cyhoeddodd Heaven Could Not Be as Beautiful as Here: A Cancer Diary . [3] Bu farw ar Awst 21, 2010 yn Berlin, yr Almaen yn 49 oed [12]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Christoph Schlingensief ist tot". Süddeutsche Zeitung. 21 August 2010. Cyrchwyd 2010-08-24.
  2. Zachary Woolfe (2014-07-27). "Operatic Heart of a Chaotic Career: The German Gadfly Christoph Schlingensief at MoMA PS1". The New York Times. Cyrchwyd 2014-07-28.
  3. 3.0 3.1 3.2 William Grimes (August 25, 2010), Christoph Schlingensief, Artistic Provocateur, Dies at 49 The New York Times.
  4. 4.0 4.1 Hugh Rorrison (2010-08-24). "Christoph Schlingensief obituary". The Guardian. Cyrchwyd 2012-05-06.
  5. 5.0 5.1 5.2 Ken Johnson (May 1, 2014), Former Auteur in Love With Outrage The New York Times.
  6. Christoph Schlingensief obituary The Daily Telegraph, October 31, 2010.
  7. Christoph Schlingensief, "18 Images a Second", May 25 – September 16, 2007 Haus der Kunst, Munich.
  8. Christoph Schlingensief Chance 2000 für Graz OFFSITE GRAZ.
  9. John Rochwell (June 22, 2003), The Weird Twilight of a Wagner The New York Times.
  10. Till Briegleb (2012-06-07). "Halleluja der Ambivalenz". Süddeutsche Zeitung. Cyrchwyd 2014-12-26.
  11. 11.0 11.1 Shirley Apthorp (August 23, 2010), Schlingensief, Who Put Putrid Bunny on Bayreuth Stage, Is Dead Bloomberg.
  12. Apthorp, Shirley (22 August 2010). "Schlingensief, Who Put Putrid Bunny on Bayreuth Stage, Is Dead". Bloomberg. Cyrchwyd 2010-08-24.