Medal Ddrama
Un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw Y Fedal Ddrama. Cyflwynwyd y Fedal am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005.[1] Cyfansoddi Drama Hir yw nôd arferol y gystadleuaeth, ond yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn 2005, ac am nifer o flynyddoedd wedi hynny, dyfarnwyd y Fedal am y ddrama orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Newidiwyd y drefn yn 2011, gan gynnig y Fedal dim ond am y Ddrama Hir fuddugol. Ar hyd y blynyddoedd, mae gofynion y gystadleuaeth wedi amrywio'n fawr, o ran hyd ac arddull.
Gwobrwywyd y ddrama oedd yn dangos yr addewid mwyaf gyda'r potensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol. Erbyn hyn, mae'r enillydd yn derbyn y Fedal (er cof am Urien Wiliam) a swm o arian.
Cyn 1943, rhoddwyd Gwobr Ariannol am y Ddrama Hir orau. Rhwng 1943 a 1993, cyflwynwyd Tlws y Ddrama i enillydd y Ddrama Hir orau.[2][3][4][5] Rhwng 1993 a 2004, dileuwyd y Tlws, a rhoddwyd Gwobr Ariannol hael eto, am y Ddrama Hir orau, cyn cyflwyno Y Fedal Ddrama newydd yn 2005.[6][7][8][9][10][11][12][13][14]
Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025, newidiwyd enw'r Fedal i Medal y Dramodydd, yn dilyn newidiadau yng ngofynion y gystadleuaeth.[15] Gwobrwyir y Fedal ynghyd â chomisiwn o £3,000 am y syniad neu'r ddrama fwyaf addawol, yng ngolwg consortiwm o aelodau cwmnïau theatr o Gymru.[15]
Mae nifer o ddramodwyr ac awduron blaenaf Cymru wedi ennill Cystadleuaeth y Ddrama Hir yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y degawdau gan gynnwys John Gwilym Jones, John Ellis Williams, Huw Lloyd Edwards, Urien Wiliam, Eigra Lewis Roberts, William R. Lewis, Meic Povey, William Owen Roberts, T James Jones a Dyfed Edwards. Derbyniodd Manon Steffan Ros Y Fedal Ddrama am ei Drama Fer, Mae Sera'n Wag yn 2005[1].
Atal y Wobr
golyguBu cryn ddadlau ac anghytuno dros y blynyddoedd, ac atalwyd y Wobr yn fwy aml na Phrif Wobrau eraill yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn yr hanner can mlynedd rhwng 1960 a 2010, atalwyd y Wobr (boed hynny yn Dlws, yn Wobr Ariannol neu'r Fedal) tuag ugain o weithiau, a ni chafwyd cystadleuwyr yn 1976. Penderfynodd sawl beirniad i roi cyfraniad ariannol i rai dramodwyr, er mwyn eu hannog i ddatblygu'r ddawn. Roedd yr atal yn amlwg iawn ar gychwyn y 2000au, ac yn un o'r prif resymau dros gynyddu'r Wobr Ariannol, ac yn y pendraw, gyflwyno'r Fedal Ddrama yn 2005. Rhoddwyd sylw a pharch pellach i'r dramodwyr buddugol drwy gynnal y Seremoni ar y Prif Lwyfan yn y Pafiliwn. Bu hynny'n lled lwyddianus a gwelwyd llawer mwy o ddramodwyr yn cael eu gwobrwyo yn y blynyddoedd a'u dilynodd.
1950au
golyguAtal y Wobr o leiaf tair gwaith.[16]
1960au
golyguAtal y Wobr tair gwaith a dyfarnu rhan yn unig o'r Wobr Ariannol ar sawl achlysur.[17][18][19][20][21]
1970au
golyguAtal y Wobr bedair gwaith, a neb yn cystadlu ym 1976.[22][23][24][25][26]
1980au
golyguAtal y Wobr dair gwaith.[27][28][29]
1990au
golyguAtal y Wobr o leiaf dair gwaith, ond y beirniaid ym 1997 yn dewis rhoi rhan o'r arian i'r dramodydd ddatblygu ei waith.[3][5]
2000au
golyguAtal y Wobr bum gwaith.[10][11][13][14][30]
2010au
golyguAtal y Wobr un waith.[31]
2020au
golyguAtal y gystadleuaeth un waith.[32]
Helynt Eisteddfod Llanrwst 1989
golyguEr nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws Y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 1989, teimlai dau o'r tri beirniad - John Ogwen, Bob Roberts ac Wyn Bowen Harris, bod dwy ddrama allan o'r deg yn codi uwch law y gweddill "siomedig iawn".[33] Teimlai John Ogwen mai dim ond un ddrama oedd yn addawol.[33]
Rhan o'r wobr y flwyddyn honno oedd i lwyfannu'r ddrama fuddugol gan gwmni theatr Hwyl a Fflag. Ond methwyd â chytuno ar yr enillydd.
Roedd Bob Roberts a Wyn Bowen Harris yn ffafrio'r ddrama Janine (gan Cefin Roberts): "Nid ydym, fel beirniaid, yn gytûn o gwbl ar rinweddau a ffaeleddau'r ddrama hon. Mae Wyn Bowen Harries yn ystyried bod y ddrama'n cynnwys enghreifftiau o ddehongli cynnil a hiwmor effeithiol a'i bod ar ei gorau pan fo'n awgrymu'r tensiynau sydd dan groen y cymeriadau. Mae ef hefyd yn ystyried bod potensial theatrig sylweddol yng nghymeriad Janine, ond bod angen datblygu ac egluro cymhellion y cymeriad ymhellach."[33]
"Mae John Ogwen, ar y llaw arall, yn teimlo bod y ddrama'n tueddu i droi yn ei hunfan a bod rhai o'r dyfeisiadau storiol (e.e., dylanwad y coffi rhyfeddol, y defnydd o'r teleffon a dawns anhygoel Janine) yn arwydd o straenio am effaith yn hytrach na chreu elfennau dramatig. Mae ef yn ystyried bod trawsnewid annisgwyl Janine yn anghredadwy, yn arbennig gan nad oes dim yn y sgript i gyfiawnhau hynny. Nid yw ef yn ei hystyried yn un o'r ddwy orau yn y gystadleuaeth."[33]
"Mae Bob Roberts yn teimlo bod agoriad y ddrama'n creu chwilfrydedd ac yn codi gobeithion nad ydynt yn cael eu gwireddu yng nghorff y ddrama. Mae'n ystyried bod y ddeialog yn rhythmig a naturiol, os braidd yn sathredig ac anghyson mewn mannau. Mae'n teimlo hefyd fod y cymeriadau'n ystrydebol, at ei gilydd. [...] Mae ef, fel John Ogwen, yn ei chael yn anodd iawn i ddeall beth yw'r alcemïaeth ryfeddol sy'n gallu troi geneth, ar amrantiad megis, o fod yn hen hoeden fach cwbl wyneb-galed, afreolus a bras ei thafod i fod yn eneth gymharol normal a dymunol. Mae'n anodd gweld sut y mae'r ffenomen arbennig na'n mynd i weithio ar lwyfan heb greu penblethod yn y gynulleidfa. Mae'n deg cyfaddef hefyd, wrth gwrs, mai dyna efallai yw'r pwrpas."[33]
"Mae dau ohonom, sef Wyn Bowen Harries a Bob Roberts, yn credu bod dwy ddrama, sef Janine a Berwi Wy [gan Dewi Wyn Williams a ddaeth i'r llwyfan maes o law fel y ddrama Leni] yn haeddu ystyriaeth bellach. Mae John Ogwen o'r farn mai Berwi Wy yn unig sydd yn haeddu ei hystyried ymhellach [...] Mae dau ohonom, sef John Ogwen a Bob Roberts, o'r farn nad oes yr un o'r dramâu a dderbyniwyd yn haeddu eu hanrhydeddu gyda Thlws y Ddrama. Dyfarniad terfynol John Ogwen yw nad yw'r un o'r dramâu yn haeddu'r wobr. Mae Bob Roberts yn credu, er gwaethaf y diffygion [...], fod awdur Berwi Wy yn haeddu canpunt or wobr ariannol fel cydnabyddiaeth o'r addewid sydd yn ei sgript. Mae Wyn Bowen Harries, ar y llaw arall, yn teimlo bod yna fwy o addewid yn Janine nag yn Berwi Wy a'i bod yn fwy addas i'w chyflwyno fel drama newydd yn rhaglen Ddrama'r Eisteddfod eleni. Mae ef, felly, yn argymell ei gwobrwyo. Gan mai Cwmni Hwyl a Fflag, o dan gyfarwyddyd Wyn Bowen Harries, sydd â'r cyfrifoldeb o lwyfannu'r ddrama fuddugol yn y gystadleuaeth hon, ac oherwydd ystyriaethau technegol ac ymarferol, cytunwyd bod ei sefyllfa ef fel Cyfarwyddwr yn cyfiawnhau rhoi'r llais terfynol iddo ef gan mai ganddo ef a'i gwmni y mae'r cyfrifoldeb o droi'r sgript yn darn o theatr. Ei ddewis ef yw cyflwyno'r ddrama Janine." [33]
