H.N.K. Hajduk Split

clwb pêl-droed Croatia, Split
(Ailgyfeiriad oddi wrth Hajduk Split)

Mae Hrvatski nogometni klub Hajduk Split (Clwb Pêl-droed Croatieg Hajduk Split) neu HNK Hajduk Split neu, gan amlaf, Hajuk Split yn un o glybiau pêl-droed mwyaf Croatia a, chyn hynny, Iwgoslafia. Ynganer yr 'H' fel 'ch' Gymraeg. Er bod y clwb yn dod o Split, fe'i sefydlwyd ym 1911 ym Mhrâg, a oedd, ar y pryd, fel Split, y genedl Slaf arall oedd yn rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Hajduk Split
HNK Hajduk Split.svg.png
Enw llawn Hrvatski nogometni klub Hajduk Split (Croatian Football Club Hajduk Split)
Llysenwau Bili (Y Gwynion)
Majstori s mora (Meistri'r Môr)
Enw byr HAJ
Sefydlwyd 13 Chwefror 1911; 109 o flynyddoedd yn ôl (1911-02-13)
Maes Stadion Poljud
(sy'n dal: 34,198)
Perchennog Cyngor Dinas Split (65.92%)
Udruga "Naš Hajduk" (24,53%)
Rest (9,55%)
Chairman Marin Brbić
Rheolwr Damir Burić
Cynghrair Prva HNL
2019–20 Prva HNL, 5ydd of 10
Gwefan Hafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae'n un o'r clybiau mwyaf dylanwadol yn hanes pêl-droed Iwgoslafia a Croateg: tan 1991, blwyddyn diddymu ffederasiwn Iwgoslafia, roedd yr Hajduk wedi ennill 9 pencampwriaeth a chymaint o gwpanau cenedlaethol ac ar ôl annibyniaeth y wlad, graddiodd yn bencampwr cenedlaethol 6 gwaith ac enillydd Cwpan Croatia sawl gwaith.

HanesGolygu

SefydluGolygu

 
Sefydlwyd Hajduk yn nhafarn U Fleků, Prâg

Sefydlwyd y clwb ym mragdy'r U Fleků ar 13 Chwefror 1911 gan fyfyrwyr o Split a oedd yn astudio ym Mhrâg (rhan o'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari ar ôl hynny), a'i chofrestru'n swyddogol ar 13 Chwefror 1911 [1] ar ôl mynychu gêm rhwng Sparta Prâg a Slavia Prâg: dyma'r prif reswm dros gêm canmlwyddiant gêm rhwng Hajduk a Slavia Prâg ar ddydd Sul 14 Chwefror 2011.

Enwau'r sylfaenwyr oedd: Fabjan Kaliterna, Lucijan Stella, Ivan Šakić, Vjekoslav Ivanišević a Vladimir Šore. Dewiswyd yr enw "hajduk" (mor-ladron) wrth a'r esboniad "Hrvatski Nogometni Klub" ("clwb pêl-droed Croateg"), a defnyddiwyd lliwiau hanesyddol Croatia fel yr arwyddlun: y darian sgwariog coch a gwyn fel yn yr arwyddlun.

Wrth drafod yr enw y clwb newydd gan gynnwy; "Velebit", "Uskok", "Marjan" holodd y myfywyr barn ei hen athro, Josip Barač, am gyngor. Yn ôl y sôn, rhuthrodd y myfyrwyr fewn i swyddfa'r athro a dywedodd yntau wrthnt i fabwysiadu'r enw "Hajduk" gan mai yna oedd symol "yr hyn sydd orau yn ein pobl - dewrder, dynoliaeth, cyfeillgarwch, cariad at ryddid, gwrthsefyll y cryf a diogelu'r gwan. Byddwch yn deilwng o'r enw fawreddog hwnnw."[2]

Roedd yr Hajduk yn dorwyr cyffraith neu fôr-ladron a rhamantwyd am eu gwrthwynebiad i reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ystyrir i'r hajduk enwog, Andrija Šimić, a ddaeth i Split yn 1902 i gymeradwyaeth frwd gan y dorf wedi cyfnod hir mewn carchar Awstriaid, efallai fod yn ysbrydoliaeth i'r enw.[2]

Roedd y gêm agoriadol yn erbyn y tîm pêl-droed Eidalaidd y ddinas, Calcio Spalato, a orchfygwyd gyda 9-0 clir. Gofir bod Split yn ddinas â chymuned eidalaidd yr adeg yma.

