Uwch Gynghrair Croatia

Uwch Gynghrair pêl-droed Croatia

Y Prva Hrvatska Nogometna Liga, Uwch Gynghrair Croatia neu Prif Gynghrair Croatia (a elwir hefyd yn Prva HNL, 1. HNL neu MAXtv Prva Liga am resymau noddi) yw'r gystadleuaeth categori uchaf yn system cynghreiriau pêl-droed yng ngweriniaeth Croatia. Fe'i trefnir gan Ffederasiwn Pêl-droed Croasia. Mae enillwyr y Prva HNL yn cystadleu yn Cynghrair y Pencampwyr UEFA ('Champion's Leagueg).

Uwch Gynghrair Croatia
GwladCroatia
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1992
Nifer o dimau10
Lefel ar byramid1
Disgyn iAil Gynghrair Croatia
Prif sgoriwrCroasia Davor Vugrinec (146)
Partner teleduT-Hrvatski Telekom
Arenasport
HNTV
Gwefanprvahnl.hr
2019–20 season

Fe'i crëwyd pan ddaeth Croatia yn annibynnol o Iwgoslafia yn 1991 a cynhaliwyd ei thymor gyntaf yn 1992. Mae'r Prva HNL yn cynnwys 16 tîm, sy'n chwarae eu gemau rhwng mis Gorffennaf a mis Mai.

Drwy gydol ei hanes, dim ond pedwar tîm sydd erioed wedi ennill y gynghrair, Dinamo Zagreb gydag 20 o gynghreiriau, Hajduk Split gyda chwech, NK Zagreb a HNK Rijeka ill dau gydag un. Noddwr y gynghrair ers 2017 yw T-Hrvatski Telekom, sy'n is-gwmni i Deutsche Telekom.

Hanes golygu

Cyn creu'r Prva HNL, roedd gan Croatia gynghrair rhwng 1941 a 1945, pan oedd yn wladwriaeth byped i'r Natsiaid Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn gynted ag y daeth y Rhyfel i ben, ail-unwyd Iwgoslafia a chafodd y clybiau Croateg eu hintegreiddio i'r bencampwriaeth wladwriaethol newydd.

Gydag ymwahanu Iwgoslafia yn yr 1990au daeth Cynghrair Gyntaf Iwgoslafia i ben yn 1992. Cydnabyddwyd annibyniaeth Croatia yn ryngwladol ar 12 Ionawr 1992,[1][2] (er i'r wlad ddatgan annibyniaeth ar 26 Mehefin 1991) ac roedd y rhan fwyaf o glybiau Croatia yn cydnabod Ffederasiwn Pêl-droed Croatia, a gafodd y gwaith i sefydlu twrnamaint cynghrair newydd cyn gynted â phosibl. Ar 29 Chwefror 1992, dechreuodd tymor cyntaf y Prva HNL,[3] gyda 12 tîm yn cael eu gwahodd gan y ffederasiwn. Yn eu plith roedd y ddau glwb gorau o bêl-droed Croateg yn ystod oes yr Iwgoslafia: Dinamo Zagreb - a ailenwyd yn HAŠK Građanski- a Hajduk Split. Y pencampwyr cyntaf oedd Hajduk Split. Oherwydd rhyfel annibyniaeth, cafodd y prosesau eu cyflymu i ffurfio'r twrnamaint ei hun, gyda chalendr o fis Chwefror i fis Mehefin yn hytrach na'r system Ewropeaidd arferol, ac ni allai llawer o glybiau chwarae yn eu meysydd arferol oherwydd bod eu dinasoedd yn cael eu ymosod.[4] Ni ddisgynodd unrhyw dîm o'r gynghrair yn y tymor cyntaf yma oherwydd amgylchiadau tymhestlog a by-rybudd ffurfio'r Gynghrair newydd. Bu i'r tymor cyntaf hwnnw gael ei chwarae yn gyfangwbl i mewn blwyddyn galendr 1992.

Gyda chydnabyddiaeth gan UEFA, tymor 1992-93 oedd yr un gyntaf i dimau Prva HNL chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd. Ehangwyd y twrnamaint i 16 o dimau, a blwyddyn yn ddiweddarach tyfodd i 18. Ni chafwyd unrhyw ddirywiad i gategorïau eraill tan dymor 1994-95, pan gyfunwyd system ranbarthol pêl-droed Croateg. Dros y blynyddoedd, defnyddiodd Prva HNL gwahanol fformatau, a arweiniodd at is-adran gyda 12 clwb. Er mai yn ystod y flwyddyn 2009-10 y cafwyd yr ehangu diwethaf i 16 o glybiau, achosodd problemau economaidd yr endidau i'r Ffederasiwn ddychwelyd i 12 o 2012 ymlaen.

Dominyddiaeth Dau Dîm golygu

 
Dinamo Zagreb v Hajduk Split, 2006

Drwy gydol ei hanes, mae Dinamo Zagreb a Hajduk Split wedi dominyddu Prva HNL. Y tîm cyntaf a'r unig dîm a enillodd y gynghrair ar wahân y ddau glwb yma yw NK Zagreb, a lwyddodd i ennill yn nhymor 2001-02 gyda staff lle'r oedd Ivica Olić, prif sgoriwr y flwyddyn, a'i hyfforddi gan Zlatko Kranjčar a HNK Rijeka.

Fformat golygu

Cynhelir tymor cynghrair Croateg rhwng mis Gorffennaf a mis Mai, y dyddiadau safonol ar gyfer pêl-droed Ewropeaid, gydag, ar hyn o'r bryd, 12 tîm yn y Gynghrair. Er mwyn lleihau'r nifer o dimau o 16 i 12 yn nhymor 2011-12, disgynodd bum clwb i'r adran is er mwyn lleihau nifer y cyfranogwyr i 12 y flwyddyn olynnol. Ers 2013-14 ceir 10 tîm yn y Prva HNL.

Rhaid i'r timau sy'n esgyn i Prva HNL fodloni cyfres o ofynion economaidd i ennill dyrchafiad, a chymeradwyaeth i'r Ffederasiwn. Os na wnânt hynny, mae'r tîm sydd safle yn is nag nhw yn gallu dyrchafu. Yn 2011-12 er enghraifft, dim ond un tîm, NK Lučko, a gafodd ei dyrchafu, gan nad oedd y lleill yn cyflwyno eu gwarantau mewn pryd.

Mae pedair tîm, Dinamo Zagreb, Hajduk Split, Osijek a Rijeka, erioed wedi disgyn o'r Uwch Gynghrair.

Tabl Pencampwyr golygu

Clwb Teitl Ail Trydydd Blwyddyn
  Dinamo Zagreb
20
4
2
1993, 1996, 1997, 1998, 1999, 2000, 2003, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2011, 2012, 2013, 2014, 2015, 2016, 2018, 2019
  Hajduk Split
6
12
6
1992, 1994, 1995, 2001, 2004, 2005
  HNK Rijeka
1
7
3
2017
  NK Zagreb
1
2
3
2002
  NK Slaven Belupo
-
1
1
---
  NK Inter Zaprešić
-
1
-
---
  NK Lokomotiva Zagreb
-
1
-
---
  NK Osijek
-
-
7
---
  NK Varteks Varaždin
-
-
3
---
  NK Hrvatski Dragovoljac
-
-
1
---
  HNK Cibalia Vinkovci
-
-
1
---
  RNK Split
-
-
1
---
  • Equipo desaparecido.

Gweler Hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Stephen Kinzer (24 December 1991). "Slovenia and Croatia Get Bonn's Nod". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 July 2012. Cyrchwyd 29 July 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Paul L. Montgomery (23 May 1992). "3 Ex-Yugoslav Republics Are Accepted into U.N." The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 July 2012. Cyrchwyd 29 July 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Croatia - List of Champions". RSSSF. 1992. Cyrchwyd 2 November 2014.
  4. Fútbol croata en 1992 RSSSF.com
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.