"Mae'n biti fod mwy o ddrama wedi digwydd ynghylch y gystadleuaeth nag oedd ynddi", meddai John Ogwen, wrth Golwg [Medi 1989].[34] "Mae'r holl beth yn sawru o annhegwch", ychwanegodd. Yn ôl John Ogwen, roedd hi'n gamgymeriad cael darpar-gyfarwyddwr y ddrama hefyd yn feirniad. "Dwi'n deall ei deimladau'n iawn", meddai. "Fyddai'r un cyfarwyddwr yn leicio cael drama wedi ei orfodi arno".[34] Wrth adolygu'r cynhyrchiad gan Hwyl a Fflag ym 1989, fe ddywed Alun Ffred yn ei adolygiad crafog yn Golwg [Medi 1989]: [35]
"Petai Janine ar brawf mewn llys barn, go brin y byddwn i'n cael bod yn un or rheithgor. Gan 'mod i'n Gymro Cymraeg ac yn trigo yng Nghymru yn ystod haf 89 byddai'r amddiffyniad yn siwr o ddal mod i - a miloedd eraill - yn rhagfarnllyd o gofio'r fath stŵr cecrus a chyhoeddus fu yn Eisteddfod Llanwst ar gownt y ddrama. Mae'n werth cofio serch hynny nad y ddrama ei hun oedd achos y gynnen". [35]
Fe gafodd y ddrama Berwi Wy o waith Dewi Wyn Williams, ei llwyfannu yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Cwmni Theatr Gwynedd oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu o dan yr enw newydd, Leni.
Helynt Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024
golyguNid oedd Seremoni ar gyfer y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024. Ar brynhawn Iau yr Ŵyl, funudau yn unig cyn y Seremoni, cyhoeddodd yr Eisteddfod fod y gystadleuaeth wedi ei hatal am y flwyddyn honno. Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth. Roedd sïon ar hyd a lled y Maes yn damcaniaethu am y rheswm a chafwyd beirniadaeth gan lawer am nad oedd eglurhad pellach gan yr Eisteddfod.[15][36] Ni chafodd y feirniadaeth ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau, a ni ddatgelwyd faint oedd wedi cystadlu. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cyhoeddodd yr actor Wyn Bowen Harries ei fod wedi cystadlu am y Fedal, ac wedi derbyn beirniadaeth ffafriol iawn am ei ddrama DNA. Mynegodd ei siom dros benderfyniad yr Eisteddfod i ddileu'r seremoni a'r gystadleuaeth, heb roi rheswm digonol.[37]
Enillwyr
golyguGwobr Ariannol
golygu1930au
golygu- 1939 - John Gwilym Jones - Diofal Yw Dim (£30) - 11 wedi cystadlu; beirniaid W. J. Gruffydd a Saunders Lewis.[38]
Tlws y Ddrama
golygu1940au
golygu- 1943 - John Ellis Williams - Wedi'r Drin (Tlws) - 9 wedi cystadlu; beirniad J Kitchener Davies.[39]
- 1944 - W. Vaughan Jones - Brwyn Ar Gomin (Tlws a'r Hawlfraint) - 13 wedi cystadlu; beirniad D.T Davies.[40]
1950au
golygu- 1950 - Atal y Wobr - (Tlws a £25 a'r Hawlfraint) - 7 wedi cystadlu; beirniad D. T Davies.[41]
- 1951 - Atal y Wobr - (Tlws a £25 a'r Hawlfraint) - 5 wedi cystadlu; beirniaid J Kitchener Davies a D. Haydn Davies.[16]
- 1956 - Atal y Wobr - (Tlws a £50 a'r Hawlfraint) - 9 wedi cystadlu; beirniaid Mary Lewis a D.T Davies.[42]
- 1958 - Huw Lloyd Edwards - Cyfyng Gyngor (Tlws a £50 a'r Hawlfraint) - 10 wedi cystadlu; beirniad Mary Lewis; (difyr yw nodi bod y ddrama Cariad Creulon R. Bryn Williams wedi dod yn ail - "Buaswn o ddifrif yn ystyried Cariad Creulon fel drama i'w gwobrwyo, onibai i un arall ymddangos")[43]
1960au
golygu- 1961 - Gwilym Thomas Hughes
- 1962 - Atal y Wobr.[17]
- 1963 - Gwilym Thomas Hughes
- 1964 - Hanner y wobr i Gwilym Thomas Hughes[18]
- 1965 - Atal y Wobr (Tlws a £100) - 3 wedi cystadlu - beirniad Emyr Humphreys.[19][44]
- 1966 - Atal y Wobr (Neb yn deilwng o'r Tlws) ond rhoi £50 (hanner y Wobr ariannol) i Ken Etheridge am ei ddrama Y Creadur Gwirion fel anogaeth, ond ddim yn haeddu'r Tlws - 7 wedi cystadlu - beirniaid John Ellis Williams ac Emlyn James. [20][45]
- 1967 - Bob Roberts[46]
- 1968 - Ken Etheridge (£75 o'r wobr) [21]
- 1969 - John R. Evans - (Tlws a £50 (hanner y Wobr ariannol) - £25 i Tom Parry-Jones a £25 i Urien Wiliam[47]
1970au
golygu- 1970 - Atal y Wobr - (Neb yn deilwng o'r Tlws) Rhannwyd y wobr o £100 yn gyfartal rhwng Gwilym Thomas Hughes, Urien Wiliam, Jennet Eirlys Thomas a T. James Jones.[22]
- 1971 - Atal y Wobr.[23]
- 1972 - Urien Wiliam (a £50 i Bernard Evans) - Y Llyw Olaf
- 1973 - Urien Wiliam - Y Pypedau
- 1974 - Eigra Lewis Roberts[48] - Byd O Amser (Tlws a £150) - 5 wedi cystadlu; beirniaid Gwenlyn Parry, Emily Davies a John Gwilym Jones "Braidd yn siomedig oedd y gystadleuaeth hon eleni".[49]
- 1975 - William R. Lewis - Geraint Llywelyn - (Tlws a £75 (rhan o'r Wobr)) - Rhoddwyd £50 o'r £150 i Michael Povey a'r £25 yn weddill i Bernard Evans.[50]
- 1976 - Neb yn cystadlu[24]
- 1977 - Atal y Wobr [25] - (Tlws a £200) - 3 wedi cystadlu; beirniaid John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Urien Wiliam. "...y mae ein hymateb iddyn nhw'n siomedig a dweud y lleiaf - nid yn unig am fod y nifer mor fychan ond am fod y safon mor anhygoel o isel."[51]
- 1978 - Atal y Wobr - .[26]
- 1979 - J. Selwyn Lloyd (cystadleuaeth y ddrama hir)[52]
1980au
golygu- 1980 - William Owen Roberts[53]
- 1981 - John R. Evans[54]
- 1982 - Nan Lewis - Y Gelyn Pennaf - (Tlws a £250) - 7 wedi cystadlu - beirniaid Norah Isaac, R.Gerallt Jones ac Wilbert Lloyd Roberts.[55][56]
- 1983 - William Owen - Tewach Dŵr - (Tlws a £200 a'r hawlfraint) - 8 wedi cystadlu - beirniaid Dr John Gwilym Jones a Gwenlyn Parry.[57] [58]
- 1984 - Gwynne Wheldon Evans - Be' Ydi Be'? - (Tlws a £300) - 6 wedi cystadlu - beirniaid Norah Isaac, William R. Lewis a John Ogwen. [59][60]
- 1985 - Atal y Wobr.[27]
- 1986 - John Gruffydd Jones.[61]
- 1987 - Atal y Wobr.[28]
- 1988 - Dafydd Arthur Jones.[62]
- 1989 - Atal y Wobr - (Tlws a £400) - Gofyn am Ddrama fyddai'n cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod gan Theatr Hwyl a Fflag - 10 wedi cystadlu - beirniaid Bob Roberts, John Ogwen ac Wyn Bowen Harries.[29][63] (Gweler helynt Eisteddfod Llanrwst 1989 uchod.)
1990au
golygu- 1990 - Atal y Wobr - (Tlws a £400) - 7 wedi cystadlu - beirniaid Tim Baker, John A Owen a Manon Rhys.[3]
- 1991 - Gwion Lynch - Dim Ond Heno. (Tlws a £400).[64] Gofyn am Ddrama Hir fyddai'n cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod gan Gwmni Theatr Gwynedd. - 6 wedi cystadlu - beirniaid William R Lewis, J.O Roberts a Michael Povey. [2]
- 1992 - Pam Palmer - Yn Ein Dwylo (Tlws a £500) [65] - 14 wedi cystadlu - beirniaid Mei Jones, Eigra Lewis Roberts a Jeremy Turner. [4]
- 1993 - Atal y Wobr - (Tlws a £500) - 7 wedi cystadlu - beirniaid William R Lewis, Ewart Alexander a Graham Laker.[5]
Gwobr Ariannol
golygu1990au
golygu- 1994 - Aled Jones Williams - Y Dyn Ll’nau Bogs ; beirniaid Lindsay Evans, Gareth Miles ac Edward Thomas.
- 1995 - Miriam Llywelyn - Jeli Bebis (£500); [66] Ail - Aled Jones Williams - Pêl Goch (£300); Trydydd - Sian Summers - Pen Ffordd (£200) [6] - 8 wedi cystadlu - beirniaid Huw Roberts, Carys Ll Edwards a Graham Laker.
- 1996 - Dafydd Llewelyn Jones - Spam Man (£500); Atal yr ail a'r drydedd wobr - 6 wedi cystadlu - beirniaid Sharon Morgan, Elan Closs Stephens a Dewi Wyn Williams.[7]
- 1997 - Atal y Wobr - (£500) - 2 wedi cystadlu (ond y beirniaid yn dewis rhoi £300 i Endaf Jones am ei ddrama O Gariad Wen gan ei annog i ail-edrych yn fanwl ar y ddrama) beirniaid William R. Lewis, Bethan Jones a Dyfan Roberts.[67]
- 1998 - Richard T. Jones - Y Gadwyn Hon (£200 o'r Wobr ariannol); Gofyn am Gadwyn o Ddramodigau - 2 wedi cystadlu - beirniaid Valmai Jones, Gareth Miles a Manon Rhys.[8]
- 1999 - T. James Jones - Y Dyn Eira (£500); Ail - Paul Griffiths - Tango'n Tynged (£250) - 4 wedi cystadlu - beirniaid Manon Eames a William Owen .[9]
2000au
golygu- 2000 - Atal y Wobr (£1,200) - 1 wedi cystadlu - beirniaid Siwan Jones, William R Lewis a Sharon Morgan. [10]
- 2001 - Atal y Wobr (£1,200 a nawdd o £3,000) - 4 wedi cystadlu - beirniaid Tim Baker ac Alun Ffred. [11]
- 2002 - Cefin Roberts - Talu'r Pris Yn Llawn (£1,200 a nawdd o £3,000) - 6 wedi cystadlu - beirniaid Bethan Jones a Sian Summers.[12]
- 2003 - Atal y Wobr (£1,200 a nawdd o £3,000) - 4 wedi cystadlu - beirniaid Gwynne Wheldon Evans a Sioned Wiliam.[13]
- 2004 - Atal y Wobr (£1,200 a nawdd o £3,000) - 10 wedi cystadlu - beirniaid Jeremy Turner a Dewi Wyn Williams.[14]
Y Fedal Ddrama
golygu2000au
golygu- 2005 - Manon Steffan Ros - Mae Sera'n Wag* (Medal a £500) - beirniaid T. James Jones a Geraint Lewis. *Rhoddwyd y Fedal am y tro cyntaf i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Gwynedd Huws Jones (ddim yn haeddianol o'r Wobr Ariannol o £1,200 ond derbyniodd y nawdd o £3,000) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Blanc'ed, allan o'r 13 oedd wedi cystadlu. Manon Steffan Ros oedd enillydd y Ddrama Fer efo'i drama Mae Sera'n Wag, o'r 19 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Manon Steffan Ros.[1]
- 2006 - Atal y Wobr (Medal a £1,200/£500) - 10 wedi cystadlu - beirniaid Meic Povey a Branwen Cennard.[30]
- 2007 - Nic Ros - Tylwyth
- 2008 - Dyfed Edwards - Cors Oer* (Medal a £1,200) - beirniaid Bethan Jones a Rhys Powys. *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Dyfed Edwards (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Cors Oer, allan o'r 9 oedd wedi cystadlu. Dyfed Edwards oedd enillydd y Ddrama Fer hefyd, efo'i ddrama Apocalyps, o'r 8 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Dyfed Edwards.[68]