Cyfnod Iwgoslafia GyntafGolygu

 
Hajduk cyn y gêm yn erbyn HŠK Zrinjski Mostar, 13 Awst 1939, enillwyd 3–2.

Cyrhaeddodd y clwb y lefelau uchaf ym mhencampwriaeth genedlaethol Iwgoslafia yn y 1920au pan enillodd ddau deitl, a thrwy hynny dorri goruchafiaeth timau Zagreb a Belgrâd. Yn 1930, dechreuodd y chwaraewyr Hajduk, ynghyd â chlybiau Croateg eraill, foicot yn erbyn tîm pêl-droed cenedlaethol Iwgoslafia, mewn protest yn erbyn yr unbennaeth (Serbia) a gyhoeddwyd gan y brenin ym 1929.

Yr Ail Ryfel BydGolygu

Digwyddodd dwy ffaith yn fwy chwilfrydig, diddorol, yn ystod yr ail ryfel byd. Ar ôl i Deyrnas yr Eidal feddiannu Split o dan yr unben Mussolini, daeth y clwb â'i weithgareddau i ben. Gwrthododd Hajduk Split y cynnig gan Ffederasiwn Pêl-droed yr Eidal i gystadlu yn Serie A. Gwrthododd y clwb hefyd gymryd rhan ym mhencampwriaeth Croateg a sefydlwyd gan gyfundrefn Ffasgaidd, yr Ustasha o dan yr unben Croatieg, Ante Pavelić.

Yn 1944, penderfynodd y tîm a'r staff technegol fynd i mewn yn anghyfreithlon gyda chnewyllyn partizaniadid Iwgoslafia a oedd â'u canolfan eu hunain ar ynys Lissa, gan ddod yn dîm swyddogol byddin ryddhau'r Iwgoslafia, gan chwarae dan yr enw "Hajduk-NOVJ".

Iwgoslafia Gomiwnyddol 1945-1991Golygu

Ar ôl creu Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, gwrthododd y chwaraewyr a'r grŵp technegol y cynnig a'r pwysau, hyd yn oed yr un Tito [heb ffynhonnell], i symud i Belgrade a dod yn glwb ffurfiol swyddogol byddin Iwgoslafia (daeth yn Seren Goch Belgrâd, tra i dim fawr arall Belgrâd, F.K. Partizan, gael gafael ar y rhan fwyaf o'r pêl-droedwyr gorau o weddill Iwgoslafia, yn gyntaf oll yn seren Zagreb, Stjepan Bobek. Partizan ddaeth i fod yn dîm yr awdurdodau Comiwnyddol. Oherwydd ei safiad genedlaetholaidd a gwrth-ffasgaidd cryf yn y Rhyfel, Hadjuk oedd yr unig dîm fawr yn Iwgoslafia na ddisodlwyd gan yr awdurdodau Comiwnyddol yn 1945.

Roedd y blynyddoedd aur cyntaf yn y pumdegau. Enillodd y Zlatna generacija ("cenhedlaeth aur") dair pencampwriaeth Iwgoslafia ym 1950, 1952 a 1955. Yn y blynyddoedd hyn, cewri'r tîm oedd y golwr Beara a Bernard Vukas.

Ar ôl ychydig o ddegawdau tywyll, dychwelodd Hajduk i amlygrwydd cenedlaethol yn y 1970au gyda'r ail "zlatna generacija" gan enill pum Cwpan Iwgoslafia yn olynol a thair pencampwriaeth Iwgoslafia rhwng 1972 a 1979.

Roedd y genhedlaeth hon yn cynnwys amddiffynwyr Džoni, Holcer, Buljan, Mužinić a Peruzović, chwaraewyr canol cae Jurica Jerković, Gudelj a Hlevnjak (ond cyrhaeddodd Brane Oblak hefyd o Ljubljana; ac ymosodwyr Žungul a Šurjak ac, yn fuan wedi hynny, Slišković).

