Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Ferdinand Magellan

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Ferdinand Magellan



Fforiwr o Bortiwgal oedd Fernão de Magalhães (Sbaeneg: Fernando de Magallanes, Saesneg: Ferdinand Magellan) (Gwanwyn 148027 Ebrill 1521).

Ef drefnodd y fordaith Sbaenaidd i India’r Dwyrain rhwng 1519 a 1522 a arweiniodd at gwblhau’r fordaith gyntaf o gwmpas y byd yn llwyddiannus. Bu farw yn y Philipinas cyn cwblhau'r daith, a chwblhawyd y gylchdaith gan Juan Sebastian Elcano. Arweiniodd Magellan sawl mordaith i India ac Affrica ar ran Portiwgal rhwng 1505 a 1516. Yn y flwyddyn 1519, dan nawdd Sbaen y tro yma, cychwynnodd gyda llynges fach o bum llong - ei fanerlong Trinidad, y San Antonio, Concepcio, Victoria a'r Santiago - i geisio darganfod llwybr i ynysoedd y Molucca.

Croesodd y Cefnfor Tawel draw i Batagonia ac aeth drwy'r culfor a enwyd ar ei ôl, sef Culfor Magellan. Yng ngwanwyn 1521 cyrhaeddodd yr Indies ond cafodd Magellan ei ladd yn y Philipinau yn ystod Brwydr Mactan. Cyrhaeddodd y fordaith Ynysoedd y Sbeisys yn 1521 gan ddychwelyd i Sbaen drwy Gefnfor India.[1]

Y Victoria oedd yr unig un o'r 5 llong i ddychwelyd i Sbaen, gan gwblhau (dan gapteiniaeth Juan Sebastián del Cano o Wlad y Basg) y fordaith gyntaf yr holl ffordd o gwmpas y byd.[2]

Bywyd cynnar a theuluGolygu

Ganwyd Magellan mewn tref ym Mhortiwgal o’r enw Sabrosa tua'r flwyddyn 1480. Roedd ei dad, Rui de Magalhães, yn aelod o deulu aristocrataidd ym Mhortiwgal ac yn faer y dref. Enw ei fam oedd Alda de Mesquita.[1] Roedd ganddo frawd o’r enw Diego de Sosa a chwaer o’r enw Isabel Magellan. Magwyd ef fel macwy i’r Frenhines Eleanor, sef gwraig y Brenin John II. Yn 1495, dechreuodd ar ei wasanaeth gydag olynydd John, sef y Brenin Manuel I.[3]

Ym mis Mawrth 1505, pan oedd yn 25 mlwydd oed, ymunodd â fflyd o 22 o longau a anfonwyd i groesawu a diddanu Francisco de Almeida, rhaglaw cyntaf yr India Portiwgeaidd. Mae’n debyg iddo aros yno am tua wyth mlynedd yn Goa, Cochin a Quilon. Bu’n ymladd mewn sawl brwydr tra bu yno, gan gynnwys ym Mrwydr Cannanore yn 1506 lle cafodd ei anafu. Ymladdodd hefyd ym Mrwydr Diu yn 1509.[4] Bu’r cyfnod hwn yn allweddol o ran ei helpu i gasglu gwybodaeth am fordwyo ac am diroedd a gwledydd draw yn y Dwyrain.[1]

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, bu Magellan yn hwylio gyda Diogo Lopes de Sequeira a Francisco Serrão, ei ffrind ac o bosib ei gefnder, draw i Malacca ym Maleisia. Yn 1511, wedi i Magellan a Serrão fod yn rhan o goncwest Malacca, dychwelodd Magellan i Bortiwgal tua 1512 neu 1513.[5]

Gadawodd wasanaeth Brenin Portiwgal heb ganiatâd ac felly collodd ffafr y Brenin. Bu draw ym Moroco lle cafodd ei anafu, a chyhuddwyd ef o fasnachu’n anghyfreithlon gyda'r Mwriaid. Ni chafodd y cyhuddiadau eu profi ond ni chynigiwyd llawer o waith i Magellan ar ôl 1514. Yn 1517, cwerylodd gyda’r Brenin Manuel I, a wrthododd geisiadau cyson ganddo i arwain mordaith er mwyn cyrraedd Ynysoedd y Sbeisys o’r dwyrain (fel nad oedd angen hwylio o gwmpas penrhyn de Affrica). Oherwydd y cweryl gadawodd Bortiwgal a mynd i Sbaen. Cyrhaeddodd Sevilla a phriododd Maria Caldera Beatriz Barbosa. Ganwyd dau o blant iddynt, sef Rodrigo de Magalhães a Carlos de Magalhães, ond bu farw’r ddau yn ifanc.  

Cylchdaith o gwmpas y bydGolygu

Wedi i’w gais am fordaith i Ynysoedd y Sbeisys gael ei wrthod yn gyson gan y Brenin Manuel o Bortiwgal, trodd Magellan am gefnogaeth gan Siarl I, brenin ifanc Sbaen. Yn ôl Cytundeb Tordesillas yn 1494, roedd Portiwgal yn rheoli'r llwybrau dwyreiniol draw i Asia a oedd yn mynd o gwmpas Affrica. Portiwgal oedd piau’r tiroedd i’r cyfeiriad hwnnw tra mai Sbaen oedd yn rheoli i gyfeiriad y gorllewin. Bwriad Magellan, yn hytrach, oedd cyrraedd Ynysoedd y Sbeisys yn y Dwyrain ar hyd y llwybr gorllewinol, drwy Dde America a thrwy'r Môr Tawel, gan osgoi Penrhyn Gobaith Da yn Ne Affrica, a reolwyd gan Bortiwgal.[6]

 
Victoria, yr unig long yn fflyd Magellan i gwblhau'r daith. Ortelius, 1590.

Cefnogodd Siarl I y fenter drwy ei chyllido, gan obeithio y byddai’r llwybr hwn o fantais fasnachol i Sbaen. Hwyliodd fflyd o longau Magellan, a oedd yn cynnwys pum llong, gyda digon o adnoddau ar gyfer dwy flynedd o hwylio a chriw o tua 270 o ddynion.[7] Roedd y mwyafrif yn Sbaenwyr, gyda thua 40 o Bortiwgeaid.[8]

Gadawodd Magellan Sbaen gyda’i fflyd o longau ar 20 Medi 1519, gan hwylio i’r gorllewin ar draws Môr yr Iwerydd tuag at Dde America. Ym mis Rhagfyr cyrhaeddwyd Rio de Janeiro ym Mrasil ac wedyn hwyliwyd i lawr ar hyd arfordir De America er mwyn chwilio am ffordd i hwylio drwy neu o gwmpas y cyfandir. Gorfodwyd y fflyd i atal fforio am tua thri mis oherwydd tywydd gwael, ac yn ystod y cyfnod hwnnw wynebodd Magellan fiwtini ymhlith y morwyr. Llwyddodd i gael rheolaeth ar y sefyllfa, gyda Mendoza yn cael ei ladd yn ystod y ffrwgwd, a phenderfynodd Magellan bod Quesada i gael ei ddienyddio a Cartagena i gael ei ynysu a’i adael ar ôl.

Ailgychwynnwyd chwilio am lwybr i’r Môr Tawel yn Hydref 1520, a bryd hynny daeth y fflyd o hyd i fae, a wnaeth eu harwain at lwybr a oedd yn eu cyfeirio drwodd i’r Môr Tawel. Dyma’r llwybr a enwyd yn Gulfor Magellan. Wrth fforio yn y culfor, gadawodd un o’r llongau y fflyd, sef y San Antonio, gan ddychwelyd i gyfeiriad y dwyrain yn ôl i Sbaen. Cyrhaeddodd y fflyd y Môr Tawel ar ddiwedd Tachwedd 1520, ac oherwydd anwybodaeth am ddaearyddiaeth y byd, credai Magellan mai dim ond siwrnai o tua 3 neu 4 diwrnod fyddai hi draw i Asia. Mewn gwirionedd, treuliwyd bron i 4 mis yn croesi’r Môr Tawel, ac oherwydd hynny daeth diwedd ar y cyflenwadau bwyd a dŵr, gyda tua 30 o ddynion yn marw o sgyrfi.[9]

 
Darlun arlunydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o farwolaeth Magellan yn nwylo rhyfelwyr Mactan

Ar 6 Mawrth 1521 glaniodd y fflyd ar ynys Guam[10] ac ar 16 Mawrth cyrhaeddodd y fflyd y Philipinas, lle buont yn aros am tua mis a hanner. Ceisiodd Magellan droi’r brodorion at Gristnogaeth a derbyniodd y mwyafrif o’r brodorion y ffydd newydd, heblaw am ynys Mactan. Ym mis Ebrill ceisiodd Magellan ac aelodau ei griw gael rheolaeth dros lwyth y Mactan drwy drais, ac yn y frwydr rhyngddynt lladdwyd Magellan.[11]

Yn dilyn ei farwolaeth olynwyd Magellan gan Juan Serrano a Duarte Barbosa fel cyd-gadlywyddion, a chyrhaeddwyd Ynysoedd Molwca yn Nhachwedd 1521. Llwythwyd y llongau gyda sbeisys a chychwynnwyd hwylio yn ôl am Sbaen, ond dim ond un o’r llongau, sef y Victoria, oedd mewn cyflwr digon da i hwylio. Dychwelodd y llong honno i Sbaen ar 6 Medi 1522 o dan gapteiniaeth Juan Sebastian Elcano, a thrwy hynny cwblhawyd y gylchdaith gyntaf ar y môr o gwmpas y byd. O’r 270 o ddynion a gychwynnodd ar y fordaith, dim ond tua 18 neu 19 a ddychwelodd.[12][13]

Gwaddol MagellanGolygu

Mae Magellan yn cael ei gydnabod fel unigolyn pwysig yn hanes fforio oherwydd mae ei gyfraniad ef at y gylchdaith gyfan gyntaf o gwmpas y byd yn cael ei ystyried fel mordaith allweddol yn hanes Oes Aur fforio. Amlygwyd pwysigrwydd ei fordaith ym methiant mordeithiau diweddarach i ddilyn ei lwybr - er enghraifft, mordaith Loaísa yn 1525 (pan oedd Juan Sebastian Elcano yn ail gadlywydd). Bu’n rhaid aros am 58 mlynedd arall, nes i Francis Drake a’i long Pelican lwyddo i gylchdeithio’n llwyddiannus o gwmpas y byd.

Enwyd y Môr Tawel gan Magellan (y cyfeiriwyd ato'n aml fel Môr Magellan mewn teyrnged iddo tan y ddeunawfed ganrif), ac enwyd y culfor a ddarganfuwyd ganddo yn Gulfor Magellan.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Ferdinand Magellan | Biography, Voyage, Discoveries, Death, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  2. "Ferdinand Magellan - Circumnavigation of the globe". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  3. "Magellan, Ferdinand", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 17, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Magellan,_Ferdinand, adalwyd 2020-08-24
  4. Renaissance and Reformation. Patrick, James, 1933-. New York: Marshall Cavendish. 2007. ISBN 978-0-7614-7650-4. OCLC 64487293.CS1 maint: others (link)
  5. Joyner, Tim. (1994). Magellan. Camden, Me.: International Marine. ISBN 0-07-033128-6. OCLC 51960470.
  6. "Ferdinand Magellan - Allegiance to Spain". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  7. Levinson, Nancy Smiler. (2001). Magellan and the first voyage around the world. New York: Clarion Books. ISBN 0-395-98773-3. OCLC 45363879.
  8. Bergreen, Laurence. (2003). Over the edge of the world : Magellan's terrifying circumnavigation of the globe (arg. 1st ed). New York: Morrow. ISBN 0-06-621173-5. OCLC 52047431.CS1 maint: extra text (link)
  9. Bergreen, Laurence. (2003). Over the edge of the world : Magellan's terrifying circumnavigation of the globe (arg. 1st ed). New York: Morrow. ISBN 0-06-621173-5. OCLC 52047431.CS1 maint: extra text (link)
  10. The Boxer Codex : transcription and translation of an illustrated late sixteenth-century Spanish manuscript concerning the geography, ethnography and history of the Pacific, South-East Asia and East Asia. Souza, George Bryan,, Turley, Jeffrey Scott,. Leiden. ISBN 978-90-04-29273-4. OCLC 927618969.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: others (link)
  11. "Ferdinand Magellan - Discovery of the Strait of Magellan". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  12. "Ferdinand Magellan - Circumnavigation of the globe". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-24.
  13. Cameron, Ian, 1924- (1974). Magellan and the first circumnavigation of the world. London,: Wiedenfeld and Nicolson. ISBN 0-297-76568-X. OCLC 842695.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)