- 2009 - Dyfed Edwards - Tân Mewn Drain* (Medal a £1,200) - beirniaid Gwion Lynch a Dyfan Roberts. *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Dyfed Edwards (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Tân Mewn Drain, allan o'r 7 oedd wedi cystadlu. Huw Charles (£500) oedd enillydd y Ddrama Fer, efo'i ddrama Meindia Dy Fusnes, o'r 10 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Dyfed Edwards.[69]
2010au
golygu- 2010 - Atal y Wobr (Medal a £1,200) - 6 wedi cystadlu - beirniaid Cefin Roberts a Mari Emlyn. [31]
- 2011 - Rhian Mererid Staples* - Cynnau Tân (Medal a £500) - beirniaid Arwel Gruffydd a Sharon Morgan. *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Rhodri Trefor (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Ofn, allan o'r 7 oedd wedi cystadlu. Rhian Mererid Staples oedd enillydd y Ddrama Fer efo'i drama Cynnau Tân, o'r 10 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Rhian Mererid Staples[70].
- 2012 - William Bedwyr Rees - Trai (Medal a £500) - 9 wedi cystadlu - beirniaid Ian Rowlands a Sera Moore Williams.[71]
- 2013 - Glesni Hâf Jones - Dŵr Mawr Dyfn (Medal a £500) - 13 wedi cystadlu - beirniaid Mared Swain a Geraint Lewis.[72]
- 2014 - Dewi Wyn Williams - La Primera Cena - (Medal a £750) - 13 wedi cystadlu - beirniaid Roger Williams a Sara Lloyd.[73]
- 2015 - Wyn Mason - Rhith Gân - (Medal a £750) - 15 wedi cystadlu - beirniaid Betsan Llwyd, Ian Rowlands ac Iola Ynyr.[74]
- 2016 - Hefin Robinson - Estron - (Medal a £750) - 12 wedi cystadlu - beirniaid Catrin Jones Hughes, Aled Jones Williams a Ffion Haf.[75]
- 2017 - Heiddwen Tomos - Milwr yn y Meddwl - (Medal a £750) - 17 wedi cystadlu - beirniaid Tony Llewelyn, Sian Summers a Sara Lloyd.[76]
- 2018 - Rhydian Gwyn Lewis - Maes Gwyddno - (Medal a £750) - 19 wedi cystadlu - beirniaid Sarah Bickerton, Betsan Llwyd ac Alun Saunders.[77]
- 2019 - Gareth Evans-Jones - Adar Papur - (Medal a £750) - 11 wedi cystadlu - beirniaid Gethin Evans, Bethan Marlow a Branwen Cennard.[78]
2020au
golygu- 2020 - Dim Eisteddfod oherwydd Covid 19.
- 2021 - Gareth Evans-Jones - Cadi Ffan a Jan - (Medal Eisteddfod AmGen) - 5 wedi cystadlu - beirniad Gwennan Mair [79][80]
- 2022 - Gruffydd Siôn Ywain - Nyth - (Medal a £750) [81]
- 2023 - Cai Llewelyn Evans - Eiliad o Ddewiniaeth - (Medal a £750) [82] - beirniaid Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies.
- 2024 - Ataliwyd y Gystadleuaeth [32] - beirniaid Mared Swain, Richard Lynch a Geinor Styles. (Gweler helynt Eisteddfod Rhondda Cynon Taf)
Medal y Dramodydd
golygu2020au
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eryri. 2005. ISBN 1 84323 586 2.
- ↑ 2.0 2.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Delyn. 1991. tt. ix. ISBN 0 86383 820 0.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Cwm Rhymni. 1990. tt. x. ISBN 0 86383 653 4.
- ↑ 4.0 4.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ceredigion. 1992.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanelwedd. 1993. tt. x. ISBN 0 9519926 1 9.
- ↑ 6.0 6.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Colwyn. 1995. tt. viii. ISBN 0 9519926 3 5.