Mae'r cwmni'n safle 4ydd yn safle parhaol yr Iwgoslafia Prva Liga.

Pencampwriaethau Croateg a Chwpanau CroategGolygu

Ymranodd Iwgoslafia yn 1991 wrth i Croatia a Slofenia ddatgan annibyniaeth. Gyda sefydlu Uwch Gynghrair Croatia y Prva HNL, rhannodd yr Hajduk gyda Dinamo Zagreb fuddugoliaeth derfynol y bencampwriaeth a chystadlaethau eraill, gan ennill wyth Pencampwriaeth Croateg (1941, 1946, 1992, 1994, 2001, 2004, 2005), chwe chwpan Croateg ( 1993, 1995, 2000, 2003, 2010, 2013) a phum cwpan Super Croateg (1992, 1993, 1995, 2004, 2005).

Y StadiwmGolygu

Mae Hajduk wedi bod yn chwarae yn stadion Gradski u Poljudu ers 1979; adeiladwyd y stadiwm ar gyfer Gemau Môr y Canoldir a gynhaliwyd yn Split. Tan hynny, chwaraewyd gemau cartref ar y plodyn Kod stand (a elwir hefyd yn "Stari plac" neu "Staro Hajdukovo").

Cit a LliwiauGolygu

Chwaraeodd Hajduk ei gêm gyntaf mewn stribed gyda streipiau fertigol coch a gwyn, a oedd yn symbol o arfbais Croatia. Gan nad oedd Cyngor y Ddinas yn ystod yr Ymerodraeth Awstria-Hwngari am ymddangos yn rhy genedlaetholaidd ni ganiatawyd y lliwiau oedd yn awgrymu baner trilliw (coch, gwyn a glas) y mudiad cenedlaethol Croatieg. Newidiodd Hajduk ei gynllun cit i streipiau fertigol coch a glas gyda gwyn "Hajduk" yn y canol. Ym 1914, dewisodd y clwb grys gwyn, siorts glas a sanau; cyfuniad sy'n symbol o hwyliau gwyn ar fôr glas. Ers hynny mae'r lliw gwyn wedi dod yn symbol i'r clwb, ynghyd â'r llysenw 'Bili'.

ArwyddlunGolygu

 
Carfan Hajduk yn 1955, yn gwisgo arwyddlun y seren goch
 
Arwyddlun Seren Goch Hajduk, 1960–1990

Mae arwyddlun Hajduk yn cynnwys bwrdd sgwariog enwog a nodweddiadol Croatia gyda 25 o sgwariau coch a gwyn wedi eu ffinio â chylch o ruban glas, gyda dwy linell fertigol gwyn ar bob ochr. Mae'r geiriau Hajduk and Split wedi'u hysgrifennu uwchben ac o dan y bwrdd sgwariog yn y drefn honno. Mae symbolaeth y llinellau fertigol gwyn yn dal i gael ei thrafod, gyda theorïau fel bod yn symbol o'r pedwar sylfaenydd, yr arwydd hafal neu ddyfynodau.

Mae'r arwyddlun fodern bron yr un fath â'r un a grëwyd ym 1911. Dyluniwyd y gwreiddiol gan un o sylfaenwyr y clwb, Vjekoslav Ivanišević. Yna, aethpwyd ag ef i Ana, chwaer y brodyr Kaliterna a gymerodd lun o'r arwyddlun i gwfeint lle creodd lleianod 20 i 30 darn â llaw. Ymddangosodd yr arwyddlun yn gyhoeddus yn gyntaf yn 1926 yn ystod perfformiad o'r opera Tijardović, Kraljica baluna (opera i ddathlu 15 mlyned y clwb)[3]fel rhan o'r golygfeydd.

Fodd bynnag, nid oedd Hajduk yn gwisgo'r arwyddlun wreiddiol cyn yr Ail Ryfel Byd gan nad oedd yn orfodol ar y pryd. Ar ôl aileni'r clwb yn dilyn diwedd y Ryfel, daeth yr arwyddlun newydd yn seren goch yn unig - symbol o wrth-ffasgiaeth a safodd Hajduk yn ystod y Rhyfel. Ym 1960, gwnaed arfais newydd, yn debyg i'r hen un ond gyda'r seren goch yn y canol yn hytrach na'r hen fwrdd gwyn traddodiadol gwyn a gwyn. Yn 1990, yn ystod taith yn Awstralia, dychwelwyd yr arwyddlun wreiddiol ac fe'i defnyddiwyd byth ers hynny.

AnrhydeddauGolygu

Mae Hajduk wedi ennill 2 bencampwriaeth Teyrnas Iwgoslafia (y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd); 7 pencampwriaeth Iwgoslafia Gomiwnyddol; 9 Cwpan Iwgoslafia; 6 pencampwriaeth Uwch Gynhrair Croatia a 5 Super Cup Croatia.[4]

Dramor, mae'r clwb wedi cyrraedd 5 rown chwarteri Ewropeaidd; 3 gwaith yn yr hen Gwpan Ewrop unwaith yn Cwpan UEFA ac unwaith y Cwpan Enillwyr Cwpannau Ewrop. Maent hefyd wedi cyrraedd rownd semi-ffeinal Cwpan Enillwyr cwpan 1973 a cwpan UEF 1984.

Gêm Enwog yn erbyn Seren Goch Belgrâd a Marwolaeth TitoGolygu

Cofir am gêm enwog rhwng Seren Goch Belgrâd a Hajduk - dau o dimau mwyaf Iwgoslafia - ym mis 4 Mai 1980. Yn ystod y gêm cyhoeddwyd bod Tito arweinydd ac unben Comiwnyddol Iwgoslafia wedi marw.[5] Roedd gan Hajduk Split (tîm o Groatia) enw fel tîm cefnogol i gomiwnyddiaeth gan i'r tim ddianc o'r ddinas yn hytrach na chwarae o dan reolaeth Ffasgwyr yr Eidal o dan Mussolini yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Am hyn, Hajduk Split oedd yr unig dîm a fodolau cyn y Rhyfel na disodlwyd gan y Comiwnyddion wedi iddynt gipio grym yn 1945.

Yn ystod y gêm, ar 41 munud, gyda'r sgôr yn 1-1, gorchmynwyd y dyfarnwr i stopio'r gêm wrth i Faer Split gyhoeddu bod Tito wedi marw. Daeth y gêm i ben a dechreuodd y dorf a'r chwaraeon ddechrau llefain a chysuro ei gilydd mewn galar. Dechreuodd y dorf o 50,000 lafar-ganu cerdd adnabyddus mewn clôd i Tito, Druže Tito, mi ti se kunemo — "Comrad Tito, rhoddwn iti ein lle" [6] Stopiodd y gêm a dechreuodd y dorf gerdded i ganol y ddinas mewn distawrwydd. [7] Prin ddegawd yn ddiweddarach a daeth Iwgoslafia i ben a chwaraeodd Seren Goch ran yn hwnnw hefyd.

DomestigGolygu

  • Croatia Annibynnol
  • Uwch Gynghrair Croatia Ennill (6): 1992, 1993–94, 1994–95, 2000–01, 2003–04, 2004–05
  • Cwpan Croatia Ennill (6): 1992–93, 1994–95, 1999–2000, 2002–03, 2009–10, 2012–13
  • Super Cup Croatia Ennill (5): 1992, 1993, 1994, 2004, 2005
  • Banate Croatia
  • Ennill (1): 1940–41[46]
  • Iwgoslafia
  • Uwch Gynghrair Iwgoslafia Ennill (9): 1927, 1929, 1950, 1952, 1954–55, 1970–71, 1973–74, 1974–75, 1978–79
  • Cwpan Iwgoslafia Ennill (9): 1966–67, 1971–72, 1972–73, 1973–74, 1975–76, 1976–77, 1983–84, 1986–87, 1990–91

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "HNK Hajduk Split—History: 1911 – 1920". Hajduk.hr. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2013.
  2. 2.0 2.1 Vjesnik: Po kome je Hajduk dobio ime?[dolen marw]
  3. "HNK Hajduk Split—History: 1921 – 1930". Hajduk.hr. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2013.
  4. https://hajduk.hr/eng/club/honours
  5. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02qk8l7
  6. https://medium.com/nations-and-balls/when-croats-and-serbs-cried-together-e042b05141ef
  7. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p02qk8l7