Difa
Drama ddwy act heriol am salwch meddwl yw Difa gan Dewi Wyn Williams, a gyhoeddwyd yn 2015 gan Atebol.[1]
Awdur | Dewi Wyn Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 16 Tachwedd 2015 |
Pwnc | iechyd meddwl |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781910574362 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Daeth y ddrama yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych 2013, ac a lwyfanwyd gan Theatr Bara Caws yn Hydref 2015[2].
Awgryma'r ddrama mai trasiedi yw bywyd yn agos, a chomedi yw bywyd o bell. Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Oswald wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fos Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.
Cymeriadau
golygu- Oswald Pritchard
- Mona Pritchard - ei wraig
- Peter - cyn fos Oswald
- Dr King - seiciatrydd Oswald
Cynyrchiadau Nodedig
golyguLlwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn 2015. Cyfarwyddwr Betsan Llwyd; cynllunydd Emyr Morris Jones.
- Oswald Pritchard - Rhodri Evan
- Mona Pritchard - Bethan Dwyfor
- Peter - Llion Williams
- Dr King - Catrin Mara.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
- ↑ "Dewi Wyn Williams yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2014-08-07. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ Crump, Eryl (2015-11-11). "Review: Difa, Theatr Bara Caws, Neuadd Ogwen, Bethesda". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-24.