Dirgelwch Gallt y Ffrwd

(Ailgyfeiriad o Dirgelwch Gallt Y Ffrwd)

Nofel dditectif gan E. Morgan Humphreys yw Dirgelwch Gallt y Ffrwd, a gyhoeddwyd yn 1938 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Er nad y nofel dditectif gyntaf yn Gymraeg, mae'n garreg filltir yn hanes datblygiad y genre honno yn Gymraeg.[1] Fel straeon eraill E. Morgan Humphreys, mae'n llyfr i blant hŷn sy'n rhoi mwynhad i oedolion hefyd.

Dirgelwch Gallt y Ffrwd

Cynnwys golygu

Y ditectif diymhongar, anghonfensiynol ond cyfrwys John Aubrey yw'r prif gymeriad. Cyflwynwyd y cymeriad i ddarllenwyr Cymraeg yn gyntaf yn y gyfrol Y Llaw Gudd (1924), stori a oedd yn torri tir newydd yn Gymraeg ar y pryd.

Cyfuniad o stori antur a stori ditectif yw'r llyfr. Ceir elfennau rhamantus a lliwgar ynddi ond mae'r cynllun yn dynn a llawn troeon annisgwyl ac mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o leoliadau dychmygol yng nghefn gwlad Cymru wrth i Aubrey ymchwilio a datrys dirgelwch lladrad diemwnt oddi ar Rajah Bundipor.

Beirniadaeth golygu

Disgrifiwyd y stori fel "gorchest o gynllunio" gan y beirniad Bedwyr Lewis Jones:

Gorchest o gynllunio sy'n ein rhwydo fel hyn. O bennod i bennod datblygir y dirgelwch fymryn bach, ychwanegir ato a'i gymhlethu, daw mymryn o oleuni, yna tro arall annisgwyl sy'n ein synnu fwy byth. Un munud yr ydym ar fin gweld popeth yn glir a'r funud nesaf mae'r dryswch yn dwysháu.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwenn a Gwyn Jones (Gwasg Gomer, 1983), tud. 51.
  2. Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', tud. 51.


Llyfrau E. Morgan Humphreys  
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd