Diffyg ar y lleuad

(Ailgyfeiriad o Diffyg ar y lloer)

Pan fo'r Lleuad yn union y tu ôl i'r Ddaear, mae'r Ddaear yn atal golau'r Haul rhag ei chyrraedd ac felly ceir cysgod drosti; gelwir hyn yn ddiffyg ar y lleuad (hefyd clip ar y lleuad ac eclips lleuad).[1][2] Ceir dau fath o ddiffyg: llawn a rhannol.

Diffyg ar y lleuad
Matheclips Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspenumbral lunar eclipse, total lunar eclipse, partial lunar eclipse Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dim ond pan fo'r Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinell syth y ceir diffyg llawn a dim ond pan fo'r lleuad yn llawn y gall hyn ddigwydd. Ceir hefyd diffyg rhannol ar y lleuad.

Yn wahanol i ddiffyg ar yr Haul, a ellir ei weld yn unig o un rhan daearyddol o'r Ddaear, gellir gweld diffyg ar y lleuad o unryw ran o'r Ddaear sydd mewn nos. Gwahaniaeth arall yw fod diffyg ar y Lleuad yn para am oriau, eithr nid yw diffyg ar yr Haul yn para mwy nag ychydig funudau. Y rheswm dros hyn yw fod cysgod y Lleuad yn llawer iawn llai. Yn ogystal â hyn mae'n gwbwl ddiogel edrych ar ddiffyg ar y Lleuad heb unrhyw ffiltrau, rhag y pelydrau sy'n niweidiol i'r llygaid.

Ceir rhwng dau a phum diffyg rhannol ar y lleuad bob blwyddyn.

Lleoliadau

golygu
 
Yn lleoliad 1 a 4 mae diffyg ar y Lloer yn bosibl. Yn lleoliad 2 a 3 mae diffyg ar yr Haul yn bosibl.

Chwedloniaeth

golygu

Mae sawl diwylliant, dros y canrifoedd, wedi gweld tebygrwydd rhwng y cysgod yn symud dros y Lleuad ag anifail yn ei bwyta. Yn yr Hen Aifft, hwch oedd yr anifail ac yn ôl traddodiad y Maya, jagiwar ydoedd. Yn nhraddodiad Tsieina, llyffant teircoes oedd yn bwyta'r lloer a'r diafol mewn diwylliannau eraill a ellid ei erlid drwy daflu cerrig a rhegfeydd ato.[3]

Ym Mecsico, credent bod diffyg yr Haul a'r Lleuad yn digwydd pan oedd yr Haul a’r Lleuad yn cweryla; ar y llaw arall, credai pobl Tahiti mai syrthio mewn cariad oedd yr Haul a’r Lleuad ar yr adegau yma.

Mewn llenyddiaeth

golygu
  • 689: Cyfeiria Llyfr Coch Hergest at ddiffyg ar y lleuad yn y flwyddyn 689, pan sonir am law lliw gwaed: A'r lleuat a ymchoelawd yn waedawl liw.
  • 810-810 OC: Deg mlyned ac wythcant oed oet Crist pan duawd y lleuat dyw Nadolyc. Ac y llosget Mynyw. Ac y bu varwolaeth yr anifeilet ar hyt ynys Brydein. (Brut y Tywysogion)[4] Mae'n cyfeirio at y diffyg a fu ar 14 Rhagfyr 810 (Calendr Iŵl), mae'n debyg.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. ar y lleuad Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 27 Mawrth 2015
  2. Llyfrau Gwgl; adalwyd 27 Mawrth
  3. Littmann, Mark; Espenak, Fred; Willcox, Ken (2008). "Pennod 4: Eclipses in Mythology". Totality Eclipses of the Sun (arg. 3rd). Efrog Newydd: Oxford University Press. ISBN 978-0-19-953209-4. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2014.
  4. www.jonesbryn.plus.com; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 31 Mawrth 2015