- ↑ 7.0 7.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Dinefwr. 1996. tt. xii. ISBN 0 9519926 4 3.
- ↑ 8.0 8.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Ogwr. 1998. tt. viii. ISBN 0 9519926 6 X.
- ↑ 9.0 9.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Môn. 1999. tt. xii. ISBN 0 9519926 7 8.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanelli. 2000. tt. viii. ISBN 0 9538554 0 6.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Ddinbych. 2001. tt. x. ISBN 0 9538554 8 1.
- ↑ 12.0 12.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Benfro. 2002. tt. x. ISBN 0 9540569 9 X.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 2003. tt. x.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Casnewydd. 2004. tt. xi. ISBN 9 781843 234357.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Griffiths, Paul (16 Awst 2024). "Adolygiadau Theatr Paul Griffiths". Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ 16.0 16.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanrwst. 1951.
- ↑ 17.0 17.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1962. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 18.0 18.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1964. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 19.0 19.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1965. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 20.0 20.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1966. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 21.0 21.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1968. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 22.0 22.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1970. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 23.0 23.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1971. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 24.0 24.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1976. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 25.0 25.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1977. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 26.0 26.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1978. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 27.0 27.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1985. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 28.0 28.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1987. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 29.0 29.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1989. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 30.0 30.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Abertawe. 2006. ISBN 1 84323 765 2.
- ↑ 31.0 31.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Blaenau Gwent. 2010. tt. xii. ISBN 978 0 9530950 4 9.
- ↑ 32.0 32.1 "Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-08. Cyrchwyd 2024-08-08.
- ↑ 33.0 33.1 33.2 33.3 33.4 33.5 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Llys yr Eisteddfod. 1989.
- ↑ 34.0 34.1 "Helynt Tlws Y Ddrama". Golwg 1. 7 Medi 1989.
- ↑ 35.0 35.1 Jones, Alun Ffred (21 Medi 1989). "Nid Croesi Cae... Alun Ffred a'r ddrama fu ynghanol ffrae". Golwg Cyfrol 2 Rhif 3.
- ↑ "Canslo'r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad gan yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ "Y diweddaraf ar ddydd Gwener yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dinbych. 1939. t. 214.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bangor. 1943.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llandybïe. 1944.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerffili. 1950.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Aberdâr. 1956.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Glynebwy. 1958.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 1965.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Aberafan. 1966.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1967. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1969. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1974. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Myrddin. 1974.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1975. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Wrecsam. 1977. ISBN 0 85088 437 3.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1979. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1980. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1981. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1982. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Abertawe. 1982. ISBN 0 85088 757 7.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1983. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ynys Môn. 1983. ISBN 0 86383 010 2.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1984. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanbedr Pont Steffan. 1984. ISBN 0 86383 170 2.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1986. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ "Academic dies on mountain walk". BBC News. 31 Ionawr 2006. Cyrchwyd 5 Awst 2016.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dyffryn Conwy. 1989. ISBN 0 86383 588 0.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1991. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1992. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ "Miriam Llewelyn - Playwright". www.doollee.com. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion. 1997. ISBN 0 9519926 5 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerdydd. 2008. ISBN 978 0 9553901 0 4.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion. 2009. ISBN 978 0 9553901 1 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Wrecsam. 2011. tt. xii. ISBN 9 780953 095056.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Morgannwg. 2012. tt. xii. ISBN 9 780953 095063.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Ddinbych. 2013. tt. xii. ISBN 978 0 9530950 8 7.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Gâr. 2014. tt. xii. ISBN 978 0 9576935 3 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 2015. tt. xiv. ISBN 978 0 9576935 6 2.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Fynwy. 2016. tt. xiii. ISBN 978 0 9954987 0 9.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ynys Môn. 2017. tt. xv. ISBN 978 0 9954987 2 3.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerdydd. 2018. tt. xv. ISBN 978 0 9954987 5 4.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Conwy. 2019. tt. xiv. ISBN 978 1 913257 00 2.
- ↑ Gareth Evans-Jones yn ennill y Fedal Ddrama. Eisteddfod Genedlaethol (2 Awst 2021).
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau AmGen. 2021. tt. xi. ISBN 978 1 9132570 1 9.
- ↑ Eisteddfod 2022: Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2022.
- ↑ "Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023". BBC Cymru Fyw. 2023-08-10. Cyrchwyd 2023-08-10.
Dolenni allanol
golygu